Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hateb? Yr anghydraddoldeb mwyaf, os nad y mwyaf, yw'r gwahaniaeth mewn disgwyliad oes rhwng ardaloedd mwyaf difreintiedig ac ardaloedd mwy llewyrchus Cymru, yn aml o fewn yr un ardal awdurdod lleol, ac yn wir, o fewn yr un etholaeth, fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet. Ers diwedd Cymunedau yn Gyntaf a'r gwaith a wnaeth ar leihau cyfraddau...
Mike Hedges: Diolch am eich ateb. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros wasanaethau cyhoeddus yn ystyried ad-drefnu llywodraeth leol, a chyfrifwyd y bydd cost lleihau o 22 i 10 prif gyngor rhwng £200 miliwn a £400 miliwn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ychwanegu'r swm hwnnw at gyllideb refeniw llywodraeth leol i dalu am y broses o ad-drefnu, neu a fyddai'n rhaid talu am ad-drefnu drwy gyfyngu ar wasanaethau?
Mike Hedges: 5. Pa ystyriaeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i rhoi i lywodraeth leol wrth bennu'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf? OAQ52342
Mike Hedges: 2. A wnaiff Arweinydd y Tŷ amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael ag anghydraddoldeb? OAQ52349
Mike Hedges: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ddarparu band eang cyflym iawn yn Nwyrain Abertawe? OAQ52343
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddiweddariad arall ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl sy'n gweithio i Virgin Media yn Abertawe? A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael caniatâd i siarad â staff a darparu manylion am gyflogwyr posibl eraill? A gaf i ofyn ail gwestiwn? Fel y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn gwybod yn iawn, o fyw yn yr un ardal, bu llwyddiant mawr wrth ddatblygu parciau ynni...
Mike Hedges: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn credu ei bod yn deg fod cost adeiladu'r morlyn llanw cyntaf yn y byd yn cael ei chymharu â darpariaeth ynni niwclear yn Hinkley Point, pan gafodd yr orsaf bŵer niwclear gyntaf yn Calder Hall ei hadeiladu ym 1956, a lle mae'r costau datgomisiynu a gwaredu wedi'u capio, ac os yw'r gwir gost yn uwch na'r cap, bydd y gost yn cael ei thalu gan y Llywodraeth, h.y....
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad y Llywodraeth heddiw yn fawr iawn. Mae'n syndod i mi bob amser cymaint o bobl—pobl ifanc yn arbennig—sydd yn y pen draw wedi symud i mewn i'r farchnad rhentu preifat a fyddai, yn naturiol, un genhedlaeth, neu dwy neu dair cenhedlaeth yn ôl, wedi symud tuag at brynu tŷ. Credaf nad yw hwnnw yn newid er gwell mewn cymdeithas o reidrwydd. Fel llawer o gydweithwyr...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae clymog yn broblem ddifrifol yn Abertawe, yn enwedig yn fy etholaeth i, ond rwy'n siŵr y gallai Julie James ddweud yn union yr un peth wrthych chi am Orllewin Abertawe hefyd. Er bod yr arbrawf gydag ysglyfaethwr naturiol a gwell triniaethau cemegol i'w croesawu, mae gennym ni ardaloedd o letem las lle mae clymog wedi dod yn broblem. A oes...
Mike Hedges: 7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau a achosir gan glymog Japan? OAQ52298
Mike Hedges: Yn hollol. Dyna beth roeddwn am ei ddweud: rydym angen gwasanaethau bysiau sy'n cysylltu ardaloedd preswyl, gwaith a hamdden, ac sy'n mynd ar yr adegau y mae pobl eisiau mynd i'r gwaith a mannau hamdden. I gloi, er mwyn tyfu ein heconomi yn ne-orllewin Cymru, mae angen i ni ddatblygu ac ehangu'r cyfleoedd economaidd yn ninas-ranbarth bae Abertawe ac mae angen i ni i gyd weithio gyda'n...
Mike Hedges: Gwnaf, yn sicr.
Mike Hedges: Yn gyntaf oll, a gaf fi groesawu'r ddadl a'r ffordd y mae David Melding wedi'i chyflwyno? Gobeithiaf y bydd yn rhan o gyfres y bydd y Ceidwadwyr yn ei chyflwyno mewn modd adeiladol, fel y mae David wedi'i wneud heddiw. Mae'n hollol wir fod angen i ni gydnabod pwysigrwydd ardaloedd trefol Cymru fel peiriannau twf economaidd, dysgu a gweithgarwch. Yn fwy penodol, y canolfannau trefol mawr sy'n...
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i chi am eich ateb? Mae'r rhan fwyaf o'r symud yn ninas-ranbarth bae Abertawe yn digwydd o fewn y rhanbarth, nid allan ohono. Credaf fod angen cwblhau'r llwybrau beicio, ailagor gorsafoedd trenau megis Glandŵr a chreu cyfnewidfeydd bysiau a threnau. Pa gynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar gynlluniau o'r fath i wella trafnidiaeth yn ninas-ranbarth bae Abertawe?
Mike Hedges: Diolch am eich ateb. Rwy’n awyddus i dynnu sylw at bwysigrwydd y brifysgol fel sbardun economaidd, o ran creu cyflogaeth sgil uchel gyda chyflogau uchel. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd dinasoedd fel sbardunwyr twf. Ar y cyd â'r brifysgol, rwy'n gofyn i Lywodraeth Cymru ystyried creu parc busnes a chanolfan entrepreneuriaeth a fydd yn darparu platfform sefydlu a deori i fyfyrwyr,...
Mike Hedges: 2. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am economi dinas ranbarth bae Abertawe? OAQ52269
Mike Hedges: 5. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am gynigion Llywodraeth Cymru i wella cysylltiadau trafnidiaeth yn ninas ranbarth bae Abertawe? OAQ52259
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad gan y Gweinidog. Mae angen defnyddio'r iaith yn y gwaith, yn gymdeithasol, a gyda theulu. Pan fyddaf yn ymweld â Chaernarfon, Cymraeg yw iaith naturiol pobl mewn siopau, tafarndai ac ar y stryd. Fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, cefais anhawster y llynedd i gael banc i dderbyn llythyr yn y Gymraeg. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen mwy o gymunedau arnom fel...
Mike Hedges: Yn gyntaf, a gaf i ofyn am ddiweddariad ar gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i helpu pobl sy'n gweithio i Virgin Media? Adroddwyd yn South Wales Evening Post bod amser wedi'i wrthod i weithwyr i fynychu profion gwaith ac i chyfweliadau am swyddi, er gwaethaf y ffaith bod eu swyddi o dan fygythiad difrifol. A yw tasglu Llywodraeth Cymru wedi cael mynediad at Virgin Media a chyfle i siarad...
Mike Hedges: Yn bendant.