Nick Ramsay: Diolch am ildio. Mae'n debyg na ddylech synnu y byddai Ceidwadwr yn ymddangos ychydig yn geidwadol. Fyddwn i ddim wedi dweud fy mod yn sôn am ddadl o syrthni; byddwn wedi hoffi’r gair ‘pwyll’. Dydw i ddim yn mynd i roi geiriau yng ngheg Ysgrifennydd y Cabinet, ond o ran y wireb, ‘Peidio â newid er mwyn newid’, rwy’n meddwl bod hynny’n arbennig o berthnasol mewn cyfnod pontio....
Nick Ramsay: Diolch yn fawr. Rwy'n falch o gyfrannu at ddadl ddiddorol heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac o gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies. Fel y dywedodd yr Ysgrifennydd Cabinet ei hun, mae hwn yn gyfnod o newid i’r sefydliad hwn ac i Gymru. Rydym ar fin gweld cyflwyno’r trethi Cymreig newydd cyntaf ers 800 o flynyddoedd—sawl gwaith yr ydym wedi clywed hynny yn y Siambr hon dros y misoedd...
Nick Ramsay: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Fel y gwyddoch, mae canran fawr o arwynebedd Cymru yn wledig. Rwy’n dal yn arbennig o bryderus nad yw Llywodraeth Cymru wedi mynd yn ddigon pell o ran cydnabod y natur wledig yn ei chyllid ar gyfer awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae darparu gwasanaethau fel gofal cymdeithasol mewn lleoliad gwledig bob amser yn mynd i wynebu...
Nick Ramsay: 2. Pa gynlluniau sydd gan y Prif Weinidog i gydnabod yr heriau ychwanegol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus mewn ardaloedd gwledig o ran dyrannu cyllid llywodraeth leol? OAQ(5)0697(FM)
Nick Ramsay: Ar wahân i Mike Hedges. Rwyf hyd yn oed yn cofio un ddadl pan gafodd yr hen Ken Skates druan ei lusgo i mewn i ddadl i amddiffyn Jeremy Corbyn. Roedd yr edrychiad ar ei wyneb yn dweud y cyfan ar y pwynt hwnnw. Hynny yw, mawredd annwyl, mae’n siŵr fy mod i’n nes at Jeremy Corbyn na Ken Skates. [Chwerthin.] Dyddiau da, ond mae pethau wedi symud ymlaen cymaint. Erbyn hyn, maent yn awyddus...
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl heddiw, a diolch i’r Gweinidog am ei sylwadau? Mae hon yn ddadl sydd, fel y dywedodd Russ George, yn ymwneud â thorri’r cylch, ac fel y dywedodd Darren Millar—ein myfyriwr preswyl—wrth agor y ddadl, mae hyn yn ymwneud â symudedd cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn awyddus i gael addysg yn ddiweddarach yn...
Nick Ramsay: Diolch i Hefin David am gadw’r ffocws ar y mater hwn y prynhawn yma. Ysgrifennydd y Cabinet, yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad ‘chwifio’r faner dros ein lluoedd arfog’ ym mhencadlys Cyngor Sir Fynwy y tu allan i Frynbuga, ac roedd llawer o bobl yn bresennol. Mae’n dangos faint o Aelodau’r Cynulliad, yn ogystal â phobl ledled Cymru, sydd eisiau anrhydeddu ein lluoedd...
Nick Ramsay: Leanne, diolch am ildio. Rydych chi’n gwneud rhai pwyntiau da am yr angen i Gymru fod yn genedl hyderus sy'n edrych i'r dyfodol, ac nid wyf yn anghytuno â chi yno, ond mae'n rhaid ichi dderbyn bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn nifer o'r meysydd yr ydych wedi sôn amdanynt. Rydych chi’n sôn am drydaneiddio, ond y prynhawn yma rydym wedi bod yn sôn am y dreth datganoli—mae...
Nick Ramsay: Diolch i chi am roi tro. Byddwch yn cofio, Ysgrifennydd y Cabinet, i aelodau'r pwyllgor ystyried gwelliant yng nghyfnod 3 a fyddai wedi rhoi ystyriaeth i weithredu proses o adolygu’r dreth dirlenwi. Buom yn trafod hynny gyda chi ac roeddech chi’n credu y byddai'n fwy priodol cael adolygiad o Dreth Trafodiadau Tir a’r dreth dirlenwi, ar gyfer y trethi i gyd, yn hytrach nag un...
Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi hynt y Bil hwn yng Nghyfnod 4 o’r ddeddfwriaeth hon. Fel y gwnaethoch chi eich hun ei nodi dros wythnosau a misoedd y broses hon, efallai na fydd y dreth dirlenwi, yr ail dreth i gael ei datganoli, yn destun sgyrsiau mewn tafarndai a chlybiau ar draws y wlad. Serch hynny, mae'n dreth bwysig, yn offeryn pwysig ym...
Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, dair blynedd yn ôl y mis hwn, cyflwynais ddadl fer i'r Siambr hon yn galw ar Lywodraeth Cymru i edrych ar ffyrdd gwell o gefnogi pobl sy'n dioddef o glefyd niwronau motor, cyflwr hynod greulon sy'n effeithio’n aruthrol ar ddioddefwyr. Y mis hwn yw mis ymwybyddiaeth o glefyd niwronau motor, ac mae’r Gymdeithas Niwronau Motor yn hyrwyddo'r ymgyrch My Eyes Say. Dair...
Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y gyfran o drigolion Sir Fynwy a fydd yn gallu derbyn band eang cyflym iawn erbyn diwedd y contract presennol gyda BT Openreach?
Nick Ramsay: Cynnig.
Nick Ramsay: Cynnig.
Nick Ramsay: Diolch. Roedd hwn, mewn sawl ffordd, yn welliant treiddgar. Cawsom y drafodaeth hon, fel y dywedasoch, yng Nghyfnod 2, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd i gyd yn rhan o'r drafodaeth ynghylch pa mor annibynnol yw Awdurdod Cyllid Cymru, faint o gorff hyd braich fydd yr Awdurdod, neu i ba raddau y bydd yn cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru. Fel yr wyf wedi dweud gyda’r gwelliant blaenorol a...
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch i gynnig prif welliant y grŵp terfynol. Mae Llywodraeth yr Alban wedi darparu gwybodaeth am Awdurdod Cyllid yr Alban yn rhannu swyddogaethau swyddfa gefn yng ngoleuni Deddf Treth Trafodiadau Tir ac Adeiladau (Yr Alban) 2013. Oherwydd cyllid cyhoeddus cyfyngedig a'r angen i ddarparu gwerth am arian, dylai Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau, rydym yn teimlo,...
Nick Ramsay: Ie, rydych yn hollol gywir. Pan gafodd treth y DU ei chyflwyno, dyna oedd y rheswm. Ond, wrth gwrs, mae hon yn dreth ddatganoledig ac rydym yn colli arian drwy'r grant bloc ar ôl ei datganoli. Felly, dros gyfnod o amser, gan fod y dreth yn lleihau, yna, yn amlwg, byddai’r swm hwnnw yn lleihau. Nawr, nid wyf yn dweud nad yw hynny yn digwydd ar lefel y DU. Yn amlwg, mae gostyngiad yn y...
Nick Ramsay: Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r gwelliant hwn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae Steffan Lewis—byddwn yn dweud yn anfwriadol, ond mae'n debyg yn fwriadol—wedi taro ar agwedd ddiddorol â'r ffordd yr aeth y dreth hon yn ei blaen yn y pwyllgor yng Nghyfnod 2. Cawsom drafodaethau am y cydbwysedd hwnnw, y cydbwysedd pwysig iawn rhwng cael treth sydd yno i godi arian, ac rydym yn gwybod...
Nick Ramsay: Diolch. Ysgrifennydd y Cabinet, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r prif welliant yn y grŵp hwn, sy'n ymddangos, fel yr awgrymasoch, i newid drafftio—i gywiro, dylwn ddweud—mater drafftio yn y ddarpariaeth wreiddiol. Gan droi at ein gwelliant 53, rwy'n falch iawn o glywed eich bod wedi penderfynu derbyn y gwelliant hwnnw; roeddwn i'n credu mai dyna fyddai eich safbwynt o ystyried yr...
Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am hynny. Nid oes gennyf unrhyw awydd i fynd drwy’r rhan fwyaf o'r gwelliannau hyn chwaith, oherwydd, fel y mae fy mhrif chwip wedi dweud, mae'n heulog y tu allan ac nid ydym yn awyddus i fod yma tan yr oriau tywyll. Fodd bynnag, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi pob un o'r gwelliannau hyn, ar wahân i—mae gennym broblem gyda'r gwelliant cyntaf,...