Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma i amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch goblygiadau ariannol y Bil. Rŷn ni wedi gwneud pedwar argymhelliad, a dwi'n gobeithio y bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ystyried y rhain wrth i’r ddeddfwriaeth fynd yn ei blaen. Fe drafododd y pwyllgor y Bil hwn nôl ym mis Ionawr, a, bryd hynny, o ystyried, wrth...
Llyr Gruffydd: Y gwir amdani yw, wrth gwrs, rŷch chi wedi cael dwy flynedd i sortio hyn mas—dros ddwy flynedd i sortio hyn allan. Fe gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig eu cynlluniau nhw am swyddfa diogelu'r amgylchedd flwyddyn ddiwethaf. Mi oedd Llywodraeth Cymru i fod cyhoeddi rhywbeth yn yr haf, wedyn fe aeth hynny'n hydref, wedyn fe aeth hynny'n flwyddyn newydd—10 diwrnod cyn diwrnod gadael...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Yn ôl dogfen ymgynghori gwaredu gwastraff ymbelydrol yn ddaearegol eich Llywodraeth—a dyfynnaf, 'Mae gwaredu gwastraff ymbelydrol yn fater datganoledig: felly Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am benderfynu ar y polisi ar gyfer gwaredu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru.' Nawr, rwyf yn gofyn am fwy o eglurder ynghylch hynny, gan fy mod i wedi cael cyngor gwrthgyferbyniol...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gladdu gwastraff ymbelydrol yng Nghymru? OAQ53729
Llyr Gruffydd: Diolch am ganiatáu i mi wneud sylw byr. Dwi yn meddwl ei bod hi'n werth atgoffa pobl hefyd fod rygbi yn wastad wedi bod yn gêm genedlaethol, oherwydd i'r rhai, efallai, sydd ddim yn gwybod, mi oedd clwb rygbi Bangor yn un o sylfaenwyr beth sydd nawr yn Undeb Rygbi Cymru nôl yn 1881—yn un o'r 11 clwb. Felly, mae gogledd Cymru erioed wedi bod yn chwarae rhan flaenllaw mewn rygbi...
Llyr Gruffydd: Gyda diolch i'r Llywydd ac i Darren Millar am y cyfle i ofyn y cwestiwn.
Llyr Gruffydd: Diolch ichi am eich ateb. Wrth gwrs, yn sgil Deddf Cartrefi (Cymru) 2014, mae yna ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau bod pawb sy'n canfod eu hunain yn ddigartref yn cael llety dros dro tra bod y cyngor, wrth gwrs, yn ffeindio cartref ar eu cyfer nhw, ac mae hynny yn rhywbeth i'w groesawu. Ond o ganlyniad, wrth gwrs, mae cost darparu llety dros dro, er enghraifft, yn sir Ddinbych wedi...
Llyr Gruffydd: Wel, byddwn i'n gofyn i chi wneud mwy na dim ond pigo mas elfennau; byddwn i'n awyddus i weld hwn yn ffurfio sail ar gyfer polisi ynni llawer mwy uchelgeisiol a radical efallai na'r hyn dŷn ni wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn. Ac yn yr ysbryd yna, byddwn i'n awyddus i chi fel Gweinidog fod yn arwain o'r blaen ar geisio mynd ati i weithredu llawer o beth sydd yn hwn. Oherwydd...
Llyr Gruffydd: Wel, allwch chi gadarnhau, felly, mai dyna yw polisi'r Llywodraeth yn dal i fod? Oherwydd chi oedd y Gweinidog ar y pryd, a byddwn i yn gobeithio bod ymrwymiadau a wnaethoch chi yn rhai y byddai'r Llywodraeth yn ymlynu atyn nhw. Felly, byddwn i'n hoffi clywed hynny fel ateb i'r cwestiwn yma. Maes arall, wrth gwrs, lle mae angen i Gymru gael mwy o ddylanwad a mwy o afael ar ei dyfodol ei...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Nôl ar 7 Tachwedd y flwyddyn ddiwethaf, Weinidog, pan glywon ni y newyddion bod Arolygiaeth Gynllunio Lloegr a Chymru yn bwriadu cael gwared â rôl cyfarwyddwr gweithredol Cymru, fe gytunoch chi â fi ei bod hi'n hen bryd i ni gael arolygiaeth gynllunio annibynnol i Gymru. Rwy'n credu mai 'nawr yw'r amser' yw'r hyn ddywedoch chi fan hyn yn y Siambr. Ers hynny, allwch chi...
Llyr Gruffydd: 9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y ddarpariaeth tai ar gyfer pobl sy’n dod yn ddigartref yng Nghymru? OAQ53677
Llyr Gruffydd: Dwi eisiau felly ategu, os caf i, y diolchiadau y gwnes i’n flaenorol i bawb—neu bron pawb—sydd wedi ymgysylltu â’r broses yma. A dwi eisiau diolch yn arbennig, os caf i, i holl staff y Comisiwn, yn enwedig y clercod, y tîm clercio a thîm cyfreithiol y Pwyllgor Cyllid, am eu cefnogaeth aruthrol nhw a’u holl waith nhw i ddod â ni i’r pwynt yma yn y broses. A gyda hynny o...
Llyr Gruffydd: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i Mark Isherwood am ei gyfraniad a'r ffordd y mae wedi cymryd rhan yn y broses hon? Rydych yn iawn: rwyf wedi cydnabod rhai o'r materion a godwyd gennych i raddau a gobeithio y bydd y memorandwm esboniadol diwygiedig, fel y nodoch chi, yn cadarnhau'r hyn y credaf yw'r sefyllfa ac rwy'n siŵr fod hynny'n wir. A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i gyflwyno Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) i’r Cynulliad Cenedlaethol er mwyn ei gymeradwyo. Dwi'n gobeithio, yn wir, y bydd yr Aelodau’n cefnogi'r Bil y prynhawn yma, achos mi fydd y Bil yn cryfhau rôl yr ombwdsmon er mwyn diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ni, gwella cyfiawnder...
Llyr Gruffydd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn edrych ar godi lefelau cyflogau yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Rŷn ni i gyd hefyd yn ymwybodol, wrth gwrs, nad dim ond rygbi sy'n cael ei chwarae yn y wlad yma. Mae yna gêm bêl-droed bwysig nos yfory yn y Cae Ras yn Wrecsam, ac mi fydd yna filoedd lawer o bobl yn ymweld â gogledd-ddwyrain Cymru. Mae digwyddiadau chwaraeon, wrth gwrs, yn bwysig iawn o safbwynt y cynnig twristiaeth sydd gennym ni yn y gogledd fel y mae e yng Nghaerdydd, wrth gwrs, ac...
Llyr Gruffydd: Nid wyf am i hyn fod amdanaf fi, ond—. Faint o amser fyddech chi'n ei roi iddynt, felly? Oherwydd ar y naill law rydych yn dweud, 'Mae angen inni edrych ar fodelau amgen', ac ar y llaw arall rydych yn dweud, 'Wel, gobeithiwn y byddant yn llwyddo, y tîm rheoli newydd.' Felly, ai blwyddyn, dwy flynedd, tair blynedd?
Llyr Gruffydd: Na, na, dwi eisiau cael mwy na munud i ddatblygu fy nadl, os gaf i. Efallai y gwnaf i ei gymryd e ar y diwedd, os oes amser. Dwi wedi colli lle roeddwn i’n mynd nawr yn barod. Rwyf i wedi sôn o’r blaen am Brexit a’r holl newidiadau a phroblemau fydd yn dod yn sgil hynny. Wel, os ŷch chi’n cyflwyno newid sefydliadol sylweddol ar yr un pryd â hynny, rŷch chi’n gofyn am drafferth,...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n stryglo, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r hyn mae'r Ceidwadwyr yn galw amdano fe oherwydd maen nhw'n dymuno pob llwyddiant i'r prif weithredwr newydd a'r cadeirydd interim, ond ar yr un pryd yn dweud eu bod nhw i gyd yn anobeithiol a bod rhaid ailgychwyn ac ail-greu sefydliad o'r newydd. Wel, yn fy marn i, dechrau o'r dechrau yw'r peth olaf dŷn ni...
Llyr Gruffydd: Dim ond i ategu, os caf i, Llywydd, fy niolchiadau i bawb sydd wedi ymgysylltu â'r broses hyd yma. Diolch yn arbennig hefyd i glercod a thîm cyfreithiol y Pwyllgor Cyllid am eu cefnogaeth a'u holl gwaith wrth ddod â ni i'r pwynt hwn yn y broses. A gaf i hefyd ddiolch i Aelodau am eu cefnogaeth i'r gwelliannau dwi wedi'u cynnig heddiw, gan obeithio y gwelwch chi i gyd eich ffordd yn glir,...