Alun Davies: Fe fyddwn i'n siomedig pe baech chi'n dangos unrhyw drugaredd tuag ataf o gwbl. [Chwerthin.] Ond gadewch i mi ddweud hyn: yn amlwg, mae'r materion o atal ac ymwybyddiaeth yn faterion y bydd y gwasanaethau tân yn canolbwyntio arnyn nhw mewn ffordd efallai na wnaethon nhw yn y gorffennol, ac yn sicr nid 20 neu 30 mlynedd yn ôl, ac mae hynny'n rhywbeth y gobeithiaf y byddwn yn parhau i...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, fe wnaethom ni gwrdd, wrth gwrs, yn eglwys gadeiriol Southwark pan oedd y ddau ohonom ni yno i dalu teyrnged i waith Undeb y Brigadau Tân a diffoddwyr tân dros y ganrif ddiwethaf, ac mae llefarydd Plaid Cymru yn llygad ei le yn talu teyrnged i chi am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud yn yr amser yr ydych chi wedi gwasanaethu yma, drwy'r ddeddfwriaeth yr ydych chi wedi...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, daeth ofn dychrynllyd arnaf hanner ffordd drwy'r cyfraniad hwnnw fod yr Aelod Ceidwadol yn mynd i ddarllen nodiadau pob cyfarfod a gefais dros y flwyddyn ddiwethaf, a darllen o nodiadau pob cyfarfod, cyfraniad pob aelod yn y cyfarfod hwnnw. [Chwerthin.] Gallai fod wedi bod yn sesiwn hir iawn, iawn. Gadewch imi ddweud hyn: rydym ni, fel y dywedodd yr Aelod, wedi cael sgwrs hir...
Alun Davies: Mae gennym ni eisoes nifer o orsafoedd tân yng Nghymru sydd fel arfer yn ymdrin â llai nag un alwad brys i ddiffodd tân bob mis, a llawer sy'n gweld dim ond ambell ddwsin y flwyddyn. Rydym ni'n deall nad yw hyn yn gynaliadwy a'i fod yn gwneud recriwtio, ysgogi a chadw diffoddwyr tân yn anodd iawn. Ond ni ddylid cau gorsafoedd o'r fath chwaith, oherwydd byddai hynny'n gadael rhannau...
Alun Davies: Dirprwy Lywydd, rydym ni i gyd yn falch iawn o'n gwasanaethau tân ac achub, a hynny'n haeddiannol hefyd. Maen nhw'n ymateb yn gyflym, yn effeithiol ac yn anhunanol i fygythiadau difrifol i'n diogelwch. Yn fwy na hynny, mae eu gwaith ataliol wedi helpu i leihau nifer y tanau a nifer y bobl sy'n cael eu hanafu gan danau o fwy na hanner ers datganoli'r cyfrifoldeb i Gymru yn 2005. Mae hynny'n...
Alun Davies: Ddoe, ceisiais amlinellu sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi cymuned y lluoedd arfog. Hoffwn groesawu'n gynnes iawn y sylwadau a wnaed gan Mark Isherwood wrth agor y ddadl y prynhawn yma. Roeddwn yn teimlo iddo wneud rhai sylwadau rhagorol, ac roeddwn yn meddwl ei fod yn gyfraniad meddylgar a gwerthfawr i'r ddadl hon. Byddaf yn ceisio ateb y rhan fwyaf o'r pwyntiau a wnaed yn y...
Alun Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Fel eraill yn y ddadl hon, hoffwn ddechrau fy sylwadau drwy roi teyrnged i waith fy ffrind a fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Rwy'n credu bod heddiw wedi bod yn ddiwrnod anodd i lawer ohonom, ac mae ein meddyliau gyda Bernie, Jack a Lucy a'r teulu. Ac wrth ymateb i'r ddadl y prynhawn yma, rwy'n gobeithio y bydd pawb ohonom yn meddwl am y gwaith a wnaeth...
Alun Davies: Yn ffurfiol.
Alun Davies: Lywydd, fel rwyf wedi dweud eisoes, bydd gan Aelodau ar bob ochr i'r Siambr eu barn eu hunain ar ddigwyddiadau byd-eang a'r rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a chredaf y byddem oll yn rhannu barn debyg ynglŷn ag effaith rhyfela ar sifiliaid, lle bynnag y maent yn digwydd bod, ac rydym yn cydnabod hynny. Fodd bynnag, nid mater ar gyfer y lle hwn yw dadlau neu drafod...
Alun Davies: Lywydd, mae'r Aelod yn ymwybodol, a chredaf fod yr Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn ymwybodol, nad mater i'r lle hwn yw materion gweithredol y Llu Awyr Brenhinol, ac nid yw'n fater priodol i'w drafod yma. Bydd gan bawb ohonom ein barn ar ddigwyddiadau'r byd, megis y rhai sy'n digwydd yn Yemen ac mewn mannau eraill, a bydd gennym i gyd farn ar hynny. Yr hyn sy'n fater ar gyfer y lle hwn, a'r...
Alun Davies: Mae'r Aelod yn gofyn i mi adael i bobl eraill gymryd yr awenau yn ei chwestiwn. Wrth gwrs, mewn cwestiwn blaenorol, roedd hi'n mynnu fy mod i'n cymryd yr awenau. Credaf fod angen iddi benderfynu.
Alun Davies: Nid oes unrhyw drafodaethau wedi digwydd ar ddefnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddi peilotiaid o Saudi Arabia. Mater i'r RAF a'r Weinyddiaeth Amddiffyn yw'r defnydd o RAF y Fali at ddibenion hyfforddiant. Fodd bynnag, cyfarfûm â'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gynharach yr wythnos hon a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y Weinyddiaeth Amddiffyn eto yr wythnos nesaf.
Alun Davies: Lywydd, nid wyf yn siŵr fod CLlLC yn drysu, ond credaf fod yr Aelod yn drysu. Mae wedi drysu rhwng nifer o wahanol faterion o fewn un cwestiwn, ac rwy'n derbyn bod hynny'n dipyn o gamp. Gadewch imi ddweud hyn wrtho: nodais fy mwriadau yn y datganiad ar 17 Gorffennaf. Mae'n ymddangos nad yw'n gwybod hynny, ac efallai y dylai wybod hynny. Bydd fy nghyfarfod nesaf â'r gweithgor ar 30 Tachwedd...
Alun Davies: Amlinellais fy nghynlluniau ar gyfer camau nesaf y broses o ddiwygio llywodraeth leol yn fy natganiad ar 17 Gorffennaf.
Alun Davies: A gaf fi roi croeso mawr iawn i adroddiad y panel ar gynghorau tref a chymuned a ddaeth i law ar 3 Hydref? Roeddwn yn credu bod yr argymhellion yn argyhoeddiadol iawn mewn llawer o ffyrdd gwahanol. Rwy'n hoff iawn o gynghorau tref a chymuned lleol. Gwn ein bod wedi elwa'n fawr o waith Cyngor Tref Tredegar gartref. A gaf fi ddweud fy mod yn credu bod nifer o ffyrdd yr hoffwn fwrw ymlaen â'r...
Alun Davies: Ni oedd y dyfodol. [Chwerthin.] A gobeithio y bydd pawb ohonom yn gallu ymuno â'r bobl ifanc hynny i gymryd rhan mewn dadl ynghylch natur ein democratiaeth. Nod y cynigion a gyflwynwyd gan fy rhagflaenydd, yr Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a minnau ar gryfhau democratiaeth leol, oedd gwneud yn union hynny: cryfhau cyfranogiad gwleidyddol, cryfhau cyfranogiad wrth wneud penderfyniadau a...
Alun Davies: Gyda chaniatâd y Llywydd, ni chyfeiriaf at benderfyniadau unigol awdurdodau unigol, ond hoffwn allu dweud bod pob un ohonom, ar bob ochr i'r Siambr, am weld democratiaeth fywiog ym mhob rhan o'r wlad ac mae hynny'n golygu sicrhau bod awdurdodau lleol, ni ein hunain fel Aelodau lleol, ac Aelodau o Senedd y DU yn ogystal, oll yn cymryd rhan mewn trafodaethau lleol ar ddyfodol ein cymunedau....
Alun Davies: Lywydd, mae'r Aelod yn fy nhemtio i gyflawni cam gwag dybryd. Dysgais drwy brofiad chwerw na ddylwn fwrw amcan ynghylch penderfyniadau ynglŷn ag unrhyw fater cynllunio ac nid yw'n fwriad gennyf wneud hynny y prynhawn yma.
Alun Davies: Rwy'n bwriadu cyflwyno Bil yn y flwyddyn galendr nesaf a fydd yn gweithredu nifer o'r cynigion a nodir yn y papur ymgynghori 'Diwygio Etholiadol mewn Llywodraeth Leol yng Nghymru' a fydd yn cyfrannu at gryfhau democratiaeth leol ar draws y wlad gyfan, gan gynnwys Canolbarth a Gorllewin Cymru.
Alun Davies: Rwy'n hapus bob amser i weithio gyda'r holl awdurdodau lleol ac i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, fel corff cynrychioliadol, er mwyn darparu'r math o bolisïau parch y byddai pawb ohonom am eu gweld yn y lle hwn ac yn ein holl sefydliadau democrataidd. Rwy'n hapus iawn i barhau i weithio gydag awdurdodau lleol i gyflawni hynny. Os oes gan yr Aelod faterion penodol yr hoffai...