Vikki Howells: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cyfraddau canfod canser? OAQ(5)0064(FM)
Vikki Howells: Mae llawer o drigolion yn fy etholaeth i, sef Cwm Cynon, ymhlith yr 1 miliwn neu fwy o bobl ledled Cymru sy'n rhoi'n hael o'u hamser i wella eu cymunedau a bywydau eu cymdogion. Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i ni ddweud 'diolch' wrthynt ac i dynnu sylw at eu cyfraniad. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y 40,000 o wirfoddolwyr o bob rhan o'r DU a weithiodd gydag Ymddiriedolaeth...
Vikki Howells: Siaradodd yr Aelod blaenorol am un busnes; hoffwn i dynnu sylw at y ffaith bod 770 o fusnesau wedi eu creu ym mhob rhan o Rhondda Cynon Taf, gan gynnwys yn fy etholaeth i, Cwm Cynon, diolch i arian yr UE, gan gyflogi pobl leol a chyfrannu at yr economi leol. Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno â mi bod ein haelodaeth barhaus o'r UE a'r gefnogaeth y mae'n ei darparu yn hanfodol er mwyn...
Vikki Howells: Arweinydd y tŷ, os gwelwch yn dda a allem gael datganiad am fancio tir gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant? Mae bancio tir yn broblem go iawn yn fy etholaeth yng Nghwm Cynon a ledled Cymru, gyda safleoedd pwysig mewn llawer o drefi a phentrefi yn cael eu cadw, a thrwy hynny’n rhwystro’r adfywio a allai roi hwb i adeiladu tai, creu swyddi newydd a gwella ein hamgylchedd...
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae'n newyddion da bod y gwaith yn mynd rhagddo ar ddatblygu cyswllt traws-gwm yn rhan ddeheuol Cwm Cynon, diolch i'r ffaith fod Llywodraeth Cymru a chyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithio gyda'i gilydd ac yn buddsoddi i wella rhwydweithiau lleol. A fyddwch chi’n parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fwrw ymlaen â’r prosiect seilwaith pwysig hwn, sydd...
Vikki Howells: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella’r seilwaith drafnidiaeth yng Nghwm Cynon am weddill tymor y Cynulliad hwn? OAQ(5)0005(FM)
Vikki Howells: Carwyn Jones.