Delyth Jewell: 6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ddefnyddio arfau diagnostig i asesu glowyr am arwyddion o niwmoconiosis? OAQ53554
Delyth Jewell: Bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn caniatáu cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach heddiw. Cyn imi amlinellu ein rhesymau dros y penderfyniad hwn, hoffwn ddweud y gellid maddau i aelodau o'r cyhoedd sy'n gwrando ar y ddadl hon am feddwl fod ei phwnc yn eithaf haniaethol. Gall sôn am gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol, Rheolau Sefydlog a chonfensiynau ymddangos fel nad ydynt yn...
Delyth Jewell: Rwy'n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb eto, ond mae’n ymddangos i fi bod hyn yn achos o gau drws y stabl wedi i’r ferlen adael, os maddeuwch i mi am ddefnyddio idiom Saesneg. Y gwirionedd amdani yw mai’r unig ffordd o sicrhau bod lles cynulleidfaoedd Cymreig a’r sector greadigol Gymreig yn cael eu gwarchod yw trwy ddatganoli darlledu i Gymru. Byddai datganoli darlledu yn ein...
Delyth Jewell: Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Hoffwn droi y nawr at y maes darlledu. Yr wythnos diwethaf, clywsom y bydd darllediadau boreol Cymreig ar orsafoedd Heart a Capital yn cael eu dirwyn i ben, gyda darllediad Prydeinig yn cael ei ddarparu yn eu lle. Yn amlwg, roedd llawer o bobl yn siomedig tu hwnt â'r cyhoeddiad hwn. Y rheswm pam bod y cwmni rhiant Global wedi gallu...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Rwy'n siwr bod cefnogwyr ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dilyn datblygiadau ym myd rygbi Cymru'r wythnos hon gyda chymysgedd o ddryswch, cyffro, gobaith ac ofn. Bydd trigolion y gogledd yn siwr o fod wrth eu boddau bod posibiliad y byddan nhw'n cael rhanbarth proffesiynol o'r diwedd, a fyddai'n golygu bydd rygbi yn gwbl broffesiynol ar lefel genedlaethol gan ysgogi cyfleon...
Delyth Jewell: Pa sylwadau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cyflwyno i Lys Hawliau Dynol Ewrop mewn perthynas â'r driniaeth o Abdullah Öcalan gan Lywodraeth Twrci?
Delyth Jewell: Rydym bellach 24 diwrnod i ffwrdd o adael yr Undeb Ewropeaidd ac mor bell ag erioed o sicrhau datrysiad o ran y ffordd ymlaen o fan hyn. Fel mae Adam Price eisoes wedi’i ddweud, does dim yn y cynnig hwn rydym ni’n anghytuno ag ef, ond mae’n destun siom bod yr ymrwymiad dros gynnal pleidlais y bobl i weld wedi cael ei ollwng gan y Blaid Lafur unwaith yn rhagor. Dyna pam mae Plaid Cymru...
Delyth Jewell: Dyma'r unig ffordd allan o'r cyfyngder paradocsaidd hwn trwy ba un yr ydym ni'n parhau i wibio ymlaen ac eto yn gwneud dim cynnydd. Os nad ydym ni'n gwneud cynnydd ar y mater hwn, yn fuan, bydd yn gyfle a gollwyd. 'Yn gyfle a gollwyd'. Rydym ni'n defnyddio'r ymadrodd hwnnw gryn dipyn. Mor aml, yn wir, fel y credaf ein bod ni wedi colli golwg ar yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd, sef...
Delyth Jewell: Roeddwn i’n falch iawn o gwrdd â chynrychiolwyr o ymgyrch pensiwn y glowyr heddiw. Gwn y bydd llawer ohonoch chi’n gwybod fy mod i wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd lawer oherwydd mae Llywodraeth y DU wedi bod yn cymryd hanner gweddill eu pensiwn o’r gronfa, ac maen nhw wedi bod yn gwneud hyn ers 1994. Mae biliynau o bunnoedd a ddylai fod wedi mynd i'r glowyr wedi cael eu pocedu gan...
Delyth Jewell: Rwyf innau newydd ddychwelyd o ymweliad hynod ddiddorol ac ysgogol gyda'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol â Brwsel ac fel y dywedwyd, cawsom y fraint o gyfarfod â Llywydd Pwyllgor y Rhanbarthau yno, yn ogystal â'r anhygoel Mairead Mcguinness, Aelodau o Senedd Ewrop a llysgenhadon. Mewn llawer o'r cyfarfodydd hyn, rhoddwyd darlun llwm iawn o'r dylanwad y bydd y DU, a...
Delyth Jewell: Rwyf i wedi siarad am gewri a chredaf fod hynny'n briodol gan fod y lle hwn wedi ymddangos fel lle hudolus i mi erioed. Mae pethau yn dod i fodolaeth yma nad oedden nhw'n bodoli cynt—ie, deddfau, ond hefyd syniadau, cynghreiriau. Mae wedi bod yn freuddwyd i mi fod yma ers amser maith, nid erioed o dan yr amgylchiadau hyn, ond yn freuddwyd serch hynny. Dysgodd Yeats i mi bod cyfrifoldebau yn...
Delyth Jewell: Mae Cymru'n galaru. Mae Gwent yn galaru am y gwrol un a gâr wlad, fel y soniodd Gerallt am y dyn arall hwnnw ar y gorwel—Saunders. Anodd rhoi mewn i eiriau maint y golled hon. Roedd Steffan mor falch ei fod yn dod o dde-ddwyrain Cymru, ardal Dic Penderyn, S.O. Davies, Phil Williams. Nawr, mae Steffan ymhlith y cewri hyn, ac rŷn ni yn cerdded ar eu holau nhw, yn ymbil arnynt i estyn llaw...
Delyth Jewell: Diolch, Llywydd. Popeth sydd gen i, byddwn i wedi ei roi yn hapus i beidio â bod yn sefyll yma heddiw. Nid fy ngeiriau i, ond rhai'r Arlywydd Johnson i'r Gyngres ar ôl iddo gymryd drosodd oddi wrth y gwladweinydd arall hwnnw, Kennedy. Popeth sydd gen i—nid wyf i'n dyfynnu'r geiriau hyn o ganlyniad i ddiffyg diolchgarwch wrth ddod i'r sedd hon, nac yn wir o ddiffyg penderfyniad i wneud y...