Mike Hedges: Diolch am yr ateb yna. Mae TAN 21, fel yr ydych chi newydd ei amlinellu, yn ymdrin â gwaredu gwastraff, ond, yn wahanol i gloddio glo brig, lle, ers 2009, y mae'n rhaid adeiladu pyllau glo mwy na 500 metr oddi wrth gartrefi, nid yw'n ymddangos bod rheol ar bellter llosgyddion oddi wrth tai. Mae gen i losgydd wedi'i gynllunio ar gyfer ardal Llansamlet Abertawe sy'n agos at dai ac ysgol. A...
Mike Hedges: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru ar adeiladu llosgyddion? OAQ52842
Mike Hedges: A gaf fi ofyn cwestiwn?
Mike Hedges: Mae angen imi wneud. Mae'n gwestiwn pwysig iawn. A yw fy mhleidlais yn dod drwodd, oherwydd nid yw i'w gweld ar y sgrin?
Mike Hedges: Ateb syml i Neil McEvoy: ymholltiad niwclear, na, ymasiad niwclear, ie. Ac rwy'n credu fy mod yn dal i gefnogi gwneud cynnydd pellach ar droi hydrogen yn ynni trwy ymasiad niwclear. Ond rwy'n cefnogi'r gwaharddiad ar ffracio yng Nghymru yn llwyr. Gallwn fod o ddifrif ynglŷn â newid hinsawdd a cheisio atal tymheredd y byd rhag codi, neu gallwn gefnogi ffracio. Ni allwn wneud y ddau. Ffracio:...
Mike Hedges: Diolch. A gaf fi ddiolch i David Melding am ei sylwadau y prynhawn yma, am ei gyfraniad i'r ddadl, ac am ei gyfraniad yn ystod y pwyllgor? Gallaf ddweud y byddwn yn gweld eich colli yn y pwyllgor pan fyddwn yn trafod tai. Mae'n nodi bod sicrwydd ansawdd yn bwysig. Mae angen i bobl gael sicrwydd os ydynt yn prynu rhywbeth, fod yr ansawdd sydd ganddynt yn golygu nad ydynt yn talu arian fel y...
Mike Hedges: Mae ein hadroddiad yn mynd i'r afael â'r rhesymau pam y mae angen cartrefi effeithlon o ran eu defnydd o ynni, costau cael tai nad ydynt yn defnyddio ynni'n effeithlon a'r camau angenrheidiol i ni gyrraedd lle mae angen inni fod er mwyn diwallu ein hymrwymiad ar leihau allyriadau. Pam y mae angen newid? Ceir llawer o resymau pam y dylem wella gallu ein stoc dai i arbed ynni. Y pwysicaf yw'r...
Mike Hedges: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar yr heriau o ddiwallu ein hangen am dai carbon isel. Hoffwn ddiolch i'r holl aelodau presennol a blaenorol o'r pwyllgor a gyfrannodd at ein hymchwiliad, y tîm clercio, y Gwasanaeth Ymchwil a'r rhai a roddodd dystiolaeth i ni.
Mike Hedges: Rwyf eisiau codi sefyllfa dinasyddion Ewropeaidd sy'n byw ym Mhrydain, sy'n briod â dinesydd Prydeinig, sydd â phlant Prydeinig, ac sy'n ofni y bydd yn rhaid iddynt adael y wlad, a gadael eu partner a'u plant ar eu holau. Nid yw'n gwestiwn academaidd, nid yw'n un sy'n seiliedig ar bosibilrwydd—mae'n gwestiwn gan un o fy etholwyr sy'n ofni canlyniad o'r fath. Pa drafodaethau y mae'r...
Mike Hedges: Ers datganoli, bu cynnydd yn ein cyfradd ailgylchu trefol o 5 y cant i 64 y cant, sy'n rhyfeddol. Caiff ei lywio gan bolisi, ond a gaf i ddweud, caiff ei ysgogi'n fwy gan y dreth tirlenwi, ac felly mae wedi rhoi pwysau ar yr awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn ailgylchu. Dim ond un o'r tri A yw Ailgylchu, wrth gwrs, i leihau'r gwastraff sy'n mynd i safleoedd tirlenwi. Y lleill yw 'arbed' ac...
Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad, y cyntaf—ac ni fydd hyn yn syndod i arweinydd y Tŷ—diweddariad ynghylch diswyddiad staff gan Virgin Media yn Abertawe, gan gynnwys manylion yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu'r staff i ddod o hyd i gyflogaeth amgen, ac unrhyw ddiweddariad ar y telerau diswyddo a gynigir. Yn ail—hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar brentisiaethau...
Mike Hedges: A gaf i yn gyntaf oll groesawu datganiad Llywodraeth Cymru? Rwy'n siŵr na fyddai unrhyw un yn anghytuno ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i helpu pobl anabl i gyflawni eu potensial a gwireddu eu dyheadau a'u breuddwydion—dylai pawb allu gwneud hynny. Cytunaf nad yw hon yn dasg hawdd, oherwydd mae'n gofyn inni weithio'n galed i chwalu'r rhwystrau sy'n eu hatal rhag uchelgeisiau o'r fath. Fel...
Mike Hedges: Fe fyddaf yn gryno iawn. Nid wyf yn gwybod a yw'r mwd yn ddiogel. Cynhaliwyd profion arno, ac rydym wedi cael canlyniadau'r profion hynny. Yr hyn rwy'n ei wybod yw na thawelwyd meddyliau'r cyhoedd ei fod yn ddiogel. Cynigiodd EDF friff i mi dair gwaith yr wythnos diwethaf. Bob tro, fe ofynnais am i'r mwd fod ar gael i academyddion dilys ei ail-brofi. Cafodd y cais hwnnw ei anwybyddu bob tro....
Mike Hedges: Wel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydym ni, ac felly a gaf fi ofyn i chi ddarparu unrhyw weithgareddau coffáu sy'n digwydd mewn rhannau eraill o Gymru, nid yn unig ym Mae Caerdydd? Gwn mai dyma ein prif weithle, ond mae Cymru'n llawer mwy na Bae Caerdydd yn unig, a gwn hefyd fod gan y Comisiwn staff mewn rhannau eraill o Gymru, felly os gwelwch yn dda, a gaf fi ofyn i chi ystyried rhannau...
Mike Hedges: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn derbyn ei bod yn anodd diffinio gwariant ataliol? Er enghraifft, mae gwario ar ofal cymdeithasol yn y cartref yn atal yr angen am ofal preswyl a gofal ysbyty. Mae gwariant ar feddygon teulu hefyd yn atal gofal ysbyty. Oni fyddai'n well diffinio'r gwariant fel yr hyn sy'n darparu budd hirdymor?
Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, hoffwn ddatganiad gan y Llywodraeth sy'n cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am gefnogaeth a chynnydd Llywodraeth Cymru o ran y rhaglen i ddigideiddio ar draws holl sector gyhoeddus Cymru. Yn ail—rwy'n gwybod ein bod wedi cael datganiad ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet ddoe a oedd yn trafod cau Virgin Media, a'r camau a fydd yn cael eu cymryd,...
Mike Hedges: Rwy'n siarad fel aelod arall o'r Pwyllgor Deisebau a glywodd y dystiolaeth a roddwyd i ni. Hefyd, a gaf fi ddiolch i Beth Baldwin am ei hymrwymiad a'i dyfalbarhad ar y mater hwn? Mae hi a'i theulu wedi ymdrechu'n ddewr i sicrhau y dylai'r drasiedi a ddioddefodd eu teulu arwain at welliannau o ran ymwybyddiaeth a chanfod diabetes math 1 mewn plant. Hebddi, ni fyddem yn cael y ddadl hon heddiw....
Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r gyllideb ddrafft. Wrth i gyni barhau, nid yw'r swm o arian sydd ei angen i redeg ein gwasanaethau cyhoeddus fel mae'r cyhoedd yn ei ddymuno yn cael ei ddarparu. Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi nad yw cyni yn bolisi economaidd ond yn gyfeiriad gwleidyddol. Mae'r Ceidwadwyr yn San Steffan...
Mike Hedges: Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny, ac mae hynny'n rhan fawr o ran nesaf fy araith. Ond un peth a ddywedaf, cyn imi orffen, yw bod yna bethau sy'n gweithio. Y model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer y gwasanaethau arennol y mae'r ardaloedd yn Hywel Dda a'r ardaloedd yng ngweddill bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn elwa ohonynt—rwyf wedi sôn am hynny ers saith mlynedd, ac ni fu'r...
Mike Hedges: Ydw.