Russell George: Ond ym mhob tref yng Nghymru, ceir ardaloedd lle mae'n anodd ac yn annymunol i gerdded a beicio. Mae rhai beicwyr yn rhannu ffyrdd gyda thraffig trwm, lle mae tyllau'n rhwystrau ac yn creu peryglon eraill yn ogystal, lle mae llwybrau beicio'n rhy gul neu'n rhy fyr neu wedi'u lleoli'n wael, a lle mae parcio ar y palmant wedi'i gwneud yn amhosibl cerdded yn ddiogel. Mewn ychydig wythnosau,...
Russell George: Wel. Fe brynais bâr newydd o esgidiau ymarfer ar gyfer y ras, ac fe gollais er hynny—ond dyna ni. Er ei fod yn hwyl, roedd yna neges ddifrifol wrth wraidd yr hyn a wnaethom yn ôl ym mis Mai. Y beicwyr a gyrhaeddodd yn gyntaf, ac roedd y daith iddynt hwy'n rhad, ac yn gyfle gwych i wneud ymarfer corff. Eto ers i'r Ddeddf ddod yn gyfraith, mae cyfraddau teithio llesol wedi aros yn...
Russell George: Diolch, Lywydd. Bron bum mlynedd yn ôl, ym mis Tachwedd 2013, daeth Deddf Teithio Llesol (Cymru) i rym. Bwriad y Ddeddf oedd creu newid o un genhedlaeth i'r llall, a thrawsnewid ein ffordd o wneud teithiau hanfodol i'r gwaith ac i'r ysgol, gan wneud cerdded a beicio yn norm. Credaf fod y rhesymau dros wneud hyn yn glir: mae teithio llesol yn hyrwyddo iechyd gwell, yn lleihau llygredd a...
Russell George: Arweinydd y tŷ, mae'r diffyg tryloywder gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr oedi parhaus i ail gam y rhaglen Cyflymu Cymru yn peri pryder. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi wneud datganiad ar hyn. Yn ystod toriad yr haf, fel y gwyddoch, rwyf wedi ysgrifennu atoch ar sawl achlysur mewn ymdrech i ddeall y rhesymau dros yr oedi i weithredu cam 2 y cynllun, y rhoddwyd £80 miliwn o arian...
Russell George: Mae system o'r enw gwirio, herio, apelio ar waith yn Lloegr, sy'n caniatáu i fusnesau wirio'r ffeithiau am eu heiddo a gweld prisiadau cyn penderfynu herio'r prisiad. Ymddengys bod hyn yn lleihau ansicrwydd ac yn sicrhau bod busnesau yn canfod ateb yn gyflymach. Mae hefyd yn lleihau ansicrwydd i awdurdodau lleol, sydd wrth gwrs yn gorfod neilltuo arian ar gyfer apeliadau posibl. Felly, tybed...
Russell George: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ryddhad ardrethi busnes ar gyfer y sector twristiaeth? OAQ52538
Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol bod cyllid datganoli Network Rail yng Nghymru, wrth gwrs, wedi'i archwilio gan y Comisiwn Silk, a'i drafod yn ystod proses Dydd Gŵyl Dewi, ac ni chafwyd consensws ar y mater. Llywydd, byddwn yn dweud bod Ysgrifennydd y Cabinet, fel fi, bob amser wedi bod yn eiriolwr mawr o...
Russell George: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ymddangos i mi fod ardaloedd menter wedi bod, efallai, yn gyfres o arbrofion sy'n seiliedig ar le a byddant yn parhau i gael eu hastudio ymhellach dros y blynyddoedd nesaf. Y wers glir hyd yma, rwy'n credu, yw bod budd gwirioneddol i wybod eich cryfderau a dod â phartneriaid at ei gilydd o amgylch gweledigaeth a rennir, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i'r...
Russell George: Credaf fod yna gwestiwn dilys yn codi ynglŷn ag a oedd angen ardaloedd menter mewn rhai o'r ardaloedd a ddewiswyd gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig Caerdydd, lle y clywodd y pwyllgor fod yr ardal yn gwthio yn erbyn drws agored mewn termau economaidd. Ar y llaw arall, clywodd y pwyllgor gan gadeirydd bwrdd ardal fenter Eryri fod y bwrdd wedi sylweddoli'n fuan iawn eu bod yn annhebygol iawn o...
Russell George: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Mae Cadeirydd y pwyllgor newydd golli ei bapurau i gyd ar lawr mewn trefn wahanol. Diolch byth, mae'r nodiadau wedi'u rhifo. Rwy'n cynnig y cynnig y prynhawn yma, Ddirprwy Lywydd. Ym mis Ionawr a mis Chwefror eleni, cynhaliodd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ymchwiliad byr i'r ardaloedd menter yng Nghymru. Roedd pum mlynedd ar ôl sefydlu'r...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe mewn perthynas ag unigolyn oedd yn dod o sir Drefaldwyn sy'n teimlo ei fod wedi'i ddifreinio gan y system etholiadol, fel pleidleisiwr tramor—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr pa ffordd y mae'r etholwr penodol yn bwrw ei bleidlais. Nid wyf yn siŵr a ddeallodd y Prif Weinidog fwriad fy nghwestiwn,...
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr ymdrechion i leihau costau llywodraeth leol?
Russell George: Diolch, Prif Weinidog. Mae cyn-etholwr wedi cysylltu â mi sydd wedi ysgrifennu ataf i ddweud ei fod yn teimlo wedi'i ddifreinio o fethu â gallu pleidleisio yn etholiadau Cymru. Fe'i ganwyd yng Nghymru a chafodd ei fagu'n lleol ac mae ganddo deulu helaeth yn y canolbarth. Symudodd o ganolbarth Cymru i swydd Amwythig, lle'r aeth ei swydd ag ef, ac yna aeth i weithio dramor. O gysylltu â'r...
Russell George: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymhwystra i bleidleisio mewn etholiadau yng Nghymru? OAQ52479
Russell George: Pan gyhoeddoch chi eich adolygiad arloesi digidol, Ysgrifennydd y Cabinet, fe ddywedoch eich bod yn awyddus i ddatblygu potensial ein rhanbarthau er mwyn iddynt gynnal gwell swyddi yn nes at adref, ac mae hyn yn rhywbeth y byddwn yn cytuno â chi yn ei gylch. Rydych hefyd wedi bod yn gefnogol iawn, fel finnau, i fargen twf ar gyfer canolbarth Cymru. Nawr, er mwyn sicrhau bod canolbarth Cymru...
Russell George: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector gweithgynhyrchu yng Nghymru?
Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ganfyddiadau'r adolygiad o gyfleusterau chwaraeon perfformio ac elitaidd?
Russell George: Ers 2010, mae gwariant ar ddarpariaeth bysiau gan Lywodraeth Cymru wedi gostwng gan 20 y cant ac mae nifer y gwasanaethau bysiau cofrestredig yng Nghymru yn parhau i ostwng. Mae hyn yn sicr yn cael effaith ledled Cymru gyfan, ond yn enwedig yng Nghymru wledig, byddwn i'n awgrymu. Felly, a gaf i ofyn, Prif Weinidog: beth ydych chi'n ei wneud i ddatrys yr argyfwng hwn yng Nghymru? Ac a ydych...
Russell George: Yn sicr, gwnaf.
Russell George: Diolch, Simon Thomas. Mae hyn yn rhywbeth newydd rwy'n ei archwilio fy hun, felly rwy'n hapus i gael y pwynt hwnnw. Gallaf weld fod fy amser bron â dod i ben, ond credaf mai un mater sydd angen ei ddatrys yw'r tensiwn hefyd rhwng y rôl y mae hydrogen yn ei chwarae yn erbyn yr angen am gerbydau trydan, neu gynhyrchiant trydan yn ogystal, oherwydd ceir cyfyngiadau yn hynny o beth....