Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Weinidog. Un o'r rhwystredigaethau mwyaf i lawer o gleifion wrth geisio cael mynediad at wasanaethau meddygon teulu yw gwneud yr alwad ffôn gyntaf honno i gael apwyntiad gyda'r meddyg teulu. Defnyddiodd un o fy etholwyr—Mr Owen Smith o Bontypridd, a chredaf eich bod yn ei adnabod—ei gyfrif Twitter yn ddiweddar i dynnu sylw at y ffaith ei fod wedi ffonio ei feddygfa...
Andrew RT Davies: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau meddygon teulu yng Nghanol De Cymru? OAQ53339
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu targedau Llywodraeth Cymru ar gyfer profion addysg PISA 2021?
Andrew RT Davies: Trefnydd, a gawn ni ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda? Un ohonynt mewn cysylltiad â ffordd newydd sydd wedi ei chynnig gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bro Morgannwg rhwng Sycamore Cross a'r M4 ym Meisgyn. Rydym wedi cael newid Llywodraeth, byddwn i’n awgrymu—nid newid plaid, ond newid Llywodraeth—gyda Gweinidog newydd a Phrif Weinidog newydd, a byddai’n ddiddorol i drigolion yr ardal...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd cyllid, pa ddefnydd a wnaethoch o'r £31 miliwn a ddarparwyd gan y Trysorlys i Lywodraeth Cymru ar gyfer parodrwydd mewn perthynas â Brexit? Mae'r arian hwn wedi eich cyrraedd, ond pan holaf wahanol Weinidogion mewn sesiynau cwestiynau, maent yn edrych yn syn wrth glywed bod yr arian hwn yn llifo drwy Lywodraeth Cymru. Felly, a allwch ddweud yn benodol beth y mae'r £31 miliwn...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru wrth hyrwyddo Cymru dramor?
Andrew RT Davies: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ngwaith craffu diweddar y Gweinidog cysylltiadau rhyngwladol, nododd y byddai'n sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i'w chynghori ar ei chyfrifoldebau gweinidogol. Dywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent, wrth holi'r Gweinidog ar y pryd, bod y papur yr oedd hi wedi ei gyflwyno yn rhyw fath o naratif, heb unrhyw uchelgais na gweledigaeth. Yn benodol, wrth...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am rôl grwpiau gorchwyl a gorffen o ran datblygu cyfrifoldebau gweinidogol? OAQ53289
Andrew RT Davies: Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Efallai nad wyf yn darllen hyn yn iawn, ond rwy'n credu y bydd y cynnig hwn yn pasio gyda chefnogaeth unfrydol y prynhawn yma. Rwy'n derbyn nad yw'r pleidleisiau hyn yn tueddu i fod yn ddarostyngedig i'r chwip—nid yw'r dadleuon Aelodau hyn—felly os yw'r bleidlais yn pasio gyda chymeradwyaeth unfrydol—ac mae'r Llywodraeth wedi dangos eu...
Andrew RT Davies: Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad yn y ddadl hon ac yn benodol, menter y Llywydd ar ddechrau'r Cynulliad hwn i gyflwyno dadleuon ar fformat o'r fath fel y gall Aelodau gyflwyno materion fel hyn nad ydynt o fewn y cymhwysedd datganoledig, ond sy'n effeithio ar lawer o'n hetholwyr, a materion y mae gennym farn arnynt. Ac rwy'n talu teyrnged arbennig i John a Phil sydd yn yr oriel y prynhawn yma,...
Andrew RT Davies: Diolch, Weinidog. Mae'n dra hysbys fod gan eich rhagflaenydd berthynas heriol weithiau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a llywodraeth leol yn gyffredinol. Yn wir, dyfynnir eich cynghorydd arbennig yn y newyddion yn dweud bod y Gweinidog blaenorol yn dibynnu ar ffeithiau amgen yn aml iawn ar gyfer seilio ei benderfyniadau ynghylch llunio polisi. A allwch gadarnhau na fyddwch yn dibynnu...
Andrew RT Davies: Diolch.
Andrew RT Davies: Buaswn yn ddiolchgar pe gallech ychwanegu unrhyw gyngor ychwanegol mewn ymateb ysgrifenedig, os oes modd, Weinidog, gan fy mod yn sylweddoli efallai nad oeddech yn gwybod y cylch gorchwyl air am air. Ni fuaswn wedi disgwyl ichi wybod hynny, ond credaf fod pa hyder sydd gennych yr adroddiad terfynol, os nad yw'r ymgysylltu hwnnw wedi digwydd, yn fater gwirioneddol bwysig. Ond pwynt arall yr...
Andrew RT Davies: Rwy'n credu fy mod yn cymryd hynny fel pleidlais o hyder yng ngallu Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd i'r afael â'r pryderon yn y llythyr a gyflwynwyd gan 10—a chredaf fod hwnnw’n nifer digynsail—o broseswyr yma yng Nghymru. Pwynt arall a godwyd yw bod llawer o bwyslais yn yr ymateb heddiw, yn amlwg, ar ymchwiliad annibynnol Grant Thornton sy’n edrych ar rai o'r materion a nodwyd yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd. Weinidog, bellach, yn amlwg, mae gennych gyfrifoldeb cyffredinol am y portffolio materion gwledig a'r amgylchedd, ac yn benodol, am Cyfoeth Naturiol Cymru. Wrth deithio o gwmpas ers i mi ymgymryd â’r briff ar ran yr wrthblaid, a siarad â'r sector coedwigaeth yn benodol, maent yn pryderu'n fawr ynglŷn â'r modd y rheolir yr ystâd goedwigaeth yng Nghymru, ac yn arbennig...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu polisi Llywodraeth Cymru ar ad-drefnu llywodraeth leol? OAQ53242
Andrew RT Davies: Gweinidog, diolch am eich datganiad y prynhawn yma. Rwyf i’n rhywun sy’n credu y dylai fod cytundeb pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n meddwl bod hwnnw'n gam synhwyrol i'w gymryd. Pryd bynnag y byddwch chi'n gwahanu oddi wrth unrhyw sefydliad neu unrhyw unigolyn, neu mewn anghydfod cwmni, mae’n well i chi wneud hynny ar sail gyfeillgar, ar delerau y cytunwyd arnynt, nag...
Andrew RT Davies: Gweinidog, diolch am eich sylwadau y prynhawn yma, a dydd Mercher diwethaf hefyd, ac yn enwedig dydd Mercher diwethaf pryd y gwnaethoch chi gymeradwyo'n llawn cefnogaeth Llywodraeth Cymru i ynni niwclear, a oedd yn amlwg yn bryder i rai pobl o ystyried y gystadleuaeth arweinyddiaeth ddiweddar a gynhaliwyd o fewn y Blaid Lafur. Ond yr hyn y mae'n bwysig ei ddeall, fel y mae Horizon a Hitachi...
Andrew RT Davies: Weinidog, fe wnaethoch honiad mawr pan ymateboch chi i'r Aelod o Ynys Môn, pan ddywedoch y dylid ystyried y safle ar gyfer ei wladoli. Ai polisi swyddogol Llywodraeth Cymru yw y dylid gwladoli'r cynllun hwn, oherwydd, fel y dywedais, mae hwnnw'n honiad mawr iawn? A byddai gennyf ddiddordeb mewn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar bŵer niwclear yn fwy cyffredinol, oherwydd, yn...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Yn amlwg, mae pobl, lleoedd, angen cysylltiadau trafnidiaeth da. Rydym ni'n gwybod llawer am y system fetro sy'n cael ei haddo yn ystod y blynyddoedd nesaf. Ond mae angen taer am benderfyniad a oedd ym mewnflwch eich rhagflaenydd ac sydd yn eich mewnflwch chi erbyn hyn, sef ffordd liniaru'r M4. Bydd yn gwella ffyniant yr ardal yr wyf i'n ei chynrychioli,...