David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n cymeradwyo'r Aelod. Gwn fod ganddi ddiddordeb angerddol yn y maes hwn, a'i bod ymysg y lleisiau mwyaf diffuant a chynnar, yn wir, i annog polisi cyhoeddus gwell. Rwy'n cytuno'n llwyr â chysyniadau sylfaenol yr economi gylchol, ac mae deunydd pacio, yn benodol, yn her go iawn, ac mae angen i ni ailystyried. Rwy'n ddigon hen i gofio'r adeg pan oeddech yn mynd i...
David Melding: Paul Davies.
David Melding: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, am yr ateb hwnnw. Yn wir, cyhoeddodd EE fod Caerdydd yn un o chwe dinas yn y DU a fyddai'r cyntaf i gael rhwydweithiau symudol 5G. Mae hyn yn argoeli'n dda ar gyfer gwella gwasanaethau, nid yn unig drwy ddyfeisiau personol, a bydd hynny'n drawsnewidiol, ond i gynnig seilwaith integredig ar gyfer adeiladau, trafnidiaeth, cyfleustodau cyhoeddus, darparu...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwyf yn credu bod hwn yn faes pwysig o bolisi cyhoeddus. Gan ddibynnu ar sut yr ydych chi'n cyfrif cartrefi gwag—p'un a ydyn nhw'n wag ar ôl chwe mis, neu gyfnod byrrach—mae rhywle rhwng 23,000 a 43,000 o gartrefi gwag yng Nghymru. Yn fy ardal i, mae gan Rhondda Cynon Taf bron i 500 o adeiladau sydd wedi bod yn wag am bum mlynedd—dyna'r gwaethaf o unrhyw...
David Melding: 5. A wnaiff Arweinydd y Tŷ ddatganiad am gysylltedd 5G yng Nghaerdydd? OAQ53095
David Melding: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau na chaiff apwyntiadau eu methu yn GIG Cymru?
David Melding: 'Dyma agwedd ar 'bersonoliaeth Cymru' y gellir colli golwg arni wrth ystyried y wlad yn ddim ond rhan o Ranbarth Ucheldir Prydain. Wyneba Cymru wastadeddau Lloegr tua'r dwyrain, ond wyneba hefyd lwybrau'r môr tua'r gorllewin. Derbyniodd bobl a dylanwadau o'r naill gyfeiriad a'r llall, a bu'r cydadwaith rhwng yr hyn a ddaeth dros dir a'r hyn a ddaeth dros fôr yn thema gyffrous yn hanes...
David Melding: Bwm bwm. [Chwerthin.] Cafwyd llwyddiannau mawr yn yr oes Neolithig, fel rydych ar fin darganfod. Yng ngogledd-orllewin Ewrop, lle rydym ni, digwyddodd yr oes Neolithig rhwng tua 4,500 BC a 1,700 BC, er nad yw'n arbennig o ddefnyddiol inni fod yn rhy fanwl yn y materion hyn. Ni wnaeth neb ddeffro un dydd a dweud, 'A, mae'r oes Neolithig ar ben a'r Oes Efydd wedi dechrau', ond rydym yn hoffi...
David Melding: Ddirprwy Lywydd, nid wyf wedi arfer â'r fath groeso cynnes. Yn y 24 awr diwethaf neu oddeutu hynny rydym wedi trafod y gyllideb, rydym wedi trafod Brexit ac rydym newydd fod yn trafod record Llywodraeth Cymru, ond yn awr fe gawn ysbaid dawel, ac rwyf am droi at y Neolithig yn stori Cymru—
David Melding: A beth fyddai wedi digwydd pe bai'r Llywodraeth Lafur wedi cael eu hethol drachefn yn 2010 a bod cynlluniau gwariant Mr Darling wedi'u rhoi mewn grym? Sut y byddai hynny wedi effeithio ar eich gwariant presennol?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig yn ôl, rhoddodd yr Arglwydd Laming gyflwyniad ar ei adolygiad o'r system cyfiawnder troseddol ieuenctid i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ganlyniadau i blant. Soniodd am y canfyddiad brawychus fod plant sy'n derbyn gofal yn llawer mwy tebygol o ddod i gysylltiad â'r system cyfiawnder ieuenctid o gymharu â'u cyfoedion, yn aml oherwydd bod y rhai sy'n...
David Melding: Wel, mae rhyddhad naill ai'n ddefnyddiol, neu nid yw'n ddefnyddiol, felly rwy'n credu bod angen i chi benderfynu ynglŷn â hynny. Ac ni fuaswn yn hoffi mynd allan ar strydoedd Caerdydd, neu i Fynwy neu Ynys Môn, a dweud wrth y prynwyr tro cyntaf yno, sy'n talu llawer mwy na'r hyn y byddent yn ei dalu pe baent yn Lloegr, fod y dreth ychwanegol hon nac yma nac acw. Credaf fod honno'n neges...
David Melding: Wel, Weinidog, pan gyflwynwyd y polisi hwn, roedd yn dilyn llwybr gwahanol i'r opsiwn a oedd ganddynt yn Lloegr. Yno, mae prynwyr tro cyntaf yn cael rhyddhad hyd at £300,000, ac ar eiddo sydd wedi'i brisio ar y lefel honno, nid oes treth stamp o gwbl. Rydych yn nodi pris tŷ cyfartalog—rwy'n credu eich bod wedi dweud £140,000; nid wyf yn credu bod hynny'n gywir. Ar hyn o bryd, rwy'n credu...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae bron i flwyddyn ers y cyhoeddodd yr Ysgrifennydd cyllid ei newidiadau i'r dreth trafodiadau tir, gan symud y trothwy safonol ar gyfer taliad o £150,000 i £180,000. Pa asesiad a wnaeth eich adran o effaith debygol hyn ar brynwyr tro cyntaf yng Nghymru?
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod am benderfyniad cyngor Rhondda Cynon Taf i lansio'r rhaglen buddsoddiad cyfalaf fwyaf yn ei hanes, ac rwy'n siŵr eich bod chi fel finnau wedi croesawu'r penderfyniad hwnnw. Mae'n £300 miliwn, a bydd £45 miliwn ohono'n cael ei wario ar dai. Mae cynlluniau arloesol yn yr arfaeth, a phartneriaethau pwysig gyda'r sector preifat a chymdeithasau...
David Melding: Ac mae'r rheolau hynny yn cael eu newid; mae'r terfyn benthyca am gael ei godi.
David Melding: Rwyf eisiau sôn am dai, a chredaf ei bod yn brofiad eithaf sobreiddiol i edrych ar yr hanes yn mynd yn ôl dros yr 20 neu 25 mlynedd diwethaf. Nid wyf eisiau gwneud araith arbennig o bleidiol. Rwyf eisiau inni ystyried sut y gallwn ni feithrin consensws newydd, ac, yn ffodus, mae gennym ni lawer o hyblygrwydd wrth wella'r system gynllunio, addasu rhywfaint o'n gwariant, ond gallai llawer o'r...
David Melding: Wel, fel Ceidwadwr Rhyddfrydol, rwy'n credu mai dyna fu cenhadaeth fy mywyd hyd yn hyn, felly yn sicr rwyf i yn cytuno â chi. Ond fe wn i mewn democratiaeth, bod yn rhaid i chi dderbyn penderfyniad yr ydych yn wirioneddol anghytuno ag ef gyda chwerwder—dyna yw ystyr democratiaeth. Nid yw'n ymwneud â'i chael hi'n hawdd bob amser neu golli am bum mlynedd ac yna eich plaid chi'n mynd yn...
David Melding: Rwyf yn dod at y diwedd, ond rwy'n fodlon derbyn yr—.
David Melding: Rwyf i yn credu bod cytundeb Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn un da, ac mae'n adlewyrchu'r sefyllfa a grewyd gan ganlyniad y refferendwm, sef 52 y cant o blaid gadael, 48 y cant o blaid aros. Mae'r sefyllfa yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd yn un â mymryn o wahaniaeth iddi: perthynas barhaus gydag Ewrop, ond wedi ymadael hefyd â'i strwythurau gwleidyddol. Rwy'n credu bod hynny'n adlewyrchiad...