Canlyniadau 781–800 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Dros y flwyddyn a hanner diwethaf, mae'r newidiadau i batrymau gweithio arferol a'r tarfu mewn ysgolion wedi bod yn ddigynsail. Mae'r proffesiwn addysgu wedi ymateb i'r heriau hyn gan ddangos lefel anhygoel o hyblygrwydd a gwydnwch ac yn parhau i ddangos lefelau aruthrol o broffesiynoldeb. Gaf i helpu Laura Jones gyda'i phenbleth yn ei haraith hi? Mae'n gwbl annerbyniol bod Llywodraeth y...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i mi ddechrau, hoffwn gofnodi fy niolch enfawr unwaith eto i'r gweithlu addysg cyfan am eu hymdrechion anhygoel i gefnogi ein pobl ifanc drwy'r cyfnod heriol hwn. Mae pob un ohonom yma heddiw yn gwybod am y rôl bwysig y mae athrawon a staff eraill ysgolion a cholegau yn ei chwarae yn cefnogi llesiant pobl ifanc, ond er mwyn gwneud hynny, mae'n rhaid i ni gefnogi...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Recriwtio athrawon (20 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Yn ffurfiol.

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Jane Dodds am y set honno o gwestiynau ac rwy'n ymuno â hi i dalu teyrnged i'm rhagflaenydd ac am ei hymrwymiad i ddiwygio'r cwricwlwm ac i agenda iechyd meddwl plant a phobl ifanc, a oedd yn flaenoriaeth ymroddedig iawn a sylweddol iawn iddi. Gobeithio y byddwch wedi clywed yn y cyfraniadau mae Lynne Neagle a minnau wedi'u gwneud yn y Siambr heddiw pa mor gydgysylltiedig yr ydym ni...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y ddau gwestiwn pwysig hynny. Rwy'n credu bod darparu digon o gapasiti yn y system i allu darparu hyfforddiant a datblygu'r amgylchedd dysgu proffesiynol sydd ei angen yn amlwg yn hanfodol. Rhan o'r buddsoddiad yr ydym ni wedi'i wneud, wrth gwrs, dros y cyfnod diweddar yw gwella'r capasiti yn ein hysgolion i allu ymateb i rai o brif heriau COVID, ac mae hynny'n cynnwys...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Delyth Jewell am y cwestiynau ar ddau faes pwysig iawn. O ran y cwestiwn cyntaf, o ran eco-bryder, rwyf wedi cydnabod eisoes yn y trafodaethau rŷn ni wedi eu cael mor bwysig yw cymryd ystyriaeth o hyn, ac mae e'n rhan greiddiol o'r gwaith rŷn ni'n ei wneud eisoes, wrth gwrs, yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau bod eco-bryder, fel ystod ehangach o bryderon, yn rhan o'r ddealltwriaeth...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am yr ystod eang honno o gwestiynau. Fe wnaf i geisio gwneud cyfiawnder ag ehangder a dyfnder y cwestiynau y gwnaeth hi ymdrin â nhw yn ei chyfraniad. O ran, yn gyntaf, y cwestiwn o recriwtio dros 100 o staff cyfwerth ag amser llawn i gefnogi gwaith cynlluniau treialu mewngymorth CAMHS ac ymyriadau eraill, rwy'n credu ei bod yn her cyrraedd y targed hwnnw ynddo'i...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhan bwysig o hyn yw alinio sut rydym yn cael mynediad at ddysgu gyda phatrymau byw modern. Mae'r gwaith bellach yn dechrau o ddifrif a byddaf yn cyhoeddi rhagor o fanylion dros yr wythnosau nesaf. I gloi, Dirprwy Lywydd, mae gennym ni yng Nghymru hanes balch o gefnogi iechyd a lles meddwl. A thrwy weithio ar draws y sector, gyda phartneriaid allweddol, byddwn yn...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Mae hwn yn ddarn hirdymor o waith ac rwyf am sicrhau bod ein gwaith mewn ysgolion yn cael ei ailadrodd ar draws gwasanaethau cyhoeddus eraill ac ar draws cymunedau. Dyna pam rydym ni wedi sicrhau cysylltiadau cryf rhwng ein fframwaith dull ysgol gyfan a fframwaith NEST/NYTH Law yn Llaw dros Blant a Phobl Ifanc, sy'n ategu ein fframwaith ysgol gyfan drwy gryfhau ymateb ein partneriaid a'r...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cefnogi lles meddwl mewn addysg (12 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae cefnogi lles emosiynol a meddyliol dysgwyr yn hanfodol os ydyn ni eisiau helpu pob person ifanc i gyflawni ei botensial. Rydyn ni yma yng Nghymru yn gweithredu'n gyflym. Eleni yn unig rydym wedi darparu lefelau cyllid uwch nag erioed i gefnogi dysgwyr. O ganlyniad, mae 24,000 yn rhagor o sesiynau cwnsela wedi helpu 6,000 yn rhagor o blant a phobl ifanc. Rydyn ni...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau Uchel mewn Addysg ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Wel, credaf fy mod yn cytuno â phwynt yr Aelod ynghylch pa mor bwysig yw sicrhau bod ysgolion yn cael eu harolygu'n rheolaidd er mwyn darparu gwybodaeth i ni am atebolrwydd ysgolion yn ehangach. Fel y gŵyr, yn y dyfodol, o dan y cwricwlwm newydd, cynhelir arolygiadau'n llawer mwy rheolaidd. Ar hyn o bryd, fel y gŵyr, mae Estyn wedi atal eu rhaglen arolygu graidd ar gyfer y tymor hwn, i...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Safonau Uchel mewn Addysg ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Cenhadaeth ein cenedl yw codi safonau addysg ar gyfer ein holl blant a phobl ifanc. Byddwn yn parhau i wneud hyn drwy ein rhaglen ddiwygio eang a buddsoddiad mwy nag erioed, yn ogystal â chymorth wedi'i dargedu ar gyfer carfannau penodol a dysgwyr difreintiedig ac agored i niwed.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dal i Fyny ym Maes Addysg ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei ddau gwestiwn pwysig. Ar yr ail bwynt, byddaf yn ysgrifennu ati'n benodol ynglŷn â hynny, os caf. Ar y pwynt cyntaf, mae'r rhaglen adnewyddu a diwygio a nodais yn awr wedi'i phwysoli'n benodol i adlewyrchu anghenion disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol mewn ysgolion, felly mae'r cyllid sy'n dilyn hynny a'r dyraniad i ysgolion yn adlewyrchu hynny'n benodol a dylai...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dal i Fyny ym Maes Addysg ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: A gaf fi annog yr Aelod efallai i fyfyrio ar y term 'dal i fyny'? Nid wyf yn siŵr mai dyna'r ffordd orau o gymell ein dysgwyr yng nghyd-destun y flwyddyn/18 mis y mae'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u cael. Gwn fod rhannau eraill o'r DU wedi dewis y term hwnnw, ond rwy'n credu y bydd cynnig ffordd fwy cefnogol i ddysgwyr o ddisgrifio'r modd yr ydym yn ceisio eu helpu yn fwy effeithiol yn y pen...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Dal i Fyny ym Maes Addysg ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Lles a chynnydd ein dysgwyr yw fy mhrif flaenoriaeth. Mae'r cynllun adnewyddu a diwygio yn nodi sut y byddwn yn cefnogi'r dysgwyr yr effeithiwyd arnynt fwyaf gan y pandemig. Rydym wedi dyrannu dros £160 miliwn tuag at y cymorth hwn y flwyddyn ariannol hon—mwy o wariant y pen i ddysgwyr nag unrhyw le arall yn y DU.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Wel, gan adleisio'r pwynt a godwyd yn y drafodaeth yn gynharach, yn sicr, gallwn wneud mwy o gyfraniad na'r hyn a wnawn ar hyn o bryd. Dyna pam ein bod wedi gosod polisi i ni ein hunain o sicrhau ein bod yn symud tuag at ysgolion carbon sero-net, ond mae angen gwneud hynny mewn ffordd y gellir ei chyflawni, ac mae'r cynlluniau peilot a lansiwyd gennym—mae un ym Mro Morgannwg, mae un yn sir...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig iawn, os caf fi ddweud. Ar y pwynt cyntaf, mewn perthynas â charbon sero-net, rydym ar y daith i sicrhau bod pob ysgol yn ysgol carbon sero-net, ond yn amlwg, nid ydym yn agos at gyrraedd y lan ar hyn o bryd. Ein tasg fel Llywodraeth yw gwneud cynnydd mor gyflym â phosibl ar hyd y llwybr hwnnw. Y rôl y mae'r cynlluniau peilot yn ei chwarae yn hynny o beth yw...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Prosiectau Adeiladu Ysgolion Newydd ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Mae gan y sector addysg rôl sylfaenol yn cefnogi ymateb Llywodraeth Cymru i'r argyfwng hinsawdd. Roeddwn yn trafod hyn mewn cyfarfod ag Aelodau eraill o'r Cabinet ac arweinwyr awdurdodau lleol y bore yma. Dyna pam y mae carbon sero-net yn ystyriaeth allweddol o dan fuddsoddiad y rhaglen ysgolion a cholegau ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a pham y mae cyllid ychwanegol eisoes ar gael i...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cofrestru i Bleidleisio ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n rhannu diddordeb yr Aelod mewn sicrhau ein bod ni'n cynyddu lefel gofrestru pobl 16 ac 17. Rhyw 43 y cant o bobl yr oed hynny wnaeth gofrestru, o gymharu â rhyw 77 y cant o'r boblogaeth yn gyffredinol, felly mae'n sicr bod angen cefnogi'n pobl ifanc ni i allu cofrestru. Mae dwy elfen o ran y gwaith rydw i'n gallu ei wneud i sicrhau ein bod ni'n gwneud hynny. Mae rhan ohono fe...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cofrestru i Bleidleisio ( 6 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Mae cefnogi pobl ifanc i arfer eu hawliau democrataidd yn flaenoriaeth, nid dim ond o ran addysg, ond er budd y Llywodraeth gyfan. Rwy'n trafod gyda’r Cwnsler Cyffredinol ffyrdd o gydweithio er mwyn cynyddu nifer y bobl ifanc 16 ac 17 oed sy’n cofrestru.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.