Jeremy Miles: Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn y mae'n ei godi am addysg ddewisol yn y cartref—ac rydym yn cydnabod y ffordd wylaidd y mae'n cyflwyno manteision hynny, rwy'n credu—hoffwn atgoffa'r Aelod, o bob un o'r pedair gwlad yn y DU, Cymru sy'n darparu'r cymorth mwyaf hael i'r gymuned addysg ddewisol yn y cartref. Mae'r cyllid ar gyfer y lefel honno o gymorth y flwyddyn hon oddeutu £1.7 miliwn....
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel ym mhob rhan o'r DU—. Mae gan bob rhan o'r DU drefn lle mae darparwyr addysg yn gymwys i gael cymorth drwy'r trefniadau priodol ym mhob un o'r pedair gwlad, ac nid yw'r ffaith bod un sefydliad yn gallu bod yn gymwys yn un o'r gwledydd yn golygu'n awtomatig eu bod yn bodloni'r meini prawf ym mhob un o'r pedair gwlad. Byddai angen iddynt gyflwyno...
Jeremy Miles: Mae ein cenhadaeth genedlaethol yn nodi ein hymrwymiad i lwyddiant a llesiant pob dysgwr. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn rhan integredig o'r continwwm addysg. Mae addysg heblaw yn yr ysgol yn ddarpariaeth addysg i blant a phobl ifanc sydd, am ba reswm bynnag, angen cymorth wedi'i deilwra y tu allan i ysgolion prif ffrwd.
Jeremy Miles: Wel, mae hyn yn gwestiwn pwysig iawn, a dwi eisiau cydnabod y pwysau mae prifathrawon ac athrawon o dan ar hyn o bryd, ac wedi bod dros y cyfnod o flwyddyn a mwy yn ddiweddar. Rôn i'n trafod bore dydd Mawrth gydag awdurdodau lleol ac undebau dysgu, a'r undebau gweithlu addysg mwy eang na hynny, ac yn gofyn iddyn nhw i basio ymlaen ein diolch ni fel Llywodraeth, ac, rwy'n siŵr, ein diolch ni...
Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn pellach hwnnw. Trwy'r arian revenue support grant dŷn ni'n ei ddarparu i awdurdodau lleol, mae'n bosib iddyn nhw ddefnyddio'r ffynhonnell arian honno i sicrhau bod eu hysgolion nhw'n mynd i'r afael â'r sefyllfa hon. Ond dŷn ni hefyd yn gweithio gyda'r Health and Safety Executive a chydag Ystadau Cymru i gefnogi arfer da i ddelio ag asbestos mewn ysgolion ac mewn...
Jeremy Miles: Wel, mae'r cynlluniau sydd gyda ni eisoes ar waith—y fframweithiau sy'n gweithio ym mhob rhan o Gymru—bwriad y polisi hwnnw, wrth gwrs, yw sicrhau bod ein hysgolion ni yn saff ar gyfer ein dysgwyr ni a'n hathrawon ni a'r gweithlu ehangach, a bod y mesurau sy'n cael eu cymryd yn ein hystafelloedd dosbarth ni ac yn ystâd ehangach yr ysgol yn adlewyrchu anghenion yr ysgol ei hun ond hefyd y...
Jeremy Miles: Wel, mae'n bosibl i bobl ddysgu yng Nghymru er nad oes gyda nhw sgiliau iaith penodol. Beth dŷn ni eisiau ei weld—. Ac mae gyda ni gynllun peilot yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i annog myfyrwyr yn ein prifysgolion ni i weithio fel athrawon drwy gyfrwng y Gymraeg neu ddysgu'r Gymraeg yn ein hysgolion ni. Byddwn ni'n cyhoeddi manylion pellach am...
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le wrth ddweud fod y galw am addysg Gymraeg mewn ysgolion mewn mannau yng Nghymru ddim yn cael ei ddiwallu, felly, yn sicr mae angen mwy o uchelgais yn y ddarpariaeth mewn amryw gymuned ar draws Cymru. Ar hyn o bryd, fel bydd yr Aelod yn gwybod, mae'r awdurdodau lleol yn gweithio ar eu cynlluniau strategol er mwyn darparu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd nhw er...
Jeremy Miles: Wel, mae gyda ni amryw ffyrdd o gefnogi busnesau ar draws Cymru i ddarparu gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Ac rwy’n talu teyrnged i’r gwaith y mae’r mentrau iaith yn ei wneud ym mhob cymuned yng Nghymru i gefnogi’r economi leol i ddarparu gwasanaethau o'r fath, ynghyd hefyd â gwasanaeth Helo Blod, sy’n darparu gwasanaeth cyfieithu a Helo Blod Lleol, sy’n gweithredu drwy’r...
Jeremy Miles: Wel, mae'r newid yn economi cefn gwlad wrth gwrs yn elfen cwbl greiddiol o ran cynllunio polisi iaith, felly mae'r pethau yma o dan drosolwg cyson. Nid clywed yr hyn wnaeth yr Aelod ddweud gwnes i yn ateb y Gweinidog Newid Hinsawdd. Dyw e ddim yn glir eto beth yw maint y broblem. Dŷn ni ddim eisiau hwn i fod yn broblem, ac rŷn ni eisiau cydweithio gyda ffermwyr i sicrhau na fydd e yn...
Jeremy Miles: Rwy'n cynnal trafodaethau gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ar sawl mater sy'n berthnasol i'n portffolios, ac wedi cael trafodaeth benodol gyda'r Dirprwy Weinidog ar y cwestiwn penodol hwn. Mae cyflawni'n targedau adeiladu coetiroedd yn allweddol i'r maes newid hinsawdd ac yn creu ffynhonnell incwm newydd i ffermwyr, yn cynnwys ffermwyr sydd mewn teuluoedd sy'n siarad Cymraeg. Rŷn ni’n...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel rhan o'r gwaith o gyflwyno rhan addysg rhyw a chydberthynas y cwricwlwm newydd yn effeithiol, ac yn ogystal â'r gwaith y bydd ysgolion yn ei wneud i wireddu'r maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad sy'n rhan annatod o'r cwricwlwm, mae hynny'n galw am arbenigedd, amser ac adnoddau arbenigol i sicrhau bod y math o amgylchedd cefnogol y mae'r...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw, ac rwy'n rhannu gyda hi—. Roeddwn yn drist ac yn bryderus iawn wrth ddarllen y dystiolaeth ar wefan Everyone's Invited, ac mae unrhyw fath o aflonyddu, neu gam-drin yn wir, yn gwbl annerbyniol. Gwn y byddwn i gyd am i'r neges honno gael ei hanfon yn glir iawn o'r Siambr hon. Rydym wedi cyflwyno mesurau eisoes cyn yr adroddiad gan Estyn....
Jeremy Miles: Mae gennym amrywiaeth o ganllawiau a chymorth i sicrhau diogelwch plant a phobl ifanc. Rwyf hefyd wedi comisiynu Estyn i gynnal adolygiad o aflonyddu rhywiol gan gyfoedion mewn sefydliadau addysg, a bydd y canfyddiadau'n chwarae rhan bwysig yn cefnogi sefydliadau ac yn llywio polisi Llywodraeth Cymru.
Jeremy Miles: Mae’n rhy gynnar i ddweud beth fydd effaith tymor hir COVID-19 ar ddysgwyr, ond rŷn ni’n gweld arwyddion cadarnhaol bod dysgwyr yn adfer eu sgiliau iaith Cymraeg wedi dychwelyd i’r ysgol. Dwi am ddiolch i’n addysgwyr ar draws Cymru am eu gofal a’u hymroddiad i’w dysgwyr ar ôl cyfnod anodd iawn.
Jeremy Miles: As stated in the new programme for government, we are committed to eliminate inequality at every level of society, which includes implementing policies in education that will give everyone the best life chances. We recognise that this will require radical action, innovative thinking and strong coordination and collaboration.
Jeremy Miles: The Welsh Government provided significant suport in the financial year 2020-21 to support the education system’s response to COVID-19, which included £26.491 million to support learners to complete vocational qualifications as well as £5 million on supporting vocational learners returning to college to complete licence to practice qualifications.
Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Gaf i ddiolch i bob cyfrannwr yn y ddadl heddiw a chydnabod yr hyn a wnaeth Paul Davies ei ddweud ynglŷn â gwaith y pwyllgor, a diolch iddo a'r pwyllgor am eu gwaith yn hyn o beth?
Jeremy Miles: A gaf i ddiolch hefyd i Huw Irranca-Davies a'r pwyllgor am eu gwaith, fel y gwnes i sôn ar y dechrau, ac am ei amynedd o ran y cwestiwn ynghylch ymateb i'r argymhellion yn yr adroddiad? Gallaf i ei sicrhau y byddwn ni yn derbyn yr argymhellion yn llawn. Yn rhannol, mae'n fater o amseru, sy'n amlygu'r darlun ehangach, ac rwy'n gwybod bod ei bwyllgor wedi bod yn pryderu am hyn yn eu...
Jeremy Miles: Fel y gwyddoch chi, fy nghyngor i'r Senedd yw na ddylem ni roi cymeradwyaeth i'r Bil yn ei ffurf bresennol. Cafodd y Bil ei ddatblygu'n gyflym gan Lywodraeth y DU, a digwyddodd y rhan fwyaf o'r gweithgarwch hwn yn ystod ein cyfnod cyn yr etholiad, a oedd yn atal Gweinidogion rhag cymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu'r Bil. Yn gyflym, trodd hyn y gwaith o ddatblygu fframwaith cyffredin...