Nick Ramsay: Byddaf yn tynnu ôl, felly.
Nick Ramsay: Diolch. Fel y dywedais wrth agor y grŵp hwn, grŵp 2, a chynnig y gwelliant hwn, mae'r gwelliant hwn mewn gwirionedd yn gyfaddawd ar y gwelliant gwreiddiol a gyflwynwyd yng Nghyfnod 2, pwynt a gydnabyddir gan Ysgrifennydd y Cabinet, ac nid yw ond yn ceisio egluro diffiniadau a sicrhau nad yw deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn gwrthdaro â deddfwriaeth y DU. Mae'r materion y mae Ysgrifennydd...
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o siarad am y prif welliant ac i gynnig prif welliant grŵp 2 ar y diffiniad o fwriad. Rydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn—adran 6, tudalen 3, llinell 29, os ydych am yr union fanylion—gan ddweud mai ar ôl 'gwastraff' dylem fewnosod 'a'r diffiniad o fwriad', gan ei fod yn darparu ar gyfer hyblygrwydd i ailedrych ar y mater o fwriad. Roedd hwn yn...
Nick Ramsay: A gaf i yn gyntaf, Ysgrifennydd y Cabinet, groesawu cyflwyno Cam 3 y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru)? Rydym wedi treulio amser hir yn siarad am ba mor hanesyddol oedd cyflwyno Treth Gwarediadau Tirlenwi fel y dreth Gymreig gyntaf mewn cannoedd o flynyddoedd, ac yn amlwg mae hwn hefyd yn hanesyddol—yr ail, ac am wn i, y Buzz Aldrin i Neil Armstrong, os oeddech yn chwilio am...
Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch i chi am eich datganiad heddiw, ac am ba mor gyflym y gwnaethoch chi ddod ag ef ymlaen. Mae ein meddyliau a'n gweddïau, wrth gwrs, gyda dioddefwyr y tân ofnadwy a losgodd Dŵr Grenfell yng ngorllewin Llundain yr wythnos diwethaf, a gyda’u teuluoedd. Roedd y delweddau yn wirioneddol erchyll a byddant gyda llawer o bobl am weddill eu bywydau. Mae angen i ni...
Nick Ramsay: Prif Weinidog, rwy'n falch o fynegi fy mod i o blaid datganoli toll teithwyr awyr i'r Cynulliad hwn. Mae'n ddrwg gen i os nad ydych chi wedi clywed ein galwadau ynghylch hynny yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ond, yn sicr, dyna ein safbwynt. Roedd Nathan Gill, yn ei gwestiwn, yn iawn i gyfeirio at ddatganoli treth fel y datblygiad mawr nesaf i ddatganoli yng Nghymru—yn wir, yn...
Nick Ramsay: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am gyflwyno'r datganiad hwn heddiw ac am gael golwg ymlaen llaw, yn wir, ar ddogfen fframwaith y polisi treth. Gallaf eich sicrhau y gwnaf geisio osgoi unrhyw sylwadau didrugaredd, neo-ryddfrydol—nid fy ffordd i fel arfer, ond mae'n debyg bod tro cyntaf i bopeth—ond, yn achos y ddogfen hon, roedd llawer yma y gallwn gytuno ag ef ac,...
Nick Ramsay: A gaf i yn gyntaf gytuno â'r sylwadau blaenorol, a wnaethpwyd gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin, ar Gylchdaith Cymru? Rydym yn mynd i roi ystyriaeth i hyn yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ddiweddarach yn y mis, felly, yn eglur, gan mai fi yw Cadeirydd hwnnw, byddaf yn ymatal rhag mynegi fy marn tan hynny. Fodd bynnag, byddai'n briodol, rwy’n credu, i ni gael penderfyniad yn sgil...
Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi ffermio?
Nick Ramsay: Diolch. Rwy’n llwyr werthfawrogi mai cyfrifoldeb yr Aelod sy’n gyfrifol ydyw yn y lle cyntaf, ond mae gennych chi, Ysgrifennydd y Cabinet, gyfrifoldeb cyffredinol am gadernid ariannol Llywodraeth Cymru—nid yw’n dasg hawdd, rwy’n cydnabod hynny. Ac rwy’n derbyn bod y broses gyfan gyda’r asesiadau effaith rheoleiddiol yn broses sy’n datblygu, ac rwy’n siŵr y bydd yr adolygiad...
Nick Ramsay: Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n cytuno’n llwyr â’r penderfyniad ddoe i oedi neu ohirio cytundeb ariannol y Cynulliad hwn i’r Bil hwnnw. Wrth ofyn y cwestiwn heddiw, nid wyf mewn unrhyw ffordd yn eich beio am rai o’r problemau a gawsom gyda chostio’r ddeddfwriaeth; nid wyf ond yn gofyn i chi am fod gennych, yn eich rôl fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, safbwynt...
Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe, ni chynigodd Llywodraeth Cymru y cynnig i gytuno’r penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru)—y tro cyntaf, rwy’n credu, i hyn ddigwydd, er bod problemau wedi bod gyda chostio deddfwriaeth yn flaenorol. Fel Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid, a ydych yn pryderu ei bod yn ymddangos bod y costau...
Nick Ramsay: I’ch helpu gyda daearyddiaeth Sir Fynwy yn y fan hon, mae yna rai datblygiadau ffermydd solar mawr—un ychydig y tu allan i Lanfable ac un heb fod ymhell o Lancaeo. A fyddech yn cytuno â mi, er cystal yw’r datblygiadau hynny, mae’n bwysig fod y cymunedau lleol yn cael y manteision angenrheidiol o’r datblygiadau hynny? Oherwydd mewn rhai achosion, nid yw’r cymunedau hynny wedi cael...
Nick Ramsay: Rwy’n falch o gefnogi’r cynnig hwn, ac yn fy nghyfraniad, hoffwn ganolbwyntio ar ran gyntaf cynnig y Ceidwadwyr Cymreig sy’n ymwneud â phontydd Hafren. Mae’n bosibl y bydd ymrwymiad y Prif Weinidog i ddileu tollau ar bontydd Hafren yn newid pellgyrhaeddol i economi Cymru, gan ddarparu, fel y dywedodd Dai Lloyd, hwb o £100 miliwn, o bosibl. Mae hefyd yn gyffrous iawn i fy etholwyr yn...
Nick Ramsay: Nid yr un yna. Rwy'n meddwl y gallwn ni rannu hynna.
Nick Ramsay: Prif Weinidog, 60 mlynedd yn ôl byddwn wedi gallu teithio o fy mhentref, Rhaglan yn Sir Fynwy, ar y trên i Gaerdydd. Ni ellir gwneud hynny nawr, oherwydd yn amlwg, collasom lawer o'r rhwydwaith rheilffyrdd lleol yn ôl yn y 1950au a'r 1960au. Rydych chi wedi sôn am yr angen i sicrhau bod y metro yn estynadwy a’i fod yn cyrraedd ardaloedd o’r de a dinas-ranbarth y de-ddwyrain nad...
Nick Ramsay: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ei flaenoriaethau economaidd ar gyfer de-ddwyrain Cymru?
Nick Ramsay: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella maeth yn ysbytai Cymru?
Nick Ramsay: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei flaenoriaethau ar gyfer y GIG yn ne-ddwyrain Cymru?
Nick Ramsay: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei bolisïau ar gyfer hybu twf economaidd yn ne-ddwyrain Cymru?