Mark Isherwood: Carchar yw pen eithaf ein system gyfiawnder, ac mae'n rhan bwysig ac annatod o'r system cyfiawnder troseddol ym mhob gwlad. Amddifadu rhywun o'i ryddid am gyfnod yw un o'r pwerau mwyaf arwyddocaol sydd ar gael i'r wladwriaeth. Mae carchar yn chwarae rhan hollbwysig yn y gwaith o gynnal rheolaeth y gyfraith, drwy helpu i sicrhau bod troseddwyr honedig yn cael eu dwyn o flaen eu gwell, a thrwy...
Mark Isherwood: Ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ei strategaeth 10 mlynedd ar gyfer camddefnyddio sylweddau yn 2008 i leihau a mynd i’r afael â'r niwed sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, mae marwolaethau sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau ledled Cymru wedi codi o 569 i 858: ar Ynys Môn, mewn gwirionedd—hyd at y ffigurau a gyhoeddwyd ym mis Awst gan y Swyddfa...
Mark Isherwood: Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddatganiad ar yr Ymddiriedolaeth Ffibrosis Systig yn gyntaf? Mewn ymateb i Bethan Sayed, fe wnaethoch gyfeirio at ddatganiad gan y Gweinidog ym mis Awst. Ond cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y gallai pobl â ffibrosis systig gael mynediad i Orkambi a Symkevi fel rhan o gytundeb pum mlynedd gyda Vertex ar 12 Medi. Felly, mae pethau wedi symud ymlaen ac yn y...
Mark Isherwood: Gwnaf.
Mark Isherwood: Na, yn bendant—
Mark Isherwood: —ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt y dylem wahaniaethu'n bendant rhwng yr hyn yr ydym wedi bod yn sôn amdano heddiw ac arswyd cam-drin domestig, boed yn gorfforol neu fel arall.
Mark Isherwood: Mae gwahaniaeth enfawr, ac, fel rhiant, rwy'n gwybod hynny'n dda iawn. Nawr, mewn gwirionedd, y rhai sy'n ei alw'n drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant. Mae'r gyfraith, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn gam diogelu digonol rhag cam-drin corfforol afresymol. Byddai plant sy'n dioddef cam-drin go iawn yn wynebu mwy o risg oherwydd bod yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu llethu...
Mark Isherwood: Rwy'n rhiant i chwech o blant, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar. Rwy'n rhiant bedydd, yn daid, yn ewythr ac yn hen ewythr. Nid wyf i wedi siarad ag unrhyw berson y tu allan i'r swigen ym Mae Caerdydd sy'n cefnogi'r Bil hwn. Fel y dywedais wrth siarad yn nadl yr Aelodau yn y fan yma yn 2011 ar ddod â chosb gyfreithlon i ben, roedd adran 58 o Ddeddf Plant 2004 yn...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar gyffuriau, yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ystod toriad haf y Cynulliad o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr 2018. Datgelodd y rhain fod gan Gymru y ffigurau ail uchaf ymhlith 10 ardal—naw rhanbarth yn...
Mark Isherwood: Wrth siarad yma yn 2015, yn y ddadl a alwodd ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydain, sylwais fod Tata Steel Colors yn Shotton nid yn unig yn dibynnu'n hanfodol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer dur cynaliadwy ym Mhrydain, ond bod ganddyn nhw bwyslais hefyd ar ymrwymiad i fuddsoddi mewn gwella eu perfformiad amgylcheddol a'u cynaliadwyedd, pan eu bod yn gweithio...
Mark Isherwood: Mae'n peri pryder nad yw adroddiad blynyddol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig 2018-19 yn darparu fawr o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd yn gweithredu argymhellion gwerthusiad annibynnol mis Ebrill, gan awgrymu yn lle hynny y bydd y rhan fwyaf o'r argymhellion, ac rwy'n dyfynnu, 'yn cael eu hystyried'. Mae'r adroddiad hwn yn amwys yn ei gynigion i roi...
Mark Isherwood: Mae'n nodi cyhoeddi'r gwerthusiad o'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ac adroddiad terfynol y cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig ym mis Ebrill, a gyhoeddwyd ar ddiwedd mis Mawrth, ac adroddiad blynyddol 2018-19 cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig y mis hwn, er ei fod yn cydnabod y diffyg mesurau...
Mark Isherwood: Diolch. Mae pobl yn cael eu geni gyda chyflyrau sbectrwm awtistiaeth gydol oes ac mae pobl awtistig yn gweld, yn clywed ac yn teimlo'r byd yn wahanol i bobl eraill. Os ydych yn awtistig, rydych yn awtistig am oes. Nid salwch neu glefyd yw awtistiaeth ac ni ellir ei wella. Yn aml, mae pobl yn teimlo bod awtistiaeth yn elfen sylfaenol o'u hunaniaeth. Mae ein cynnig yn cydnabod, er bod rhywfaint...
Mark Isherwood: Yn amlwg, fel y dywedwch, mae'n bwysig ein bod yn gweld cryfderau pobl ac yn defnyddio eu dealltwriaeth o'u hunain a'r rhwystrau y maent yn eu hwynebu er mwyn troi'r rhwystrau hynny'n gyfleoedd. Ond unwaith eto, wrth gyfeirio at yr holl bwyntiau hyn a'u dwyn ynghyd—diwygio lles a'r dull bywoliaethau cynaliadwy—mae'r prosiect partneriaeth sy'n cael ei roi ar waith ledled Cymru rhwng Oxfam...
Mark Isherwood: Diolch. A chredaf mai'r neges allweddol a gawsom drwy hynny oedd fod y bobl ifanc—nid oedd llawer ohonynt yn ymwybodol o'r cynlluniau sy'n bodoli eisoes, hyd yn oed, felly mae'n ymwneud â sut y gallwn ymgysylltu â hwy yn y gwaith o gynllunio a chyflwyno'r rhaglenni hynny, yn hytrach nag fel derbynwyr, os bydd rhywun yn dewis dweud wrthynt am hyn. A chredaf mai'r dyn ifanc rydych yn...
Mark Isherwood: Diolch, Lywydd. Hoffwn ganolbwyntio fy nghwestiynau ar eich cyfrifoldebau fel Gweinidog gwaith teg a diwygio lles. Nodaf fod gwefan Llywodraeth Cymru yn dweud bod eich cyfrifoldebau gwaith teg yn cynnwys cyfleoedd ar gyfer mynediad, twf a chynnydd, ac ar gyfer amgylcheddau gwaith diogel, iach a chynhwysol. Ddydd Llun, fel y gwyddoch o bosibl, cefais y fraint o noddi'r digwyddiad undydd...
Mark Isherwood: Diolch. Cyrhaeddodd allforion o Brydain y lefel uchaf erioed yn 2018 ac maen nhw wedi parhau i gynyddu ers hynny, sef cyfanswm o dros £647 biliwn yn y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac mae mewnforwyr nwyddau o'r DU sy'n tyfu gyflymaf, ar y cyfan o'r tu allan i Ewrop. Y DU yw prif gyrchfan Ewrop o hyd ar gyfer buddsoddiad uniongyrchol o dramor, a'r drydedd uchaf yn fyd-eang ar ôl yr Unol...
Mark Isherwood: Yn fyr iawn, ynglŷn â'r corff llais pobl newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, efallai eich bod yn ymwybodol bod y cynghorau iechyd cymuned presennol wedi galw am i'r corff hwnnw fod yn annibynnol ac yn wirioneddol gryfach. Fodd bynnag, ar 3 Gorffennaf, dywedodd y Gweinidog iechyd wrth y Pwyllgor Cyllid y bydd y corff newydd yn: rheoli ei dynged ei hun a chael...
Mark Isherwood: Galwaf am ddatganiad ynglŷn â'r ymgyrch Lleoedd Newid ar gyfer toiledau Lleoedd Newid. Lansiwyd hwn yn 2006, ond ddydd Gwener diwethaf, am yr eildro, euthum i gyfarfod grŵp llywio Lleoedd Newid a gynhaliwyd yn Shotton, a oedd yn canolbwyntio ar ddod â Lleoedd Newid i siroedd y gogledd-ddwyrain, gan ddechrau gobeithio gyda thref yr Wyddgrug. Caiff ei gadeirio gan Kim Edwards, sydd â'r...
Mark Isherwood: Cyhoeddwyd adroddiad terfynol y gwasanaeth awtistiaeth integredig a'r cynllun gweithredu strategol ar gyfer anhwylderau'r sbectrwm awtistig, a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, ddiwedd mis Mawrth.Roedd hwn yn dweud, 'er y gall y Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig weithio gyda rhieni a gofalwyr ni all weithio'n uniongyrchol gyda phlant', gan ddibynnu o ganlyniad ar wasanaethau addysg i roi...