Mark Drakeford: Wel, Llywydd, yn dilyn y digwyddiad blynyddol lle cyhoeddir y cyfrifiad cyflog byw gwirioneddol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol, ysgrifennais at arweinwyr pob corff sector cyhoeddus yng Nghymru, yn eu hannog i ddod ymlaen fel cyflogwyr cyflog byw gwirioneddol. Nawr, y pwynt a wnes i yn fy llythyr oedd fy mod i'n barod i gydnabod bod gwahanol gyrff—gwahanol awdurdodau lleol, er...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, y tro diwethaf i mi gael trafodaeth gydag unrhyw Weinidog y DU am swyddi gwasanaeth sifil, i glywed y Gweinidog hwnnw yn clodfori bwriadau Llywodraeth y DU i wasgaru swyddi gwasanaeth sifil o gwmpas y wlad, ac i ddod â mwy o gyflogaeth i Gymru a lleoedd eraill y tu allan i Lundain oedd hynny. Am stori wahanol yw hon mewn gwirionedd. Mae 80 y cant o'r swyddi gwasanaeth sifil yng...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, record Llywodraeth Cymru o dalu'r cynllun taliadau sylfaenol, fel y mae arweinydd yr wrthblaid yn ei wybod, yw'r gorau yn y Deyrnas Unedig ac mae wedi bod y gorau ers blynyddoedd lawer, ac yn sicr yn llawer iawn gwell nag y mae dros ein ffin. Rydym ni'n parhau i gael trafodaethau bob wythnos gydag undebau'r ffermwyr yma yng Nghymru, a gyda buddiannau ffermio eraill. Bydd fy...
Mark Drakeford: Wel, i ailadrodd yr hyn a ddywedais i, Llywydd, oherwydd nid wyf i eisiau i'r hyn a ddywedais i'r tro diwethaf gael ei gamddeall na'i gamliwio, roedd y pwynt a oedd yn cael ei wneud i mi yn flaenorol yn ymwneud â phrinder bwyd yn cael ei gyflenwi drwy'r siopau i ddinasyddion Cymru, ac rydym ni'n parhau i gael sicrwydd gan Lywodraeth y DU nad yw hynny'n wir, ac nad oes unrhyw brinder...
Mark Drakeford: Wel, rwy'n credu bod arweinydd yr wrthblaid yn camddeall yr hyn yr oedd gan lywodraethwr Banc Lloegr i'w ddweud. Yr hyn yr oedd yn cyfeirio ato oedd y cynnydd i gost bwyd oherwydd digwyddiadau yn Wcráin ac, fel y dywedodd yn eglur iawn wrth y pwyllgor, oherwydd Brexit. Nawr, mae gwahaniaeth rhwng yr argyfwng a achoswyd gan gostau bwyd cynyddol a diffyg cyflenwad bwyd mewn archfarchnadoedd....
Mark Drakeford: Llywydd, diolch. Gwnaeth yr Aelod nifer o bwyntiau pwysig cyn iddo golli ei ffordd a throi at wleidyddiaeth isel, sef, wrth gwrs, y nodwedd sy'n nodweddiadol o'i blaid yn rhy aml o lawer. Pan oedd yn gwneud pwyntiau synhwyrol, cyfeiriodd at y pwysau sydd ar wasanaethau ym Mhowys, ac mae hynny yn gwbl wir. Cyfeiriodd at yr angen i ddychwelyd gwasanaethau i Bowys. Rwy'n tybio ei fod wedi...
Mark Drakeford: Wel, Llywydd—[Torri ar draws.]
Mark Drakeford: Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd ym Mrycheiniog a Maesyfed. Mae'r bwrdd yn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau cyfalaf sy'n arwain at ddatblygiadau o ran effeithlonrwydd gwasanaethau wrth iddo adfer gwasanaethau hanfodol ac allweddol ochr yn ochr â'r angen parhaus i ofalu am gleifion y mae COVID-19 yn effeithio arnyn nhw.
Mark Drakeford: Llywydd, a gaf i ddiolch i Buffy Williams am y pwyntiau yna? Ac mae hi'n iawn, wrth gwrs, bod angen i ni wneud yn siŵr bod aelwydydd yng Nghymru mor ymwybodol o'r cymorth â phosibl. Ac rydym ni'n gwneud hynny mewn nifer o ffyrdd, gan weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, gan wneud yn siŵr, drwy sefydliadau trydydd sector, fod gwybodaeth ar gael i bobl yn rhwydd, a phan...
Mark Drakeford: Diolch i Russell George am dynnu fy sylw at y mater yna. Bydd yn gwybod y cafodd y cynllun cymorth tanwydd y gaeaf ei lunio yn gyflym iawn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael cymaint o gymorth â phosibl i ddwylo aelwydydd yr oedd angen y cymorth hwnnw arnyn nhw yn ddirfawr. Rydym ni bellach yn edrych ar ffyrdd o gyflawni ein hymrwymiad i gael ail rownd o'r gronfa honno ar gyfer y gaeaf...
Mark Drakeford: Llywydd, mae ein rhaglen Cartrefi Clyd ar gyfer aelwydydd incwm is yn arbed £300 y flwyddyn ar gyfartaledd drwy wella effeithlonrwydd ynni. Mae aelwydydd cymwys wedi elwa hefyd ar y taliad cymorth tanwydd gaeaf o £200. Ac yn ogystal, mae taliad costau byw o £150 yn cael ei wneud i eiddo ym mandiau A i D y dreth gyngor.
Mark Drakeford: More than 30,000 lower income households in south-east Wales have benefited from home energy efficiency measures delivered through our Warm Homes programme since 2009. Our programme saves an average of £300 a year by improving energy efficiency.
Mark Drakeford: We have published and are consulting on a White Paper on bus reform. It sets out the legislative changes we believe we need to make to deliver the bus services that people need in communities across Wales.
Mark Drakeford: Fel y nodwyd yn y rhaglen lywodraethu, rydym wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cenhedlaeth newydd o ganolfannau iechyd a gofal cymdeithasol integredig trwy Gymru. Yn y canolfannau hyn bydd gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn cael eu lleoli ar y cyd â gwasanaethau eraill.
Mark Drakeford: The cost-of-living crisis is affecting people across Wales, including in the Rhondda. The surge in inflation combined with higher taxes will result in real living standards decreasing and put significant pressure on households. We are doing all we can, with the powers we have, to deliver support to the most vulnerable.
Mark Drakeford: Mae crynodeb Llywodraeth Cymru o adroddiadau tair blynedd cyntaf y byrddau iechyd o dan adran 25E o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yn rhoi dadansoddiad o'r modd y mae'r byrddau iechyd yn cynnal lefelau staff nyrsio. Cafodd hwn ei gyhoeddi ddiwethaf ym mis Rhagfyr 2021.
Mark Drakeford: Sport should be a place where everyone can be themselves, where everyone can take part and where everyone is treated with kindness, dignity and respect. The five UK sports councils worked together to develop guidance that was published in September 2021 to support the inclusion of transgender people in sport.
Mark Drakeford: Llywydd, wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod am bwysigrwydd awdioleg a'r effaith y mae'n ei chael ar fywydau pobl. Mae'n ffaith drist, yn ystod y pandemig, fod llawer o bobl oedrannus, yn arbennig—ac mae gwasanaethau awdioleg yn cael eu defnyddio'n helaeth gan ddinasyddion hŷn Cymru—mae llawer o'r bobl hynny, oherwydd eu bod yn gwarchod eu hunain yn ystod y pandemig,...
Mark Drakeford: Llywydd, mae'r cynllun adfer gofal arfaethedig, a gyhoeddwyd ar 26 Ebrill, yn ymrwymo i leihau amseroedd aros am therapi i 14 wythnos erbyn gwanwyn 2024. Mae'r rhestr aros ar gyfer gosod cymorth clyw i oedolion am y tro cyntaf wedi ei chynnwys yn yr ymrwymiad hwn, a bydd cynnydd yn erbyn yr uchelgais yn rhan o'r rhaglen adfer genedlaethol.
Mark Drakeford: Wel, Llywydd, dim ond oherwydd yr arian a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i gyngor dinas Abertawe, sef y corff cyhoeddus arweiniol o ran prosiect Blue Eden, i fynd yn ei flaen y mae'r prosiect hwn yn fyw. Pan dynnodd Llywodraeth y DU y plwg ar forlyn llanw bae Abertawe, er gwaethaf adolygiad Hendry, a sefydlwyd ganddi hi, gan ddweud wrthyn nhw ei fod yn fuddsoddiad di-edifeirwch,...