Canlyniadau 821–840 o 2000 ar gyfer speaker:Andrew RT Davies

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Newidiadau i Ardrethi Busnes yng Nghymru ( 5 Rha 2018)

Andrew RT Davies: 6. Pa newidiadau i ardrethi busnes yng Nghymru y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu eu cyflwyno yn dilyn cyhoeddiad cyllidebol Llywodraeth y DU ynghylch ardrethi busnes yn Lloegr? OAQ53035

5., 6., 7., 8. & 9. Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Interim) (Cymru) 2018, Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Rhyngwladol a Llongau Morgludiant) (Cymru) 2018 a Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd Cyfrif Allyriadau Cymru Net) (Cymru) 2018 ( 4 Rha 2018)

Andrew RT Davies: Yn amlwg, bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau a gyflwynir gerbron y Cynulliad y prynhawn yma. Os edrychwch ar sylwadau David Attenborough ddoe yn y gynhadledd hinsawdd a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig yng Ngwlad Pwyl—. Ac mae'n fwy na thebyg yn briodol canolbwyntio efallai ar y cynadleddau hinsawdd sydd wedi digwydd o dro i dro. Yr wythnos nesaf bydd y Prif Weinidog yn...

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Rha 2018)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, neu eglurhad o leiaf? Y cyntaf yw llythyr gan y Prif Weinidog ynghylch asesiad o'r effaith amgylcheddol a addawyd ar gyfer llosgydd y Barri gan Weinidog yr Amgylchedd ym mis Chwefror eleni. Cefais y llythyr hwn gan y Prif Weinidog ar 21 Tachwedd, ac mae'n dweud yn y llythyr hwn y bydd y penderfyniad yn cael ei wneud erbyn diwedd mis Tachwedd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adfywio Canol Tref Pontypridd ( 4 Rha 2018)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, yng nghyllideb ddiweddar y Canghellor, rhoddodd £900 miliwn ar gael i liniaru ardrethi busnes yn Lloegr. Ym Mhontypridd a chanol trefi eraill ar draws fy rhanbarth etholiadol i, mae ardrethi busnes yn cael eu crybwyll dro ar ôl tro fel rhwystr i adfywio'r strydoedd mawr hynny ac i roi hyder i bobl fuddsoddi ynddynt. Bydd menter £900 miliwn y Canghellor yn gweld busnesau...

8. Dadl Plaid Cymru: Taliadau Uniongyrchol ar gyfer Ffermwyr (28 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl ac i gynnig y gwelliant yn enw Darren Millar yn ffurfiol. Un peth y gallem ei wneud wrth ddechrau'r ddadl hon yw diolch i'r miloedd lawer o ffermwyr ar hyd a lled Cymru am y gwaith aruthrol a wnânt yn gofalu am gefn gwlad, boed hynny ar y mynydd, ar yr iseldir, neu bopeth yn y canol. Oherwydd mae Cymru'n enwog am ei hamgylchedd...

7. Dadl Plaid Cymru: Penderfyniad Coridor yr M4 (28 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Yn amlwg, ceir—. Ac rwy'n ddiolchgar am y wybodaeth y mae arweinydd y tŷ wedi ei roi ar y cofnod hyd yn hyn, ond o ystyried y ras am yr arweinyddiaeth sy'n digwydd ar hyn o bryd yn y Blaid Lafur, a bod hwn wedi bod yn bwnc trafod, mae'r Prif Weinidog presennol wedi bod yn ofalus iawn i beidio â dangos tuedd, ac nid wyf yn credu bod unrhyw un o'r ymgeiswyr wedi dangos tuedd yn fwriadol,...

3. Cwestiynau Amserol: Cyfoeth Naturiol Cymru (28 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn amlwg, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr wedi colli hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru ar ôl cyfres o sgandalau, trychinebau ac adroddiadau sydd wedi dangos nad oes gan staff y sefydliad hyd yn oed fawr o hyder yn yr uwch-reolwyr. Mae hynny'n rhywbeth sy'n destun gofid mawr o ystyried y rôl bwysig iawn y mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Gwasanaethau Trên o Bontyclun i Gaerdydd (28 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Ymunaf â'r Aelod dros Bontypridd i dynnu sylw at orsaf Pont-y-clun fel man cyfyng go iawn, yn enwedig gyda'r datblygiadau sydd wedi bod yn mynd rhagddynt yn y blynyddoedd diwethaf—ond datblygiadau y gwyddom eu bod yn mynd i ddigwydd yn y dyfodol. Dros yr wythnos ddiwethaf, cefais fy mombardio'n llythrennol gan etholwyr yn yr ardal honno sydd wedi cael profiad arbennig o wael o'r gwasanaeth...

3. Cwestiynau Amserol: Cyfoeth Naturiol Cymru (28 Tach 2018)

Andrew RT Davies: 2. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn parhau i gael hyder yn Cyfoeth Naturiol Cymru fel y corff sy'n gyfrifol am oruchwylio'r amgylchedd yng Nghymru, yn sgil adroddiad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus? 238

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (27 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Arweinydd y tŷ, a gaf i edrych eto ar drafodaeth yr M4 sydd newydd gael ei chynnal yng nghwestiynau’r Prif Weinidog? Yn ystod cyfarfod y pwyllgor amgylchedd a chynaliadwyedd yr wythnos diwethaf, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth o’n blaen ni. Amlinellodd yn glir mai penderfyniad y Prif Weinidog a’r Prif Weinidog yn unig yw’r penderfyniad cynllunio. Nid...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ansawdd Aer (27 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Yn ôl ym mis Mawrth, arweinydd y tŷ, gofynnais i'r Prif Weinidog pa swyddogaeth arweinyddiaeth yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei chymryd i leihau marwolaethau cynamserol drwy ansawdd aer gwael. Rydym ni'n gwybod bod 2,000 o bobl y flwyddyn yn marw'n gynamserol bob blwyddyn drwy ansawdd aer gwael yma yng Nghymru. Mae hynny'n 6 y cant o'r holl farwolaethau yng Nghymru, neu bump bob dydd. Mae'r...

7. Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (21 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Rwy'n croesawu ymyrraeth Ysgrifennydd y Cabinet gyda'r cod newydd a ddaeth i rym y mis hwn, rwy'n credu fy mod yn gywir, er iddo gael ei osod gerbron y Cynulliad yn ôl yn yr haf ar gyfer ei ystyried. Hoffwn ystyried un mater yn fy ardal i, ac rwy'n sylweddoli na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu siarad yn uniongyrchol ynglŷn â chau ysgol Llancarfan, rhywbeth y mae wedi fy nghlywed yn...

7. Dadl ar Ddeiseb P-05-828 Rhagdybiaeth o Blaid Ysgolion Gwledig (21 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Rwy'n llongyfarch y Pwyllgor Deisebau ac yn arbennig y ffordd y cyflwynodd y Cadeirydd y ddadl ac amlinellu'r ystyriaethau a'r dadleuon a roddwyd gerbron y Pwyllgor Deisebau. Fel rhywun a oedd ar y Pwyllgor Deisebau gwreiddiol yn ôl yng Nghynulliad 2007 i 2011, mae gennyf gof da am ymarfer tebyg i hwn a wnaed yn y Cynulliad hwnnw, pan aethom i lawr i orllewin Cymru i edrych ar yr heriau sy'n...

3. Cwestiynau Amserol: Gwasanaethau Trên (21 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, fe'ch gwahoddaf unwaith eto i ymddiheuro, gan fy mod wedi sylwi nad ydych wedi ymddiheuro ar goedd eto. Ond a gaf fi rywfaint o eglurhad ynglŷn â'r datganiad a gyhoeddwyd gan Trafnidiaeth Cymru ddoe—datganiad a groesewir i roi trosolwg inni o'r sefyllfa? O'r 127 injan sydd ar gael iddynt, dywedant fod 36 oddi ar y cledrau, fel petai, yn y gweithdai, yn yr ail...

3. Cwestiynau Amserol: Maes Awyr Caerdydd (21 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Roedd y newyddion yn ofidus yr wythnos diwethaf, yn amlwg, fod Flybe wedi dewis gwerthu, oherwydd, mewn rhai marchnadoedd, maent yn gwmni hedfan llwyddiannus iawn ac yn profi twf gwirioneddol. Yn ystod blynyddoedd cynnar perchnogaeth y Llywodraeth, cafodd benthyciadau sylweddol eu gwneud i Faes Awyr Caerdydd, gyda'r pris prynu ar y benthyciadau yn fwy na £100 miliwn erbyn hyn, yn ôl yr hyn...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Lleoedd Ysgol Cyfrwng Cymraeg (21 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Weinidog, yn amlwg, mae'n newyddion da fod ysgolion newydd yn agor i ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg, nid yn unig yng Nghaerdydd, ond ledled Cymru gyfan. Ond un peth sy'n bwysig iawn yw'r gallu i gyflenwi athrawon o ansawdd i'r ysgolion hynny allu addysgu'r cwricwlwm. Gyda datganoli cyflogau ac amodau athrawon, pa ddadansoddiad y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud o'r nifer o gamau y gallai eu...

9. Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru? (20 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Rwy'n gweld hynna'n rhyfeddol, yr ymyriad gan yr Aelod dros Ynys Môn. Rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi ei wneud fel unigolyn, ond mae'n dangos yn glir ei fod wedi colli'r ddadl yn ei grŵp gwleidyddol, ac felly ni allaf weld sut, pan fo'r cyfeiriad yn y gwelliant yn eithaf clir at Wylfa Newydd yn benodol ac nid yn ehangach na hynny, na all ef fel unigolyn, ei gefnogi yn bendant, heb sôn...

9. Dadl: Sut rydym yn cyflawni system ynni carbon isel i Gymru? (20 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf gynnig y ddau welliant yn enw Darren Millar y prynhawn yma. O ran sylwadau cyffredinol y ddadl, mae'n dda o beth ein bod ni'n trafod y materion hyn. Un peth sydd gan Gymru ddigonedd ohono yw adnoddau naturiol a phe byddem ni'n eu defnyddio nhw'n gywir, gallen nhw helpu ôl troed ynni, nid yn unig yng Nghymru, ond yng ngweddill y Deyrnas...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (20 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Ar y pwynt olaf un yna, roeddwn i'n mynd i ofyn am ddatganiad; rwyf yn synnu braidd pa mor ddiystyriol y mae arweinydd y tŷ wedi bod ar hynny. Mae llawer o etholwyr, yn ystod yr wythnos diwethaf, yn sicr, wedi cysylltu â mi, ac mae hynny wedi ei weld yma heddiw gyda sylwadau arweinydd yr wrthblaid a sylwadau'r Aelod Plaid Cymru a thystiolaeth gadarn o drenau nad ydynt yn cyrraedd....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain (20 Tach 2018)

Andrew RT Davies: Diben ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi eich clywed chi'n dweud droeon, yw gwella'r ystâd ysgolion ledled Cymru. Yn fy rhanbarth etholiadol fy hun, mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig cau ysgol gefn gwlad fach sydd â chofrestr dda, sydd â dyfodol disglair o'i blaen—ysgol Llancarfan. Rwy'n sylweddoli na allwch chi drafod achos penodol, ond does bosib ei...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.