Carl Sargeant: Diolchaf i'r Aelod am ei gwestiynau y prynhawn yma. Byddai'n deg dweud, er bod yr adolygwyr wedi cymryd cryn dipyn o amser i sicrhau ein bod wedi ymdrin â phopeth, a'r adolygiad ymarfer plant yw'r elfen olaf o’r adeiledd adrodd hwnnw, byddai hefyd yn deg dweud bod fy nhîm, a'r Llywodraeth yn flaenorol, eisoes yn gweithio ar gyfleoedd i wella'r system. Mae'r rhaglen gofal cymdeithasol a...
Carl Sargeant: Diolch, Lywydd. Cyhoeddwyd yr adolygiad ymarfer plant i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011 yr wythnos diwethaf, gan dynnu ein sylw unwaith eto at yr amgylchiadau lle cafodd bywyd bachgen ifanc ei dorri’n fyr yn ddiangen. Dim ond wyth mlwydd oed oedd Dylan a bu farw o ddiffyg fitamin y gellir ei osgoi ac y gellir ei drin. Bu farw’n anweledig i'r gwasanaethau a'r gweithwyr proffesiynol a...
Carl Sargeant: Wrth gwrs, a chredaf fod yr Aelod yn iawn i grybwyll y mater hwnnw hefyd. Edrychwch, rydym yn sôn am bobl arbennig iawn yma. Y rhaglen sydd gennym yw Pan Fydda i’n Barod, a sicrhau bod hynny’n golygu pan fo’r unigolyn yn barod, nid pan fo’n gyfleus i ddarparwyr gwasanaethau. Mae hyn yn ymwneud â phobl go iawn—dyna sy’n rhaid i ni ei ddirnad. Waeth beth fo’r proffil oedran,...
Carl Sargeant: Rwy’n falch iawn fod yr Aelod wedi ymyrryd. Wyddoch chi, rydym yn dioddef oherwydd ein llwyddiant ein hunain. Rydym yn ceisio cyrraedd targedau yn llawer rhy aml heb edrych ar bobl. A’r hyn sy’n gywir neu’n anghywir am hynny, gyda’r gwrthbleidiau a gwleidyddion eraill, yw bod cyfle gwych i geryddu pobl drwy ddweud, ‘Nid ydych wedi llwyddo i gael 5 TGAU’, pan ydym, mewn...
Carl Sargeant: Gwnaf, yn wir.
Carl Sargeant: Wrth gwrs, David, gwnaf.
Carl Sargeant: Gwnaf. Mae’r Aelod yn nodi pwynt dilys iawn, ac rwy’n siŵr—. Byddwn yn hapus iawn i ddychwelyd mewn 12 mis, neu cyn hynny os credaf fod yna broblemau. Rwy’n gwbl ymrwymedig i wneud yn siŵr y gallwn wneud rhywbeth am hyn. Rwy’n ddiolchgar am awgrym yr Aelod. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant, fy mlaenoriaeth yw gwella lles a ffyniant economaidd unigolion a...
Carl Sargeant: A gaf fi ddweud fy mod yn falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon a gyflwynwyd gan yr Aelodau trawsbleidiol? A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddyfynnu o adroddiad y comisiynydd plant ar yr adolygiad o hawliau plant mewn gofal preswyl, a lansiwyd heddiw, dyfyniad am beidio â bod yn brin o ddim? Mae Phoebe, 13 oed, wedi bod mewn gofal ers pan oedd yn chwe mis oed, wedi cael mwy na...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn—cwestiwn brathog iawn. Soniais am hyn yn gynharach ynglŷn â rhaglen y cyfrifiad. Rwyf wedi siarad â’r Lleng Brydeinig Frenhinol am hyn hefyd, yn ogystal â Llywodraeth y DU. Mae rhai materion penodol ynghylch dod o hyd i gyn-filwyr a'u lleoliad a ble y maent yn byw. Byddwn yn annog pwyll. Cytunaf yn llwyr â’r Aelod—mae gwybod ble y mae pobl...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Yn gyntaf oll, o ran ariannu, fel y nodais yn gynharach, mae £585,000 ar gael ar gyfer rhaglen y GIG i gyn-filwyr. Gwrandewais ar yr Aelod yn ofalus iawn ynglŷn â’r cynnydd y mae'n ei awgrymu ac y mae eraill wedi ei awgrymu. Byddaf yn edrych ar hynny gyda chydweithwyr eraill ym mhob rhan o’r Cabinet i weld a oes ffordd well o ddarparu gwasanaethau...
Carl Sargeant: Ond rwyf yn croesawu cyfraniad yr Aelod. Roedd yn dda iawn ei weld ef a nifer o’r Aelodau eraill yn y digwyddiad yn y gogledd, yn etholaeth Ann Jones. Yn fwy diddorol, roedd Ann Jones mewn bysbi yn llawer mwy difyr yn ystod y dydd, ond rwyf yn siŵr bod rhai lluniau i gefnogi hynny, hefyd, Lywydd.
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Rwyf am wneud rhai sylwadau cychwynnol, os caf. Yn gyntaf oll, ynglŷn â CAIS, rwyf yn gyfarwydd iawn â'r sefydliad hwnnw ac rwyf wedi ymweld ag ef, ynghyd â llawer o Aelodau eraill yn y gogledd. Maent yn gwneud gwaith gwych gyda’r cyllid cyfyngedig sydd ganddynt, ond maent yn gwneud hynny’n dda. O ran y materion ehangach y mae’r Aelod yn eu codi...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad ystyriol unwaith eto. Credaf ei bod yn flaenoriaeth i unrhyw Lywodraeth fod atal gwrthdaro ar bob cyfrif yn rhywbeth y dylem ei ystyried, ac rwyf yn llwyr gefnogi barn yr Aelod ar hynny. Wrth gwrs, mae’r lluoedd arfog yn rhywbeth sydd gennym ac y dylem fod yn falch iawn ohono, a dylem eu cefnogi drwy eu cyfnod yn gwasanaethu ac ar ôl hynny. Rwyf yn...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau cadarnhaol iawn yn ei gyfraniad. Yn wir, rwyf yn rhannu sylwadau'r Aelod ynghylch nodi canmlwyddiant brwydr Jutland a Choedwig Mametz. Mae digwyddiadau fel y rhain nid yn unig yn cydnabod ac yn nodi ein dyled o ddiolchgarwch i gyn-filwyr a fu’n rhan o wrthdaro yn hanes ein cenedl, ond maent hefyd yn ein hatgoffa o bwysigrwydd cefnogi ac anrhydeddu ein...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae hon yn adeg arbennig o briodol i nodi cyfraniad ein lluoedd arfog i amddiffyn ein gwlad a’n ffordd o fyw. Eleni mae’n ganmlwyddiant dau o frwydrau pwysicaf y rhyfel byd cyntaf. Roedd brwydr Jutland yn drobwynt yn y rhyfel ar y môr a enillwyd ar gost o 8,500 o fywydau. Yn Ffrainc, roedd brwydr y Somme yn allweddol i gwrs y rhyfel ac, yn arbennig yng...
Carl Sargeant: Wel, fel y dywedais yn gynharach, nid oedd hyn ar sail cyflwyno taliadau newydd; dadansoddiad ydoedd o’r tâl a gâi ei godi arnynt eisoes. Felly, gallai eich etholwyr fod yn sicr ynglŷn â’r hyn roeddent yn talu amdano neu beidio. Mae’r broses o godi tâl arnynt bellach am dorri gwair—. Roedd tâl yn cael ei godi arnynt eisoes am dorri gwair ond mae’n debyg nad oeddent yn gwybod...
Carl Sargeant: Dyna gwestiwn pwysig iawn ynglŷn â gwrando ar unigolion a’u profiadau a dysgu ganddynt, ac fel Gweinidog, rwy’n awyddus iawn i wella’r cyfle hwnnw. Mae gwrando ar farn pobl ag anableddau yn bwysig, ac rwy’n croesawu’r pwyntiau a godwch drwy Mia Thorne heddiw. Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio’n agos â sefydliadau eraill i gyflwyno sylwadau pan fyddant angen i ni wneud hynny....
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i landlordiaid cymdeithasol gyflwyno taliadau gwasanaeth newydd neu ychwanegol ar gyfer eu tenantiaid. Rydym wedi gofyn i landlordiaid cymdeithasol wahanu rhenti a thaliadau gwasanaeth lle y defnyddiwyd system cronfa rent. Mae hyn er mwyn cynyddu didwylledd a thryloywder ar gyfer eu tenantiaid.
Carl Sargeant: Rwy’n cytuno â’r Aelod. Rwy’n benderfynol o weithio gydag ef er mwyn i ni allu darparu’r sicrwydd y mae’n ei geisio.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Rydym yn darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar asesu anghenion tai ac i alluogi mynediad i gartrefi hygyrch ac ar ddyluniad tai cymdeithasol newydd.