Mike Hedges: Gwn nad yw Lee Waters yn derbyn hyn, ond gall gwell ffyrdd leihau allyriadau. Os oes yn rhaid i chi deithio i ysbyty, sut arall ydych chi'n awgrymu bod pobl yn teithio i adran damweiniau ac achosion brys—drwy feicio neu gerdded i'r mannau hynny? Mae Sir Benfro yn byw mewn perygl—. Mae darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig yn anodd, ond nid yw'n amhosibl. Mae pobl eraill yn ei wneud....
Mike Hedges: Safbwynt o'r tu allan i'r ardal, ond safbwynt rhywun arall a oedd ar y Pwyllgor Deisebau: un peth a wyddom o'r ddeiseb yw bod nifer fawr iawn o bobl eisiau gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn Llwynhelyg. Mae deiseb o 40,045 o lofnodion yn ddigynsail. Mae angen ichi gael 5,000 o lofnodion er mwyn i'r Pwyllgor Deisebau ofyn i'r Pwyllgor Busnes os gallwn gael dadl ar y mater. Gallem gael...
Mike Hedges: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i Andrew Davies, Dai Lloyd, Julie Morgan, Caroline Jones, Neil Hamilton ac Ysgrifennydd y Cabinet am gymryd rhan yn y ddadl hon? Credaf mai'r hyn a gefais yn fwyaf—sut y gallaf ei egluro—yn fwyaf buddiol oedd nad dadl y pwyllgor yn unig oedd hi; nid y pwyllgor yn cael dadl yn gyhoeddus pan fyddant fel arfer yn ei chael mewn cyfarfod pwyllgor...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar ddechrau'r Cynulliad hwn, cytunodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y dylai wneud craffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd yn un o'i flaenoriaethau, a hynny oherwydd ei bwysigrwydd i bobl Cymru. Cytunwyd hefyd y byddai'r pwyllgor yn llunio adroddiad blynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru ac yn cynnal dadl...
Mike Hedges: Wel, fel y gŵyr unrhyw un sy'n gwrando ar Radio Wales yn y bore, bydd tagfeydd rhwng unrhyw le o gwmpas cyffordd 47 a chyffordd 41. Mae hyn i'w ddisgwyl bob bore at ei gilydd. Mae systemau llywio â lloeren, wrth gwrs, yn rhan o'r broblem, gan eu bod, yn gyffredinol, yn darparu llwybr 'ar hyd yr M4' os ydych yn mynd i unrhyw le, bron â bod, i'r dwyrain neu i'r gorllewin. A gaf fi ofyn i...
Mike Hedges: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am dagfeydd traffig ar yr M4 yn rhanbarth Gorllewin De Cymru? OAQ52617
Mike Hedges: Mae croeso cynnes i chi.
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ffyrdd o fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd?
Mike Hedges: Diolch am eich ateb. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r hyn a ddigwyddodd y bore yma, yn amlwg. Ond os mai'r bwriad yw creu 1 miliwn o siaradwyr Cymraeg, y llwybr mwyaf tebygol o fod yn llwyddiannus yw cynyddu nifer y plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Gwn o brofiad personol, fel eraill yn y Siambr hon, pa mor anodd yw dysgu Cymraeg fel oedolyn. Byddai hyn yn golygu bod oddeutu traean o...
Mike Hedges: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y twf arfaethedig mewn addysg cyfrwng Cymraeg? OAQ52574
Mike Hedges: Gan gynnwys chi eich hun.
Mike Hedges: Mae gennyf ddau gwestiwn i arweinydd y tŷ, un ohonynt yr wyf yn credu bod arweinydd y tŷ wedi dod i arfer ag ef erbyn hyn: a gaf i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru ar gau Virgin Media yn Abertawe? Yn anffodus, rwy'n dweud 'cau' nawr; cyn inni dorri am yr haf roedd yn 'gau arfaethedig'. A gaf i ofyn am ddatganiad ar hynny? A gaf i hefyd ofyn am...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i John Griffiths am roi munud imi yn y ddadl hon? Beth yw'r gwahaniaeth rhwng 20 mya a 30 mya? Nid yw'n swnio'n fawr iawn. Wel, mae'r canfyddiad, y golwg drwy gornel y llygad, faint rydych yn ei weld mewn gwirionedd, yn cynyddu po arafaf rydych yn mynd. Mae eich amser ymateb—. I'r rhai a wnaeth eu prawf gyrru flynyddoedd lawer yn ôl, roedd tudalen gefn 'Rheolau'r Ffordd...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r cyfle i ddweud ychydig eiriau ar ymddeoliad yr archwilydd cyffredinol, Huw Vaughan Thomas. Rwyf wedi bod yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, neu'n aelod dirprwyol, ers 2011. I mi, roedd dau gryfder mawr yn perthyn i'r archwilydd cyffredinol sy'n ymadael, a gobeithio y bydd Nick Ramsay yn cytuno â mi yn eu cylch: gwybod beth yw'r meysydd allweddol i'w hymchwilio ac i...
Mike Hedges: A gaf fi sôn am Brexit yn nhermau sefydliadau nad ydynt yn cael eu crybwyll yn aml, a llywodraeth leol yn benodol? Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo awdurdodau lleol i baratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o senario 'dim bargen'? Oherwydd yn aml, nid yw awdurdodau lleol yn cael eu crybwyll pan fyddwn yn sôn am Brexit, ond mewn llawer o achosion, byddant ar y rheng...
Mike Hedges: Fel y gwyddoch, arweinydd y tŷ, cyhoeddodd Virgin Media, yn ystod wythnos gyntaf mis Mai eleni, ei fod yn cael gwared ar 772 o swyddi yn ei ganolfan alwadau yn Abertawe, y cafwyd cynnig i'w gau, gan beri pryder difrifol i nifer o fy etholwyr i a llawer o'ch etholwyr chi hefyd. Mae Llywodraeth Cymru, ers hynny, wedi bod yn cefnogi staff sy'n gweithio yn Virgin Media, ac mae popeth a glywais...
Mike Hedges: Y peth cyntaf y mae angen i unrhyw system bleidleisio fod yw diogel. Dylai fod gennym system nad yw'n caniatáu pleidleisio fwy nag unwaith na chynaeafu pleidleisiau. Fodd bynnag, mae angen inni ei gwneud yn haws i bobl bleidleisio. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried cefnogi dau newid syml: caniatáu pleidleisio cynnar mewn canolfan bleidleisio ganolog, ac yn ail, caniatáu pleidleisio...
Mike Hedges: Ymddengys bod gan Lywodraeth San Steffan bolisi ynni sy'n seiliedig ar ynni gwynt ar y môr ac ynni niwclear. Gan fod prototeipiau yn ddrytach oherwydd eu natur, a bod cap ar gostau storio ynni niwclear yn y dyfodol—ni fyddai gorsaf bŵer niwclear erioed wedi cael ei hadeiladu pe na baent wedi eu capio—nid yw'n deg cymharu'r ddau beth. A esboniodd Llywodraeth San Steffan pam fod y pris ar...
Mike Hedges: Wrth gwrs.
Mike Hedges: Roedd hefyd cyn i mi fod yma. Yr hyn y gwnaf fi ei ddweud yw bod cynghorau bryd hynny’n dal i werthu tai cyngor o dan y cynllun hawl i brynu—ac rwy’n siŵr bod Mark Isherwood yn gresynu at werthu tai cyngor. Tan yn ddiweddar, doedd cynghorau ddim yn adeiladu. Mae eiddo perchen-feddiannydd rhad wedi troi’n eiddo prynu i rentu. Mae hynny’n rhywbeth gwirioneddol sydd wedi effeithio ar...