Mike Hedges: Mae tai yn angen sylfaenol ac yn hawl sylfaenol. Rwyf wir yn credu bod hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei gadw yn flaenllaw yn ein meddyliau bob tro y byddwn ni’n trafod tai. Does dim wythnos yn mynd heibio heb i fy etholwyr ei gwneud hi’n glir imi fod angen mwy o dai fforddiadwy—yn y saith diwrnod diwethaf, teulu o bedwar, gan gynnwys plentyn anabl, yn byw mewn fflat un ystafell...
Mike Hedges: Dim ond i egluro: ffigurau ar gyfer Cymru yw’r rhain.
Mike Hedges: Y cyfan yr wyf i am wneud yw tri phwynt byr iawn yn y ddadl hon. Yn gyntaf, nid yw'r gyllideb atodol gyntaf ddim ond fymryn yn wahanol i'r gyllideb wreiddiol. Pe byddai newidiadau sylweddol ynddi, mae'n debyg y byddai gennym ni broblem, a byddai'n rhyfedd iawn pe byddai talpiau mawr o arian yn symud o gwmpas. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni ei ddisgwyl gan y gyllideb atodol...
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd yr M4 i dde Cymru?
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o ymateb i'r ddadl, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ynddi. Credaf mai un o wendidau'r Cynulliad, un o'r beirniadaethau rydym wedi'u cael, yw ein bod yn tueddu i fod yn fewnblyg iawn ac yn amharod i ddysgu o'r tu allan. Credaf fod hon yn enghraifft o lle rydym yn edrych ar beth sydd wedi digwydd, beth sydd wedi mynd o'i le, y tu allan a...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i chi am yr ymateb hwnnw? Mae unfrydedd wedi bod ymysg y rhai ohonom sy'n cynrychioli'r rhanbarth cyfan hwnnw yn ne-orllewin Cymru, gan ddechrau efallai gyda fy nghyd-Aelod a fy nghymydog gyda'r hanner arall ohono, David Rees, ond hefyd yr Aelodau rhanbarthol ar draws y pleidiau sydd wedi dangos eu cefnogaeth yn llawn. Felly, nid yw hwn yn sylw gwleidyddiaeth plaid fel y...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb? Mae llawer o lwybrau beicio da sy'n cael cryn dipyn o ddefnydd yn ninas-ranbarth bae Abertawe, gan gynnwys nifer helaeth yn etholaeth Julie James, yn dod o Mayals tuag at neuadd y sir. Ond yn aml, ceir bylchau, ac mae'r bylchau hyn i'w gweld rhwng ble mae pobl yn byw a'r prif lwybr beicio, sy'n atal llawer o bobl rhag ei...
Mike Hedges: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am seilwaith beicio dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52444
Mike Hedges: 5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau cyfreithiol Llywodraeth Cymru i gefnogi model newydd ar gyfer morlyn llanw bae Abertawe? OAQ52446
Mike Hedges: Hoffwn i ddychwelyd eto at y bygythiad gan Virgin Media i gau eu cyfleuster yn Abertawe. A gaf i ofyn yn gyntaf i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y cymorth gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y prif gynnig i geisio achub y safle cyfan ac asiantau'r ganolfan alwadau, ar sail eu hansawdd a'u sgiliau? Yn ail, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar y cymorth ar gyfer y staff gweithredol nad ydynt yn y...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae llawer o'm hetholwyr yn wynebu argyfwng ariannol yn ystod gwyliau'r haf, gan orfod dod o hyd i 10 o brydau ychwanegol fesul plentyn am chwe wythnos. Er bod Carolyn Harris AS yn darparu bwyd i rai plant am bythefnos o'r gwyliau, bydd angen sylweddol heb ei ddiwallu. Mae Faith in the Community wedi diwallu rhywfaint o'r angen hwnnw, ond...
Mike Hedges: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â thlodi? OAQ52445
Mike Hedges: Roeddwn am ddweud ei fod hefyd yn gwrthod dod i bwyllgorau i roi tystiolaeth.
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Daeth Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 i rym ar 1 Gorffennaf 1948. Hoffwn ddathlu pen blwydd y ddeddfwriaeth arloesol hon yn 70 oed. Ystyrir Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1947 yn sylfaen statudol i gynllunio ffisegol ym Mhrydain ar ôl y rhyfel. Sefydlodd y Ddeddf y ddarpariaeth gynllunio sy'n angenrheidiol ar gyfer datblygu tir. Nid oedd perchnogaeth yn unig...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei ymateb? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol i blant a bod y gost a'r angen am wasanaethau plant wedi cynyddu'n sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf, ac yn sicr dros yr 20 mlynedd diwethaf. Hefyd, nid yw gwasanaethau cymdeithasol yn golygu gofal cymdeithasol i'r henoed yn unig, fel sy'n cael ei ystyried yn eithaf aml yn y lle hwn. Pa...
Mike Hedges: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu gwasanaethau cymdeithasol i blant? OAQ52393
Mike Hedges: Yn gyntaf, hoffwn i dalu teyrnged i Martin Bishop, Rheolwr Cenedlaethol Confor, a fu farw yn drasig yn ddiweddar, ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, pwyllgor y gweithiodd yn agos iawn gydag ef, ac roedd ei wybodaeth a'i frwdfrydedd ynghylch popeth sy'n ymwneud â choed bob amser yn creu argraff arnom ni. A gaf i groesawu ailddatganiad y Gweinidog o weledigaeth...
Mike Hedges: Mae'r cynnig yn rhychwantu ffiniau fy etholaeth i ac etholaeth fy nghyfaill a'm cyd-Aelod David Rees. Credaf fod Dai Lloyd wedi sôn am y dicter a'r brad, a bu ymdeimlad aruthrol ymhlith pobl o ddicter a brad. Euthum allan neithiwr ac roedd pobl yn awyddus i ddweud wrthyf pa mor ddig oedden nhw a'u hymdeimlad o frad. Ond nid dyna'r hyn oedd yn brifo—yr hyn a oedd yn brifo oedd y rhai a...
Mike Hedges: A gaf fi yn gyntaf groesawu'r datganiad a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, a hefyd y sylwadau a wnaed gan Nick Ramsay? Mae'n sefyllfa ryfedd y gallwn fod wedi gwneud y naill neu'r llall o'r datganiadau hynny—naill ai'r datganiad neu'r sylwadau a'r cwestiynau gan Nick Ramsay—heb unrhyw broblem o gwbl, felly credaf y ceir lefel o unfrydedd ymysg y rhai ohonom sy'n gwasanaethu ar y...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i arweinydd y tŷ am yr ateb hwnnw? Nid wyf am ofyn beth yw'r cyflymder lanlwytho gan y bydd hwnnw'n is mae'n debyg. Mae'r pwynt roeddwn eisiau ei ddwyn i sylw arweinydd y tŷ yn un allweddol. Mae gennym ddarpariaeth uchel iawn, ond nid oes gennym nifer fawr o bobl yn manteisio arno. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog ei ddefnydd gan bobl sydd â mynediad at...