David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf i ganmol Llywodraeth Cymru am gomisiynu Prifysgol Sheffield a Phrifysgol Sheffield Hallam i edrych ar anghenion tai pobl hŷn ac anghenion gofal cyffredinol eraill? Canfuwyd ganddynt bod 18 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn disgwyl cynnydd i anghenion tai cyffredinol pobl hŷn; roedd 16 o awdurdodau lleol yn disgwyl cynnydd i'r galw am dai gofal ychwanegol ar...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo ein Cadeirydd dros dro am ei frwdfrydedd wrth gyflawni ei ddyletswyddau dros dro y prynhawn yma? Credaf iddo roi crynodeb rhagorol o'n hadroddiad, a'i bwysigrwydd, ac roedd yn ddechrau gwych i'r ddadl hon. Credaf fod yr arian nad yw'n arian cyhoeddus y mae'r sector celfyddydau yn ei dderbyn yn arwydd allweddol o'i iechyd, neu fel arall. Ac mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar...
David Melding: A gaf fi fynegi fy nghefnogaeth i Dai Lloyd, ac ategu pa mor bwysig yw'r prosiect hwn? Ac yn wir, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn dal i fod wedi ymrwymo iddo. Credaf ei bod yn anffodus, ar y cam hwyr hwn, nad ydym wedi clywed peth o sylwedd y prif bryderon mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i'r holl randdeiliaid ddod at ei gilydd yn awr a gwneud rhyw fath o ddatganiad...
David Melding: Rwy'n cytuno gyda chi, Weinidog, fod angen cyfraddau cyfranogiad uwch, ond rwy'n bryderus am y bwlch sy'n effeithio ar blant o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yn enwedig, ac rwy'n credu ei bod yn broblem y dylai pob un o adrannau'r Llywodraeth sydd o dan eich cyfarwyddyd a'ch cyd-drefniant edrych arni, oherwydd mae angen dull gweithredu cynhwysfawr—ac rydych eisoes wedi crybwyll addysg...
David Melding: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Ac a gaf fi ganmol gwaith Chwaraeon Cymru hefyd, a'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, sydd o leiaf yn edrych ar y meysydd cywir? Ond fe welais fod y lefelau sy'n cymryd rhan ymhlith y plant mwyaf difreintiedig yn is na'r llynedd mewn gwirionedd, ac mae'r bwlch rhyngddynt a phlant o ardaloedd cyfoethocach—mae'r bwlch hwnnw wedi...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynyddu ymwneud plant mewn chwaraeon yn ardaloedd difreintiedig Cymru?
David Melding: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd y sector adeiladu i economi Cymru?
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gymryd rhan yn y ddadl hon ac yn ei chroesawu hi. Hoffwn ddiolch i'r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o gynhyrchu'r ddau adroddiad hyn. Mae'n waith trylwyr iawn ac yn fy marn i mae'n sail ardderchog ar gyfer dewisiadau i'w datblygu yn y dyfodol. Rwyf i o'r farn hefyd y bydd llawer o dir cyffredin o ran y materion hyn, ac rwy'n edrych ymlaen at...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi clywed am hyn, ac fe soniwyd am inswlin, yn ogystal â radioniwclidau, sy'n hanfodol ar gyfer offer sganio. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhaid i'r Llywodraeth ei wneud, mewn cydweithrediad â Llywodraeth y DU, yw gwneud trefniadau mewn perthynas â sut y dylid ymdrin â'r cynhyrchion a'r meddyginiaethau...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, cefais fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod wedi sôn am y mater hwn yn gyntaf dros 10 mlynedd yn ôl, a chredaf fod angen i ni fod hyd yn oed yn fwy radical, oherwydd roeddwn yn ifanc o ran fy oedran corfforol yn ogystal â chael fy ngeni ar 28 Awst. Rwy'n credu fy mod yn aml 18 mis y tu ôl i lawer o'r bobl a oedd yn yr un flwyddyn â fi. Achosodd anawsterau...
David Melding: Llywydd, rwy'n falch fy mod wedi dal eich llygad. Rwy'n ddiolchgar iawn. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, i ddechrau, yn y ddadl hon, ond rwy'n credu bod Steffan Lewis wedi codi pwyntiau sy'n bwysig ac sy'n haeddu ymateb, yn yr hyn a oedd yn gyfraniad meddylgar, yn fy marn i. Mwynheais gyfraniad Dai Lloyd, ond nid wyf mor siŵr ei fod mor ystyriol, ond roedd yn sicr yn ddolefus ac yn...
David Melding: Rwy'n falch iawn o groesawu'r datganiad hwn. Yn benodol, cymeradwyaf yr elfennau canlynol: credaf fod y pwyslais ar bobl ifanc NEET yn hollol briodol, mae hwnnw'n ddangosydd risg mawr. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae hon yn broblem gymhleth, ond mae angen dull sydd wirioneddol yn sicrhau bod pobl ifanc yn byw bywydau mor llawn â phosib. Felly, mae angen iddynt fod yn gwneud rhywbeth...
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n cytuno â llawer o Aelodau yn y fan yma y dylai mwy fod wedi ei wneud i ddysgu o'r broses gyflwyno ac i wneud hynny cyn gynted â phosibl. Rwy'n croesawu penderfyniad Amber Rudd y bydd hynny'n cael ei gyflymu nawr, yn enwedig trwy wrando ar gyngor arbenigol a phrofiad y rhai sydd wedi symud i'r system newydd erbyn hyn. Ond mae'r system newydd yn un sydd wedi cael...
David Melding: A gaf fi gymeradwyo gwaith Ymddiriedolaeth St Giles, a roddodd gyflwyniad ddoe i'r grŵp hollbleidiol ar blant sy'n derbyn gofal am y prosiect llinellau cyffuriau a weithredir mewn cydweithrediad â phrosiect yng Ngwent? Clywsom dystiolaeth wirioneddol frawychus ynglŷn â sut y mae'r cylchoedd cyffuriau hyn yn defnyddio plant sy'n derbyn gofal, unigolion sy'n gadael gofal, a llawer o bobl...
David Melding: Rwy'n siarad fel cadeirydd grŵp cynghori'r Gweinidog, sy'n gwneud fy ymateb o feinciau'r Ceidwadwyr ychydig yn afreolaidd. Felly, bydd gennyf gyfuniad doeth o ddwy swyddogaeth, rwy'n credu. Ond mae'n bwynt difrifol yn y fan yma fy mod i'n credu bod gwaith yn y maes hwn, sy'n heriol iawn, ond y mae llawer o arfer da a chanlyniadau da i'w gweld hefyd, yn ei gwneud hi'n ofynnol cael dull...
David Melding: Rwyf innau hefyd yn croesawu'r ffaith bod y cap hwn wedi ei godi. Bydd hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio'n effeithiol gyda sefydliadau eraill, yn enwedig cymdeithasau tai. Nodaf y model partneriaeth diddorol sy'n bodoli yng nghyngor Warrington, lle maen nhw wedi rhoi cannoedd o filiynau o bunnoedd yn fwy i gyfanswm y benthyciadau i gymdeithasau tai. Gallem weld y math hwnnw o...
David Melding: 4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith codi'r cap benthyg ar y cyfrif refeniw tai? OAQ52932
David Melding: Dyma ddadl ac adroddiad defnyddiol, ac mae'r rhain yn faterion pwysig y dylid myfyrio arnynt yn ofalus iawn. Credaf fy mod am ddechrau gyda'r ddadl ynglŷn â siarter hawliau dynol yr UE, sydd—. Fy nealltwriaeth i yw ei bod yn rhestru'r hawliau sy'n bodoli o dan gyfraith yr UE, ac am nad yw'n ddogfen sylfaenol fel y cyfryw, ac ond yn dwyn ynghyd yr hawliau yn neddfwriaeth bresennol yr UE,...
David Melding: [Anghlywadwy.]—ildio ar hyn. Pam na wnewch chi ddilyn yr arferion a nodir yn y Bil yn Lloegr, sy'n caniatáu i awdurdodau lleol wneud hyn?
David Melding: A gaf i ddweud y byddwn ni yn grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi cynnig heddiw? Dros y degawd diwethaf, tyfodd y sector rhentu preifat o ran niferoedd absoliwt a chyfesuredd, yn bennaf ar draul lefelau perchen-feddiannaeth. Os bydd y duedd yn parhau, y sector rhentu preifat fydd yr ail fath o lety cyffredin ar ôl perchentyaeth; disgwylir iddo gyrraedd 20 y cant o gyfanswm y stoc dai...