Canlyniadau 821–840 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

6. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cymwysterau Proffesiynol ( 5 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle yma i egluro cefndir y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, ac i egluro pam rwy'n awgrymu nad yw'r Senedd yn caniatáu’r Bil Cymwysterau Proffesiynol. Rwy'n ddiolchgar i Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig am ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ac am gynhyrchu'r adroddiad. Rwyf wedi ymateb i'r cwestiynau a godwyd. Rwyf...

5. Rheoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru (Diwygio) 2021 ( 5 Hyd 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wrth i ni barhau gyda'r gwaith o baratoi'r tir ar gyfer cyflwyno'r system anghenion dysgu ychwanegol yn llawn, mae wedi dod i'n sylw bod yna groesgyfeiriad anghywir yn rheoliad 17(2) o Reoliadau Tribiwnlys Addysg Cymru 2021. Mae rheoliad 17(2) yn amlinellu'r amserlen y mae'n rhaid i unigolyn sydd am ddod â hawliad sy'n ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd o dan...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Tarfu ar Addysg (29 Med 2021)

Jeremy Miles: Rydym yn rhagweld y bydd pob plentyn yn y grŵp oedran hwnnw wedi cael cynnig y brechlyn ym mis Hydref drwy wahoddiadau i ganolfannau brechu torfol. Ar y pwynt a wnaeth yr Aelod am y cynnydd mewn achosion yn y garfan 10 i 19 oed, dylwn ddweud y bydd cynnal llawer iawn o brofion ar ddisgyblion asymptomatig yn yr ystod oedran honno o reidrwydd yn arwain at nodi mwy o achosion. Dyna'n amlwg y...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Tarfu ar Addysg (29 Med 2021)

Jeremy Miles: Ar gwestiwn olaf yr Aelod mewn perthynas â chymorth i ysgolion gwledig—yn wir, cymorth i bob ysgol—a’r angen i allu darparu ar gyfer dysgu o bell yn ôl y gofyn, yn amlwg, credaf ein bod mewn sefyllfa wahanol iawn bellach o gymharu â dechrau'r pandemig, yn rhannol oherwydd y buddsoddiad sylweddol tu hwnt a wnaed er mwyn sicrhau bod ysgolion yn gallu darparu tabledi a gliniaduron i...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Tarfu ar Addysg (29 Med 2021)

Jeremy Miles: Hoffwn i ddodi ar y record fy niolch i i'r sector addysg am y gwaith caled maen nhw wedi bod yn ei wneud i gadw'r ysgolion mor saff ag sydd yn bosib. Gwnes i ysgrifennu i brifathrawon ac i arweinwyr colegau ddoe yn cydnabod y gwaith maen nhw wedi bod yn ei wneud. Rwy'n cydnabod, fel gwnes i yn yr ateb blaenorol, fod y cyfnod diweddar yma wedi bod yn heriol iawn, gyda rhifau yn cynyddu. Mae...

3. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Tarfu ar Addysg (29 Med 2021)

Jeremy Miles: Rwy'n cydnabod bod hwn wedi bod yn ddechrau heriol i'r flwyddyn ysgol. Rŷm ni'n parhau i weithio'n agos gydag ysgolion, gyda llywodraeth leol, gydag undebau dysgu, a gydag arbenigwyr iechyd cyhoeddus, i fonitro'r sefyllfa a phenderfynu pa gamau sydd eu hangen i sicrhau ein nod gyffredin o sicrhau bod plant yn gallu bod yn yr ysgol yn dysgu.

10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Mae'n annerbyniol, Lywydd, fod llawer o deuluoedd nad yw cyllid cyhoeddus ar gael iddynt hefyd yn byw mewn tlodi eithafol. Byddai newid y meini prawf cymhwysedd ar gyfer prydau ysgol am ddim o dan yr amgylchiadau hyn yn galw am ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol. Fodd bynnag, rwy'n annog awdurdodau lleol yn gryf i arfer eu disgresiwn er mwyn caniatáu i blant y teuluoedd hyn elwa o ddarpariaeth...

10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Mae prydau ysgol am ddim yn parhau i fod yn elfen bwysig o'n hagenda ar gyfer trechu tlodi. Rŷn ni wedi gweld eu pwysigrwydd yn glir yn ystod y 15 mis heriol diwethaf. Yn anffodus, mae nifer y dysgwyr sy'n cael prydau ysgol am ddim wedi cynyddu drwy gydol y pandemig. Mae data dros dro diweddaraf y cyfrifiad ysgolion blynyddol ar lefel disgyblion 2021 yn dangos bod 108,203 o...

10. Dadl Plaid Cymru: Prydau ysgol am ddim (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Yn ffurfiol.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Consortia Addysg Rhanbarthol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, o ystyried maint yr heriau sy'n wynebu pawb yn y system addysg wrth inni adnewyddu a diwygio ar ôl y pandemig, credaf fod yn rhaid i waith rhanbarthol, cydweithredol a chydgysylltiedig fod yn nodwedd allweddol o'r ffordd rydym yn cefnogi ysgolion ledled Cymru. Credaf fod y math hwnnw o waith yn fwyaf effeithiol pan fydd yn wirfoddol ac yn cael ei ysgogi gan awdurdodau lleol a chanddynt...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Consortia Addysg Rhanbarthol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Mae'r consortia rhanbarthol yn chwarae rhan ganolog yn y gwaith o gefnogi ysgolion i wella a chyflwyno'r cwricwlwm newydd, gan gynnwys drwy ddysgu proffesiynol ac ymgysylltu uniongyrchol. Rwy'n cyfarfod â'r consortia yr wythnos hon i drafod y ffordd orau iddynt barhau i gefnogi ysgolion wrth inni adnewyddu a diwygio addysg yng Nghymru.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Mae'r cwricwlwm newydd i Gymru yn cynnwys iechyd a lles fel un o'r chwe maes dysgu a phrofiad. Mae hyn yn hollbwysig er mwyn galluogi dysgu llwyddiannus, ac mae datblygu iechyd corfforol wedi'i nodi yng nghod statudol 'yr hyn sy'n bwysig'.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Chwaraeon ac Addysg Gorfforol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae addysg gorfforol, wrth gwrs, yn un o'n pynciau sylfaen yn y cwricwlwm cyfredol, ond yn amlwg, rwy'n derbyn bod y pandemig wedi effeithio ar fynediad dysgwyr at agweddau ohono am gyfnodau amrywiol. Fel yr awgryma ei gwestiwn, bydd y cwricwlwm newydd yn cynnig mwy o hyblygrwydd o lawer, mewn gwirionedd, yn y maes dysgu a phrofiad y soniais amdano yn fy...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyrhaeddiad Addysgol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, nod y rhaglen lywodraethu ddiwygiedig gyfan yw cyflawni'r canlyniadau hynny. Felly, mewn lleoliad ysgol, mae'r diwygiadau rydym yn eu cyflwyno i'r cwricwlwm wedi'u llunio i alluogi ein pobl ifanc i fanteisio'n llawn ar y cyfleoedd y mae'r byd o'u cwmpas yn eu cyflwyno, yn economaidd ac yn ehangach na hynny. Gŵyr yr Aelod y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn y flwyddyn gyntaf i ddiwygio...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyrhaeddiad Addysgol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Fel y nodwyd gennym yn y rhaglen lywodraethu newydd, rydym wedi ymrwymo i ddileu anghydraddoldeb ar bob lefel o gymdeithas, sy'n cynnwys gweithredu polisïau mewn addysg a fydd yn rhoi'r cyfleoedd bywyd gorau i bawb. Rydym yn cydnabod bod angen camau gweithredu radical, meddwl yn arloesol a chydgysylltu a chydweithredu cryf er mwyn cyflawni hyn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyrsiau Amaethyddol ac Amgylcheddol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, credaf fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater pwysig iawn yma gan fod yr her y mae'n ei disgrifio'n bodoli yng nghyd-destun newid cyflym mewn sawl ffordd, boed hynny'n newid technolegol neu newid gwyddonol, boed yn effaith ar yr economi wledig yn sgil prinder gweithlu, efallai, cwestiynau cyllido o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd heb i arian gael ei ddarparu yn lle'r cyllid hwnnw fel...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyrsiau Amaethyddol ac Amgylcheddol (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Mae amrywiaeth o gyrsiau amaethyddol ac amgylcheddol ar gael ar draws rhwydwaith o golegau yng Nghymru. Mae angen dull cydweithredol ar draws y sector cyfan i sicrhau bod darpariaeth ar draws yr holl gyrsiau amaethyddol a chyrsiau cysylltiedig yn cefnogi'r gofynion newidiol ac economïau lleol, a bod y rhain yn mynd i'r afael â heriau arallgyfeirio'r sector.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Amser Ysgol a gaiff ei Golli (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Dyna'r union egwyddor sy'n sail i'r cynllun adnewyddu a diwygio a gyhoeddwyd gennym ychydig wythnosau'n ôl, ac rwy'n ategu'n llwyr yr hyn a ddywed Delyth Jewell. Nid ydym am i ddysgwyr deimlo mai fel colled y diffiniwn y flwyddyn ddiwethaf. Rydym am gydnabod yr heriau y mae dysgwyr wedi'u hwynebu, yn ogystal â gweithio gyda hwy a'u cefnogi yn y ffordd y maent yn symud ymlaen. Dyna'r...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Amser Ysgol a gaiff ei Golli (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu bod cwestiwn yr Aelod yn anhygoel o annheg yn y ffordd y mae'n ei orffen. Rydym wedi bod yn wynebu'r amgylchiadau mwyaf eithriadol yn ein system ysgolion, fel ym mhob rhan arall o Gymru a ledled y DU—yn rhyngwladol yn wir—ac rwyf am dalu teyrnged i'r gweithlu addysgu ac addysgol am y gwaith y maent wedi'i wneud i leihau'r aflonyddwch hwnnw, yn wyneb anawsterau mawr, a...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Amser Ysgol a gaiff ei Golli (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Ar y pwynt olaf hwnnw, dyddiadau HMS ac yn y blaen, yn amlwg, rydym yn disgwyl i ysgolion edrych yn ofalus ar pryd y trefnir y rheini a rhoi cymaint o rybudd â phosibl i rieni ynglŷn â hynny. Ar bwynt ehangach yr Aelod mewn perthynas â phrofiad y flwyddyn ddiwethaf, yn amlwg, mae ysgolion wedi addasu'n gyflym i allu rhoi cymorth i ddysgwyr gartref, ac i roi cymorth i'w rhieni a'u gofalwyr...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.