Carl Sargeant: Wel, nid wyf yn gyfarwydd â’r cyfarwyddyd hwnnw gan unrhyw Weinidog nac o fy adran o ran bod hwnnw’n dod i ben yn 2017. Yn sicr, cynnig o gyllid am un flwyddyn a gafwyd ar gyfer y cynllun, ond rydym yn ailystyried hynny wrth i ni symud ymlaen. Felly, efallai nad yw eich etholwr yn gywir ynglŷn â’r ffaith ei fod yn mynd i ddod i ben. Nid ydym wedi dweud hynny.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Dylai pob plentyn mewn gofal gael yr un cyfleoedd bywyd â phlant eraill. Mae hon yn flaenoriaeth allweddol i mi, a byddaf yn ailgynnull y grŵp strategol gwella canlyniadau ar gyfer plant i barhau ei waith a rhoi cyngor ar y ffordd orau i ni ddarparu dull cenedlaethol o weithredu mewn perthynas â phlant sy’n derbyn gofal.
Carl Sargeant: Dyna gwestiwn gwirioneddol bwysig—er mwyn gwneud yn siŵr fod gennym y capasiti i gefnogi rhieni sy’n dymuno cymryd y cymeriadau cariadus o ran y gwasanaethau mabwysiadu. Rwyf wedi gofyn i fy nhîm feddwl am raglen i gefnogi’r ddarpariaeth, ac unwaith eto, gan weithio gyda Gweinidogion eraill ar draws yr adran hon, i feddwl sut y gallwn sicrhau bod gennym y darpariaethau cywir yn y lle...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae £42,578,000 wedi’i ddyrannu ar gyfer y gwaith o gyflwyno’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf yn ystod 2016-17, sy’n cynnwys £3 miliwn wedi’i glustnodi ar gyfer cyllido’r ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer teuluoedd yr effeithiwyd arnynt gan anableddau.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Ers sefydlu’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol ym mis Tachwedd 2014, mae’r amser cyfartalog rhwng bod plentyn yn derbyn gofal ac yn cael ei leoli i’w fabwysiadu wedi parhau i ostwng. Mae ffigur perfformiad chwarter olaf 2015-16, sef 15.2 mis, yn is nag y mae wedi bod ers 2002. Mae gwelliannau sylweddol wedi’u gwneud o ran darparu deunyddiau taith...
Carl Sargeant: Rwy’n ymwybodol o bryderon yr Aelod. Mae fy swyddogion yn ystyried y materion sy’n codi o gymal 9 y Bil Plant a Gwaith Cymdeithasol, ac maent mewn cysylltiad â San Steffan i sicrhau bod y diwygiadau a wneir er lles gorau plant Cymru sy’n aros i gael eu mabwysiadu a’u darpar rieni mabwysiadol. Rydym wedi ymrwymo, fel y mae’r Aelod yn sôn, i fabwysiadu fel opsiwn pwysig ar gyfer...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn pwysig. Rwyf i fod i gyfarfod â’r NSPCC yn yr ychydig wythnosau nesaf, ac rwy’n siŵr y bydd hynny ar yr agenda. Byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod o’r gwasanaethau cymdeithasol, y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ar ein hamcan ar y cyd i fynd i’r afael â’r materion hyn yn benodol mewn perthynas â phlant. Soniais yn...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Lywydd, rwy’n deall eich bod hefyd wedi grwpio 10 a 15, ac wedi cytuno i’r rheini gael eu grwpio heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ddatblygu a chryfhau cyfeiriad strategol gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru ymhellach. Rydym am sicrhau bod gan deuluoedd sy’n mabwysiadu fynediad at...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Fy mlaenoriaethau ar gyfer cymunedau a phlant yw lles a ffyniant economaidd, a chyflawni’r canlyniadau hynny i unigolion ac i gymunedau.
Carl Sargeant: Am eiliad roeddwn yn meddwl fy mod wedi gweld dagrau crocodeil gan yr Aelod mewn perthynas â’i gwestiwn. Mae’n fy mhoeni bod y synnwyr o eironi a ddaw o’r meinciau hynny, o olchi eu dwylo o’r effaith a gaiff ei Lywodraeth yn y DU ar ein hetholwyr yma yng Nghymru—y rhai y mae’n honni ei fod yn eu cynrychioli yng Nghaerffili yw’r union rai sy’n aelodau, fel Hefin David—....
Carl Sargeant: Yn wir, ac fel yr Aelod, hoffwn gofnodi fy niolch i aelodau Ymddiriedolaeth Trussell, sy’n gweithio ledled y DU, ac yn enwedig yng Nghymru, am y gwaith da y maent yn ei wneud, ac effaith estynedig Ymddiriedolaeth Trussell, nad yw’n ymwneud â banciau bwyd yn unig, ond y pethau eraill y maent yn eu gwneud yn ogystal—y cyngor a’r cymorth ariannol. Caiff gwasanaethau eirioli Llywodraeth...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Yn fy mhortffolio, rydym yn cysoni rhaglenni allweddol i gynorthwyo’r rhai sy’n byw mewn cartrefi incwm isel ledled Cymru, gan gynnwys Caerffili. Mae Cymunedau yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a’r rhaglen Cefnogi Pobl yn gweithio tuag at y nodau cyffredin o greu Cymru fwy ffyniannus a chyfartal.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am grybwyll un o’n hymrwymiadau arloesol o ran gofal plant. Gallaf sicrhau’r Aelod nad yw’n debyg o gwbl i gynnig gofal plant y Ceidwadwyr; roedd yn un penodol iawn a gyflawnwyd gan Lafur Cymru. Rwy’n gweithio gyda fy nhîm a chyd-Aelodau yn y Cabinet ar y ffordd orau o gyflwyno’r rhaglen hon. Capasiti: mae’r Aelod yn iawn—mae capasiti yn fater sy’n ymwneud...
Carl Sargeant: Rwy’n credu bod yr Aelod yn gofyn cwestiwn rwy’n gyfarwydd ag ef o rannau eraill o’r gwasanaethau sydd wedi’u targedu. Rwy’n gwybod bod eich cyd-Aelod Mike Hedges yn arfer cyfeirio at hynny mewn perthynas â Cymunedau yn Gyntaf, unwaith eto, ynglŷn â ffiniau, ond mae yna bob amser rai sydd i mewn a rhai sydd allan. Mae Dechrau’n Deg yn rhaglen ardderchog, ond caiff ei thargedu...
Carl Sargeant:
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Gwm Cynon am ei chwestiwn. Gwyddom fod Dechrau’n Deg yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn Rhondda Cynon Taf. Eleni, rydym wedi ymrwymo dros £6.8 miliwn, gan alluogi’r awdurdod lleol i gynorthwyo tua 3,270 o blant a’u teuluoedd.
Carl Sargeant: Cwestiwn amserol iawn gan yr Aelod—cyfarfûm â therapyddion lleferydd ac iaith ddoe ac roeddent hwy’n tynnu fy sylw at yr union fater hwn. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn mapio’r mentrau polisi amrywiol ar draws addysg, iechyd a gwasanaethau cymdeithasol i lywio’r gwaith o ddatblygu dull cydlynol sy’n canolbwyntio ar ddarpariaeth addysgol o gymorth lleferydd, iaith a...
Carl Sargeant: Gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, sydd yng nghylch gwaith Rebecca Evans, efallai fod gennym strategaeth hyd yn oed yn well yma, ac rwy’n gwahodd yr Aelod i daro golwg ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y maent eisoes yn ei datblygu. Soniais yn gynharach am fy adran a sut rydym yn gosod y naratif ar gyfer dylanwadu ar newid a chydnerthedd cymunedol. Bydd un o’r...
Carl Sargeant: Diolch. Lywydd, rwy’n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i grwpio cwestiynau 5 a 7 heddiw. Mae trechu tlodi yn gyfrifoldeb i bob Ysgrifennydd y Cabinet a Gweinidog Cymru, gan alluogi ymagwedd wirioneddol drawslywodraethol sy’n canolbwyntio ar fynd i’r afael ag achosion sylfaenol tlodi. Bydd y blaenoriaethau yn fy mhortffolio yn rhoi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd ac yn...
Carl Sargeant: Diolch am gwestiwn yr Aelod. Byddwn yn gofyn i’r Aelod fyfyrio ar yr ystadegau sydd ganddi oherwydd cefais rywfaint o gyfarwyddyd yn ddiweddar ynglŷn â Stryd y Gwynt yn arbennig. Ceir prosiect yno mewn partneriaeth â’r comisiynydd heddlu a throseddu, Alun Michael, a’r bwrdd iechyd lleol a’r gwasanaeth ambiwlans yn ymwneud â sut y maent yn rheoli’r economi nos. Mae wedi cael...