Mark Isherwood: Ar 28 Hydref, cyhoeddodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad ysgrifenedig ar fetro gogledd Cymru. Roedd llawer o gynnwys y datganiad hwnnw wedi'i gymryd o ddogfennau gweledigaeth twf a chais twf Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru—o barthau teithio integredig i'r llwybr rhwng Wrecsam a Bidston i'r seilwaith ffyrdd a rheilffyrdd. Roedd disgwyl i benawdau'r telerau ar y...
Mark Isherwood: Fel y gwyddoch, mae Tata Steel yn Shotton yn fusnes deinamig ac yn allforiwr pwysig, ond mae'n dibynnu ar y gadwyn gyflenwi am ddur cynaliadwy Prydeinig, ac ar ddefnydd crai o'r pen trwm yn ne Cymru. Ddydd Llun, cefais e-bost, fel y gwnaeth Aelodau eraill sy'n cynrychioli'r ardal, gan Faes Awyr Heathrow, yn cyhoeddi eu bod yn un o'r 18 safle ar y rhestr fer i fod yn hwb logisteg i Heathrow,...
Mark Isherwood: 4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi datblygu economaidd yng Ngogledd Cymru? OAQ54626
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at nifer o faterion. Clywsom gyfeiriad at gamddefnyddio sylweddau, digartrefedd, efallai addysg ac iechyd hefyd, sy'n ymwneud â gwasanaethau datganoledig. Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at nifer o faterion sydd heb eu datganoli, megis gwasanaethau prawf, ond rydym yn gwybod eu bod yn cael eu hailintegreiddio gyda'r system carchardai, ac mae...
Mark Isherwood: Bythefnos yn ôl, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, cefais gyfarfod â Rhian Mannings, sef sylfaenydd a phrif weithredwr yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, i drafod eu gwaith yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn sydyn ac yn drawmatig, a all fod yn sgil hunanladdiad, neu drwy...
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, ni siaradais yn uchel iawn. Roeddwn yn arfer gweithio i gymdeithas adeiladu sydd bellach yn rhan o'r Nationwide y sonioch chi amdano, ac fel aelod gwirfoddol o fwrdd cymdeithas dai. Rwyf wrth fy modd eich bod wedi cyflwyno hyn gan bwysleisio mai cwmnïau cydfuddiannol cydweithredol yw'r rhain, ac mae aelodau'n talu £1 ac yn cael pleidlais yn eu trefniadaeth. At ei gilydd,...
Mark Isherwood: Rydych yn dweud nad ydych erioed wedi torri tai cymdeithasol, ac rwy'n cymryd eich bod yn cyfeirio at y Llywodraeth hon, oherwydd bydd ystadegau eich Llywodraeth eich hun yn profi iddynt gael eu torri'n aruthrol yn nhri thymor cyntaf y Cynulliad a'u bod wedi gwastatáu wedi hynny. Roedd y grant tai cymdeithasol yn dal i adeiladu tai cymdeithasol drwy landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ac...
Mark Isherwood: Yn 2007 oedd hynny. Fel y dywedodd y bobl ifanc yng ngogledd Cymru wrthym bryd hynny, mae angen cyfryngu ac ymyrraeth gynnar ar gam mwy buan—mae angen inni fynd i mewn i ysgolion a gweithio gyda theuluoedd cyn i bobl fynd yn ddigartref. Mynegwyd pryder bryd hynny gan sawl sefydliad gwirfoddol, gan gynnwys Shelter Cymru, nad oedd llawer o bobl ddigartref neu bobl a allai fynd yn ddigartref...
Mark Isherwood: Fel y dywed ein cynnig, nid yw polisïau cyfredol i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu ar y stryd yn cyflawni'r hyn sy'n ofynnol. Ond nid oes dim o hyn yn newydd. Dyblodd ffigurau digartrefedd yn ystod tymor cyntaf y Cynulliad rhwng 1999 a 2003. Cyflwynodd Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd fesurau atal digartrefedd anstatudol yn ystod ail dymor y Cynulliad i fynd i'r afael â hyn....
Mark Isherwood: Wrth gwrs, rwy'n rhannu eich teimladau ac yn cydymdeimlo â theuluoedd y bobl hyn sydd wedi dioddef profiad erchyll, beth bynnag oedd eu cymhelliad i ddod yma. Mewn gwirionedd, mae sawl blwyddyn ers i mi fynegi pryder yn y Siambr hon gyntaf fod Caergybi yn fan gwan o ran smyglo pobl i mewn i'r DU. Ym mis Mai, dywedodd Hafan o Oleuni, sefydliad di-elw sy'n canolbwyntio ar atal, codi...
Mark Isherwood: Diolch. Ar ddechrau’r mis, derbyniodd yr holl Aelodau e-bost gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith a oedd yn tynnu sylw at y risgiau os yw cyfathrebu lleferydd ac iaith heb ddatblygu'n llawn. Rwyf am sôn am ychydig o bethau a wnaethant, ond er enghraifft, heb gymorth effeithiol, bydd angen triniaeth iechyd meddwl ar un o bob tri phlentyn ag anawsterau lleferydd, iaith a...
Mark Isherwood: 8. Pa gymorth sydd ar gael ar gyfer disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru? OAQ54570
Mark Isherwood: Wel, o ystyried y 53 y cant a bleidleisiodd yn 2016, a datblygiad eich dadleuon—rhagdybiaeth bod pobl yn gwybod mwy erbyn y blynyddoedd dilynol, ac yn arbennig hyd at 2019—gwelodd 19 allan o 22 o ardaloedd cyngor fwyafrif yn pleidleisio dros y Blaid Brexit yn yr etholiad Ewropeaidd. Yn etholiad Brycheiniog a sir Faesyfed, pleidleisiodd dros hanner y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddatganiad unigol ar blant sy'n cael eu haddysgu gartref? Os caiff plentyn ei arestio ni ellir ei orfodi i roi tystiolaeth. Felly, pan fo plentyn mewn perygl difrifol o gael ei niweidio, mae angen gorchymyn llys os yw'r rhiant yn gwrthod rhoi caniatâd i'r plentyn gael ei gyfweld. Fodd bynnag, codwyd pryder gyda mi y byddai canllawiau statudol drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer...
Mark Isherwood: Rwyf newydd orffen.
Mark Isherwood: Fy ngeiriau olaf, yn llythrennol.
Mark Isherwood: Mae'n ddrwg gennyf, a wnewch chi ailadrodd hynny?
Mark Isherwood: Rhaid inni ddechrau sefydlu a yw hyn wedi'i fonitro a'i orfodi'n briodol, ac edrych arno ymhellach os ydyw. Ond rwy'n amau nad yw'n cael ei fonitro a'i orfodi'n briodol, a dyna lle mae angen i ni ddechrau.
Mark Isherwood: Yn ystod yr ail a'r trydydd Cynulliad, mynegodd cyrff masnach, yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru a Chynghrair Twristiaeth Cymru bryder eang am effaith cynigion Llywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd ar fusnesau twristiaeth yn sgil newid y meini prawf cymhwyso ar gyfer llety hunanddarpar. Ymhellach, roedd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gellid...
Mark Isherwood: Wel, mae'r model cymdeithasol o anabledd, a ddatblygwyd gan bobl anabl, yn dweud bod pobl yn anabl oherwydd rhwystrau mewn cymdeithas, nid oherwydd eu nam nac unrhyw wahaniaeth. Gall rhwystrau fod yn gorfforol, fel adeiladau heb doiledau hygyrch, neu gallant gael eu hachosi gan agweddau pobl tuag at wahaniaeth. Gan gadw hynny mewn cof, ac fel y mae ein hadroddiad yn datgan, ‘Mae...