Mark Reckless: Nid wyf yn siŵr pa wlad y mae’r Cwnsler Cyffredinol yn credu bod gan yr UE gytundeb fel y Bartneriaeth Masnach a Buddsoddiad Trawsiwerydd â hi, sy’n llawer ehangach ei chwmpas nag unrhyw gytundeb masnach blaenorol. Ond onid yw’n wir fod hwyluso tollau yn dal i fodoli ar gyfer aelodau Sefydliad Masnach y Byd, hyd yn oed os nad oes ganddynt gytundeb masnach rydd â’i gilydd? Mae’r...
Mark Reckless: A wnaiff y Prif Weinidog ailystyried y cwricwlwm yn y dyfodol ar gyfer Cymru ac i ba raddau y bydd yn seiliedig ar newidiadau yr ydym ni eisoes wedi eu gweld yn yr Alban yng ngoleuni'r duedd am i lawr yng nghanlyniadau PISA yr Alban a’r dirywiad i’r gefnogaeth i'r SNP, sydd wedi bod yn goruchwylio’r cwricwlwm hwnnw?
Mark Reckless: A yw’n cytuno bod cyfran sylweddol o’r cymorthdaliadau i danwydd ffosil ar hyn o bryd mewn perthynas â datgomisiynu ym Môr y Gogledd ac mae’n debyg y byddai hynny’n rhywbeth y mae am ei weld yn lle bod y seilwaith olew yn cael ei adael yno?
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet dderbyn ymyriad?
Mark Reckless: Roeddech yn dweud bod hyn wedi cael ei gefnogi ers llawer iawn o flynyddoedd. Pan ofynnais i Brif Weinidog Cymru, dywedodd ei fod wedi cael ei gefnogi ers maniffesto Llafur yn 2016. Rwy’n credu cyn hynny, ei fod wedi awgrymu cadw’r tollau i dalu am y ffordd liniaru.
Mark Reckless: Nid yn unig y cefnogodd y grŵp Ceidwadol fy nghynnig ym mis Tachwedd 2016 i gael gwared ar y tollau ar ôl iddynt ddychwelyd i’r sector cyhoeddus, ond deddfodd Llywodraeth Geidwadol yn 1992, y credaf efallai fod yr Aelod blaenorol wedi bod yn Weinidog ynddi, i ddileu’r tollau ar ôl i’r pontydd gael eu dychwelyd i’r sector cyhoeddus. Rwy’n credu mai un peth rwy’n ei groesawu’n...
Mark Reckless: Yn 2010-11, gwariodd Llywodraeth y DU £177.3 biliwn ar nawdd cymdeithasol, gan gynnwys pensiynau. Yn 2016-17, roedd yn £212.6 biliwn. Faint y byddai Llywodraeth Cymru yn hoffi ei weld yn cael ei wario?
Mark Reckless: Yn dilyn diddymiad tollau afon Hafren, sydd i’w groesawu’n fawr, ac, rydym ni’n gobeithio, adeiladu ffordd liniaru i'r M4, a yw'r Prif Weinidog yn cytuno â mi bod pwysigrwydd y rheilffyrdd fel dewis arall i integreiddio â'r system ffyrdd ddim ond yn cynyddu? Ac a yw’n croesawu penderfyniad ei Ysgrifennydd y Cabinet y dylai'r cynnig Magwyr-Gwndy ar gyfer gorsaf drenau newydd gael ei...
Mark Reckless: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb, ac rwy’n llongyfarch y 92 o gynghorwyr a etholwyd yn ddiwrthwynebiad, gyda llawer ohonynt yn wynebau cyfarwydd mewn cymunedau clòs o bosibl. Dywedodd fod 12 y cant wedi’u hethol yn ddiwrthwynebiad yn 2012. Yr unig ffigurau sydd gennyf yw 8 y cant yn 2012 a 2008, felly nid wyf yn siŵr beth sy’n gyfrifol am yr anghysondeb hwnnw. Tybed, yng...
Mark Reckless: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am nifer y seddau lle na chynhelir etholiad yn etholiadau llywodraeth leol Cymru? OAQ(5)0126(FLG)
Mark Reckless: Prif Weinidog, pa un a yw'r cwestiwn yn £1 biliwn neu £1.5 biliwn o fenthyciadau ar gyfer Cymru, neu £500 biliwn o fenthyciadau ar gyfer y DU, mae’n ymddangos bod eich ateb yr un fath: 'Gadewch i ni fenthyg; mae'n rhad.' Mae'n ymddangos bod llai o ystyriaeth i sut y byddem ni’n ad-dalu'r arian neu beth fyddai'n digwydd pe byddai cyfraddau llog yn cynyddu. A ydych chi’n credu o...
Mark Reckless: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y swm priodol o fenthyca ar gyfer Llywodraeth Cymru yng nghyd-destun y DU? OAQ(5)0567(FM)
Mark Reckless: A gaf i ddweud, roedd fy araith gyfan bron yn ymroddedig i'r mandad negodi drafft, a gwelais ryw dri neu bedwar peth yr oeddwn yn meddwl eu bod yn gadarnhaol iawn, ac a allai wir ganiatáu negodi da er budd i'r ddwy ochr ac a oedd yn dangos parch at safbwynt yr UE?
Mark Reckless: Rwyf wrth fy modd o ddilyn David Melding. Rwy'n ymddiheuro iddo am fy anallu i gymryd rhan yn y ddadl ynglŷn ag undeb hypostatig yr eglwys ganoloesol. Efallai y gallwn drafod yn all-lein. A gaf i ddweud fy mod yn gobeithio y bydd y broses dwy flynedd o dynnu allan yn helpu i ddod â phobl at ei gilydd, o fewn ein Teyrnas Unedig ac o fewn y Cynulliad? Rwy’n credu bod y llythyr erthygl 50, a...
Mark Reckless: A gaf i barhau am ychydig bach? Mae’n siŵr gen i y bu llawer o gyswllt rhwng Llywodraeth y DU a'r Cyngor Ewropeaidd o ran gweld eu drafftiau ei gilydd a rhoi sylwadau, ac eisoes rhywfaint, os nad o drafod, o adborth gan y naill ochr i’r llall o leiaf. Nid yw'n ymddangos bod hynny wedi digwydd gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ac rwy’n rhannu rhywfaint o edifeirwch y Prif Weinidog am...
Mark Reckless: Yn olaf, fel Prif Weinidog Cymru, nid wyf eisiau gweld tariffau, ond ar y rhan fwyaf o ddadansoddiadau economaidd safonol, yn syml, mae’n anghywir dweud mai defnyddwyr sy’n gorfod talu’r cyfan o unrhyw dariff. Mae gennych gromlin galw a chyflenwad, ac wrth i’r pris godi, mae defnyddwyr yn prynu llai, fel bod cyflenwad ymylol yn cael ei wasgu allan, a gweddill y cyflenwad ar gael am...
Mark Reckless: Wnaiff y Prif Weinidog ildio?
Mark Reckless: Onid yw'n deall, fel mater syml o ddadansoddiad economaidd, sut y bydd y tariffau hynny’n berthnasol o ran y rhaniad rhwng defnyddwyr a chyflenwyr, ac y bydd faint sy’n cael ei drosglwyddo, yn dibynnu ar natur gystadleuol y farchnad?
Mark Reckless: Croesawaf y cynnydd hwnnw. O ran yr enw da sydd gan systemau iechyd y DU yn rhyngwladol mewn perthynas â darparu gwerth da am arian, rhoddir cryn bwyslais ar rôl meddygon teulu fel porthorion i rannau llawer mwy costus o’r system, yn enwedig mewn ysbytai. O ystyried y pwysau ar feddygon teulu, oni fyddai o fudd i’r Ysgrifennydd iechyd, o bosibl, gyda’r diffygion y mae’n eu hwynebu...
Mark Reckless: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi unrhyw sicrwydd o gynyddu’r gyfran o wariant cyllideb y GIG ar ofal sylfaenol yng Nghymru? OAQ(5)0143(HWS)