Caroline Jones: Brif Weinidog, un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu gofal iechyd yn yr unfed ganrif ar hugain yw'r cynnydd sylweddol mewn ymwrthedd gwrthficrobaidd. Cafwyd rhai achosion yn Tsieina, lle gwelwyd ymwrthedd i wrthfiotigau cyfle olaf. Oni bai fod camau llym yn cael eu cymryd, byddwn yn byw yn y byd a oedd yn bodoli cyn darganfod penisilin, lle'r oedd pobl yn marw o'r clefydau mwyaf syml. Mae...
Caroline Jones: Rwy’n falch o gymryd rhan yn y ddadl heddiw. Gyda’r rhagolwg y bydd nifer y bobl 65 oed a throsodd yn cynyddu oddeutu un rhan o dair yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf, a thraean o’r boblogaeth oedolion yng Nghymru ag o leiaf un salwch cronig, rydym yn dod yn fwyfwy dibynnol ar ein sector gofal cymdeithasol. Yn anffodus, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi straen...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i’r clercod, y pwyllgor iechyd a’r Gwasanaeth Ymchwil am eu cymorth yn ystod ein hymchwiliad. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni drwy gydol ein hymchwiliad. Yn ystod ein hymchwiliad, dywedodd mwyafrif y rhanddeiliaid wrthym fod pethau ychydig yn well eleni, ond eto i gyd, nid oeddent yn barod ar gyfer y gaeaf ac ar gyfer wynebu pwysau drwy gydol y...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, roedd adroddiad AGIC yn canolbwyntio’n bennaf ar wasanaethau dirywiad macwlaidd gwlyb sy’n gysylltiedig â henaint, ond mae’r problemau a gafodd sylw yn dangos bod yna broblemau ehangach gyda gwasanaethau offthalmoleg yng Nghymru. Mae rhestrau aros ar gyfer offthalmoleg yn rhy uchel. Mae RNIB Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at y ffaith fod cleifion yn mynd...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, ar ôl mynychu Cyfarfod Blynyddol diweddar o Gyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe, cefais fy synnu gan y nifer fawr o fudiadau gwirfoddol yn cynnig cefnogaeth yn ymwneud ag iechyd sy’n gweithredu yn fy rhanbarth i. Roeddwn eisoes yn ymwybodol o’r gwaith rhagorol a wneir gan rai fel Tŷ Elis ym Mhorthcawl a Chanolfan Hunangymorth Sandville yn Nhon Cynffig, ond yng...
Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu cefn gwlad Cymru rhag effeithiau gor-ddatblygu?
Caroline Jones: Brif Weinidog, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, canfu adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaeth Cyn-filwyr GIG Cymru bod cyn-filwyr yn aros hyd at 80 diwrnod am asesiad cychwynnol, a hyd at 140 diwrnod ar ôl yr asesiad. Tynnodd yr adolygiad sylw hefyd at y ffaith y byddai'r gwasanaeth yn wynebu pwysau ychwanegol, o ganlyniad i adolygiad amddiffyn a diogelwch y DU. Gwnaed cyfanswm o 15 o...
Caroline Jones: [Yn parhau.]—o Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. O Gyfarfodydd Llawn yn y gorffennol. Mae’r dystiolaeth yno.
Caroline Jones: Hoffwn, mewn gwirionedd.
Caroline Jones: Rwy’n teimlo bod hyn yn haerllug braidd. Rydych yn gyson yn gwneud sylwadau ar draws y Siambr ynglŷn â’r ffaith nad yw Neil Hamilton yn byw yma, ac yn byw yn Lloegr, ar draws y ffin, felly rwy’n meddwl bod yr hyn rydych yn ei ddweud yn eithaf haerllug, mewn gwirionedd.
Caroline Jones: Gallaf. Rydym yn edrych arno o—
Caroline Jones: Ni allaf gymryd un arall, Jeremy, mae’n ddrwg iawn gennyf. Nid fy ngeiriau i yw’r rheini, ond sylwadau Cymdeithas Feddygol Prydain. Mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn rhybuddio ers tair neu bedair blynedd fod argyfwng ar y ffordd mewn ymarfer cyffredinol. Maent wedi bod yn galw am gynnydd yn nifer y meddygon teulu, ond weithiau cafodd...
Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr, Janet.
Caroline Jones: Diolch. Mae hyn, ynghyd â’r ffaith nad yw swyddi hyfforddi meddygon teulu yn cael eu llenwi, y ffaith fod llawer o feddygon teulu yn ystyried ymddeol yn gynnar, a’r nifer fawr sy’n ceisio gweithio’n rhan-amser oherwydd pwysau gwaith, yn rysáit ar gyfer trychineb. Mae ymarfer cyffredinol yn wynebu pwysau cynyddol a digynsail. Ceir bwlch sylweddol a chynyddol rhwng y galw arno a’i...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig y cynnig ger eich bron a gyflwynwyd yn fy enw i. Y cyswllt cyntaf y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei gael yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yw drwy ein meddyg teulu. Diolch byth, i’r mwyafrif llethol ohonom, hwn yw’r unig gysylltiad â’r GIG. Mae ychydig o dan 2,000 o feddygon teulu yng Nghymru yn gweithio yn y 454 practis cyffredinol ledled Cymru. Er bod hyn...
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Julie, Dai, Rhun, Mark, Hefin a Jenny am gyflwyno’r ddadl hon gan Aelodau unigol ac am roi’r cyfle i bawb ohonom drafod y pwnc pwysig hwn. Mae’r sgandal gwaed halogedig yn un o’r cyfnodau tywyllaf yn hanes ein GIG. Mae’r ffaith fod pobl a ofynnodd am gymorth gan y gwasanaeth iechyd yn agored i firysau marwol yn frawychus ddigon, ond mae’r ffaith eu bod wedi methu...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Cymru’n gwario llawer mwy ar iechyd fesul y pen nag y maent yn ei wneud ar draws y ffin yn Lloegr. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi arwain at ganlyniadau sy’n sylweddol well. Yn gyffredinol, mae cleifion yng Nghymru yn aros yn hwy am driniaeth na chleifion yn Lloegr—ddwywaith mor hir am lawdriniaeth cataract a bron dair gwaith mor hir am...
Caroline Jones: Yn olaf, Ysgrifennydd y Cabinet, y greal sanctaidd ym maes sgrinio am ganser yw datblygu cyfundrefn brofi ddibynadwy ar gyfer canser yr ysgyfaint. Gwelodd Prifysgol Caerdydd, mewn treial diweddar, nad yw’r defnydd o sganiau CT dos isel ar gyfer sgrinio canser yr ysgyfaint yn cael unrhyw effaith seicogymdeithasol hirdymor ar gleifion, gan ei wneud yn offeryn ardderchog ar gyfer canfod canser...
Caroline Jones: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Un maes a allai elwa o well sgrinio yw canser y prostad. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyhoeddwyd yn ‘The Lancet’ fod defnyddio MRI amlbarametrig ar ddynion a oedd â lefelau uchel o antigenau prostad-benodol yn cynyddu’r gallu i ganfod tiwmorau ymosodol, ac yn arbed llawer rhag yr angen i gael biopsi a’i sgil-effeithiau...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, un o’n harfau mwyaf effeithiol ar gyfer ymladd canser yw sgrinio ar lefel y boblogaeth. Croesawaf y cyhoeddiad diweddar a wnaed gan y Gweinidog iechyd y cyhoedd ynghylch y newid i ddulliau gwell o sgrinio ar gyfer canser y coluddyn a chanser ceg y groth. Fodd bynnag, ni waeth sut y byddwn yn gwella’r technegau sgrinio, ein brwydr fwyaf yw...