Canlyniadau 841–860 o 2000 ar gyfer speaker:Alun Davies

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Lywydd, bydd pob Aelod yn y Siambr yn ymwybodol o'r polisïau gwahaniaethol a ddilynir gan y Llywodraethau gwahanol yn y Deyrnas Unedig. Yn gynharach, trafodasom ganlyniadau ac effeithiau'r penderfyniadau polisi gwahaniaethol hynny, ac roeddwn yn teimlo bod yr ymchwil a gyhoeddwyd gan Brifysgol Caergrawnt, ar yr un diwrnod, yn eironig, ag y cyhoeddwyd y setliad llywodraeth leol drafft gennym...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraethu Da gan Awdurdodau Lleol ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Lywydd, ymddengys bod gan yr Aelod nifer fawr o broblemau gyda'i gyngor lleol. Hoffwn awgrymu ei fod yn trafod y materion hyn gyda'r awdurdod hwnnw. Nid mater i'r Gweinidog yma yng Nghaerdydd yw rhagweld penderfyniadau awdurdod lleol mewn unrhyw ran o'r wlad.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Awdurdodau Lleol yng Ngorllewin De Cymru ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Rydym yn parhau i ddiogelu cyllid llywodraeth leol rhag effeithiau cyni o fewn yr adnoddau sydd ar gael i'r Llywodraeth hon.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraethu Da gan Awdurdodau Lleol ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae awdurdodau lleol yn atebol yn ddemocrataidd am berfformiad eu gwasanaethau, gan gynnwys eu trefniadau llywodraethu. Cânt eu cefnogi drwy archwiliadau allanol, arolygu a chyrff rheoleiddio, sydd â rôl allweddol yn y gwaith o sicrhau ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae gwybodaeth lenyddol Dr Dai Lloyd yn fy rhyfeddu—mae'n fy rhoi i yn fy lle. A gaf fi ddweud hyn: bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid yn gwneud datganiad ar y gyllideb derfynol, ac ar y symiau canlyniadol o ganlyniad i gyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig? Bydd hynny'n digwydd maes o law.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Buaswn yn tybio bod yr Aelod gyferbyn yn portreadu Harry Secombe mewn ffordd na allwn i ond gobeithio ei wneud.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: O ran ble mae llywodraeth leol, yn amlwg, byddem yn awyddus—. Nid yw Llywodraeth Lafur Cymru yn Llywodraeth sy'n ceisio mynd ar drywydd polisi cyni; nid dyna y ceisiwn ei wneud. Rydym eisiau gallu ariannu llywodraeth leol a gwasanaethau cyhoeddus eraill yn briodol, er mwyn ein galluogi i ddarparu'r gwasanaethau o ansawdd uchel y mae pawb ohonom am eu gweld. Ond nid yw'n gredadwy i ddod i'r...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae'n ymddangos fy mod yn cael fy nghyhuddo o gysondeb, sy'n sicr yn gyhuddiad gwreiddiol i'w wneud. A gaf fi ddweud hyn: rwy'n deall mai rôl y llefarydd Ceidwadol yn y lle hwn yw gwneud yr achos gwaethaf posibl yn erbyn y polisïau y mae'r Llywodraeth hon yn mynd ar eu trywydd a chraffu arnom ar sail hynny? Ond mae dod yma ac awgrymu bod unrhyw arweinydd cyngor, o unrhyw liw, yn dod at...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae bron yr holl bobl rydych wedi'u disgrifio—ac ychydig iawn o bobl yng Nghymru sydd wedi adolygu'r fformiwla mor drylwyr â phrif weithredwr ymadawol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; credaf ei fod wedi eistedd drwy fwy o gyfarfodydd ar y fformiwla hon nag unrhyw Weinidog ar unrhyw adeg—. A gaf fi ddweud hyn: mae'r fformiwla'n agored i'w hadolygu flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae'r fformiwla yn eiddo, os mynnwch, i gyngor partneriaeth Cymru a chaiff ei diweddaru'n rheolaidd gan waith yr is-grŵp cyllid a'r is-grŵp dosbarthu, lle mae llywodraeth leol Cymru gyfan yn cael ei chynrychioli. Nid wyf yn meddwl bod y fformiwla'n sefydlog, os mynnwch; mae'n cael ei hadolygu'n gyson ac yn cael ei diwygio'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn ar ôl blwyddyn. Bydd yr Aelod yn...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Helpu Cyn-filwyr yn Islwyn ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Lywydd, gwneuthum ddatganiad ddoe, a oedd yn amlinellu llawer o'r materion hyn, ac rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi cymryd rhan yn y ddadl honno ddoe. Yn ogystal â'r hyn a drafodwyd gennym yn ystod y datganiad llafar hwnnw, fe ddywedaf ein bod wedi recriwtio aelodau ychwanegol o staff i weithio ac i gefnogi a chryfhau tîm Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi gwaith y lluoedd arfog. Bydd hyn yn ein...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Helpu Cyn-filwyr yn Islwyn ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Yn fy natganiad llafar ddoe amlinellais y cynnydd a wnaethom ar wella gwasanaethau a chymorth ar gyfer cyn-filwyr, sy'n cynnwys y rhai sy'n byw yn Islwyn.

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Gadewch imi ddweud hyn: mae'r pwynt y mae'r Aelod dros Ddwyrain Abertawe yn ei wneud yn un da, oherwydd, wrth gwrs, nid yr arian drwy'r grant cynnal refeniw yn unig y mae llywodraeth leol yn ei gael, mae hefyd yn cael arian o elfennau eraill o gyllideb Cymru. Mae eraill wedi sôn eisoes—credaf fod Siân Gwenllian o Blaid Cymru wedi siarad am y £15 miliwn sy'n mynd i addysg. Wrth gwrs mae...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae'r Aelod dros Aberconwy yn dweud ei bod hi'n siarad ar ran cyflogeion a gweithwyr llywodraeth leol. Nid wyf yn gwybod pa undeb llafur rydych chi'n aelod ohono. [Torri ar draws.] Rwy'n aelod o Unsain, yr undeb mwyaf yng Nghymru, a'r undeb mwyaf yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Gadewch imi ddweud wrthych, wrth siarad â chydweithwyr yn Unsain—[Torri ar draws.] Wrth siarad â chydweithwyr...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Lywydd, mae'r Aelod dros Orllewin Clwyd yn iawn yn dweud nad yw pobl yn dwp, ac fe fyddant yn gweld drwy ei weiddi a'i arthio. Byddant yn gweld realiti'r hyn y mae cyni wedi'i wneud, nid yn unig mewn llywodraeth leol, ond i rannau eraill o'r sector cyhoeddus hefyd. A gadewch imi ddweud hyn—gadewch imi ddweud hyn—mae'n sôn yn benodol am y setliad llywodraeth leol yng Nghymru. Pan wnaethom...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Mae'r arian, wrth gwrs, i gyd yn mynd at y gwasanaethau craidd hynny rydych chi wedi eu disgrifio. Nid wyf yn credu bod neb fan hyn eisiau dadlau ddylai arian ddim fynd at ysgolion nag at ofal cymdeithasol. Nid wyf yn credu bod pobl eisiau gweld hynny, a dyna'n union beth rydym ni'n ei wneud. Ond a gaf i ddod yn ôl at bwrpas eich cwestiwn, pan oeddech chi'n sôn amboutu bolisi'r Llywodraeth...

2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Setliad Llywodraeth Leol 2019-20 ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Diolch yn fawr, Llywydd. Rydw i wedi gwneud datganiad ar y setliad ar gyfer llywodraeth leol ar 9 Hydref. Mae'n fater i awdurdodau gwahanol wneud penderfyniadau ar sut maen nhw'n gwario'r gyllideb yma, ynghyd ag incwm eraill o grantiau, y dreth gyngor a ffynonellau eraill, yn ôl eu penderfyniadau a'u blaenoriaethau eu hunain.

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus ( 7 Tach 2018)

Alun Davies: Ar 9 Hydref, cyhoeddais y setliad llywodraeth leol dros dro, sy’n cynnwys manylion y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol yn 2019-20. Gyda’i gilydd, bydd awdurdodau yn y gogledd yn derbyn dros £900 miliwn o gyllid setliad a byddant yn elwa ar dros £800,000 o gyllid gwaelodol, a ariennir yn llawn gan Lywodraeth Cymru.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.