Caroline Jones: Brif Weinidog, yn ystod y Cynulliad blaenorol, cynyddodd Llywodraeth Cymru nifer y lleoedd myfyrwyr bydwreigiaeth. Fodd bynnag, yn yr 'Adroddiad ar Gyflwr Gwasanaethau Bydwreigiaeth' diweddaraf, mae Coleg Brenhinol y Bydwragedd yn nodi nad yw’n briodol mwyach cynnal nifer gyson o leoedd hyfforddi, gan fod y boblogaeth fydwreigiaeth yn heneiddio. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i...
Caroline Jones: A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi cais Abertawe i fod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2021?
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Gan siarad fel Comisiynydd Cynulliad, hoffwn ei gwneud yn glir nad oes unrhyw un o staff y Comisiwn ar gontract dim oriau—mae hwnnw’n bolisi hirsefydlog. Mae’r un peth yn berthnasol i’r staff a gyflogir yn uniongyrchol gan ein contractwyr megis CBRE, Charlton House a TSS. Yn ogystal, mae’r Comisiwn yn nodi bod yn rhaid talu o leiaf y cyflog byw i weithwyr, fel yr...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan fwrdd iechyd Prifysgol Abertawe a Bro Morgannwg niferoedd cyson o uchel o bobl sy’n aros mwy na 12 awr yn ei adrannau damweiniau ac achosion brys. Ym mis Ionawr gwelsom gyfanswm o 890 o bobl yn aros mwy na 12 awr yn y ddwy brif adran damweiniau ac achosion brys. Nid oedd ond 150 o bobl wedi aros cymaint â hynny o amser yn adran ddamweiniau ac achosion brys...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Er ein bod yn croesawu camau i wella’r niferoedd sy’n gweithio ym maes gofal iechyd meddwl, megis cyflwyno cyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr yn canolbwyntio ar iechyd meddwl a llesiant, rydym yn dal i fod yn brin o staff a chyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru. Sut rydych yn ymateb i gyfarwyddwr Mind Cymru, sy’n datgan nad...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae mynegai lles yn y gweithle Mind yn dangos mai problemau iechyd meddwl yw prif achos absenoldeb yn y gweithle. Nid yw’r GIG hyd yn oed yn rhydd rhag hyn a chollwyd traean o filiwn o ddiwrnodau yn sgil problemau iechyd meddwl ymhlith staff iechyd y llynedd. Un o’r rhwystrau mwyaf i fynd i’r afael â’r broblem yw diffyg mynediad at therapïau...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, fe wnaeth Heddlu De Cymru ymdrin â mwy o ddigwyddiadau iechyd meddwl y llynedd nag unrhyw heddlu arall yn y DU. Fe wnaeth swyddogion yr heddlu yn ne Cymru ymdrin â bron i 39,000 o ddigwyddiadau iechyd meddwl yn ystod 2016. Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn cytuno y dylai pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl gael gofal gan wasanaethau iechyd...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Unwaith eto cafodd Rhosili ei enwi’n un o’r 10 traeth gorau yn y DU a hefyd mae’n un o’r traethau gorau ym Mhrydain ar gyfer cŵn. Roedd y traeth ym Mhenrhyn Gŵyr o fewn dim i fod ar y brig, ac mae’n cystadlu gyda’r traethau gorau yn Nyfnaint, Cernyw a Dorset. Ysgrifennydd y Cabinet, os ydym am fanteisio ar hyn a chynyddu nifer yr ymwelwyr â...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, heb fod yn sicr ynghylch dilysrwydd, neu ba mor wir hyd yn oed, yw’r ddogfen hon yr honnir iddi gael ei datgelu’n answyddogol, rhaid i ni fod yn hynod o ofalus rhag achosi hysteria ynglŷn â cholli swyddi yn ffatri injans Ford ym Mhen-y-bont. Yr unig sylwadau swyddogol a gawsom gan Ford yw eu bod yn lleihau’r buddsoddiad, ond maent yn dal i wneud buddsoddiad...
Caroline Jones: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i gynyddu nifer yr ymwelwyr â Gorllewin De Cymru? OAQ(5)0133(EI)
Caroline Jones: Fel aelod o'r pwyllgor iechyd, hoffwn ddiolch i'n Cadeirydd ac aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd golegol yr ydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y Bil hwn. Hefyd, diolch i swyddogion iechyd ac asiantaethau allanol am ddarparu eu tystiolaeth i ni. Bydd UKIP yn cefnogi egwyddorion cyffredinol Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru). Mae llawer i’w ganmol am y Bil hwn. Rydym yn croesawu'r camau a...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i Joyce Watson, Janet Finch-Saunders a Mike Hedges. Ysgrifennwyd y canlynol yn 1966, ac mae’n tynnu sylw yn fwy huawdl at bwnc unigrwydd ac arwahanrwydd nag unrhyw eiriau y gallwn eu cyfansoddi. Beth a welwch, nyrsys, beth a welwch? / Beth a feddyliwch pan fyddwch yn edrych arnaf fi? / Ai hen wraig grablyd, heb fod yn ddoeth...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y penderfyniad dewr gan weithlu Tata i dderbyn cynnig Tata yn helpu i sicrhau dyfodol cynhyrchu dur yng Nghymru. Mater i’r ddwy Lywodraeth bellach, yn San Steffan ac yng Nghymru, yw helpu i sicrhau cynnydd yn y galw am ddur o Gymru. Fel y trafodwyd yn y ddadl ar y môr-lynnoedd llanw yma ddoe, mae Tidal Lagoon Power yn gobeithio caffael y rhan fwyaf o’u dur o...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, cysylltodd nifer o etholwyr â mi ar ôl cael eu heffeithio gan yr adolygiad cyflogau a gynhelir gan awdurdodau lleol. Mae pobl sydd wedi bod yn gweithio mewn rolau sgil uchel ers degawdau wedi darganfod yn sydyn fod eu swyddi wedi cael eu hailddosbarthu fel rhai heb sgiliau, ac o ganlyniad, mae fy etholwyr wedi gweld toriad yn eu cyflogau, weithiau cymaint â 25 y...
Caroline Jones: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau cyflog teg i staff llywodraeth leol? OAQ(5)0093(FLG)
Caroline Jones: Rydym ni, yn UKIP, o blaid morlynnoedd llanw ac yn cydnabod bod gan y dechnoleg y potensial i gyflenwi llawer o anghenion ynni'r DU, lleihau ein hallyriadau carbon ac, yn bwysicaf oll, darparu sicrwydd ynni ac arallgyfeirio ynni. Roedd gen i, fodd bynnag, lawer o gwestiynau am sut y câi’r cynlluniau eu hariannu a sut y byddai cymunedau lleol a’r economi leol yn elwa o adeiladu a...
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae’r trydydd sector a'i fyddin o wirfoddolwyr yn arbed miliynau o bunnoedd i’r pwrs cyhoeddus bob blwyddyn ac yn darparu gwasanaethau gwerthfawr na all y sector cyhoeddus eu darparu. Mae'r trydydd sector yn ein diogelu pan fyddwn yn mynd i'r traeth neu’r rygbi, yn darparu gwaith ymchwil gwerthfawr i nifer o glefydau a chyflyrau, yn ymgyrchu dros hawliau gwell, tai a llu...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Suzy am gynnig ein bod yn deddfu i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael y sgiliau sylfaenol i achub bywyd. Ddoe, buom yn trafod y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau ar y galon yn y Siambr hon, a thynnu sylw yn ystod y ddadl at y ffaith y bydd 720 o bobl yn mynd i’r ysbyty bob mis yng Nghymru ar ôl cael trawiad ar y galon ac yn anffodus, bydd 340 o’r bobl hynny’n marw....
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gan y rhan fwyaf o’r ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn Abertawe gymarebau disgybl/athro sy’n uwch na 25, ac mae pob un ond un yn y categorïau cymorth melyn ac oren. Mae hyn, ynghyd â newyddion diweddar yn tynnu sylw at yr anhawster i recriwtio athrawon cyfrwng Cymraeg, a newyddion am yr oedi difrifol o ran cyflwyno’r cwricwlwm, yn destun pryder....
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Er gwaethaf datblygiadau diweddar mewn gofal coronaidd, mae clefyd y galon yn parhau i fod yn un o'r lladdwyr mwyaf yng Nghymru. Y mis hwn, bydd tua 750 o bobl yn colli eu bywydau i glefyd cardiofasgwlaidd; bydd 720 yn mynd i'r ysbyty oherwydd trawiad ar y galon; ac, yn anffodus, bydd 340 o'r rheini yn marw. Hefyd, y mis hwn, bydd tua...