Russell George: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet, ond o ran fy meirniadaeth flaenorol, credaf fod angen i'r cynllun gweithredu economaidd gynnwys targedau diriaethol y gellir eu cyflawni. Ond rwy'n deall yr hyn a ddywedwch o ran peidio â bod yn rhy rhagnodol o ran beth fyddai busnesau ei eisiau, ond nid yw hynny'n golygu nad yw hyn yn waith y gall y Llywodraeth ei wneud yma. Felly, hoffwn ofyn...
Russell George: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, o bosibl, bydd y don newydd sydd ar y ffordd o ran datblygiadau technolegol mewn cerbydau trydan yn darparu llu o gyfleoedd economaidd newydd i Gymru. Rydych wedi dweud o'r blaen na fydd cynllun gweithredu economaidd newydd Llywodraeth Cymru yn rhagnodol, ond a ydych yn cytuno â mi y byddai'n anghywir pe na bai'n rhagnodol mewn rhai sectorau er mwyn...
Russell George: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad? Dylwn hefyd diolch iddo am eich digwyddiadau briffio brynhawn ddoe a bore heddiw, a oedd yn hynod o ddefnyddiol, felly diolch ichi am hynny. Mae dyfarnu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd yn cynrychioli cyfle gwerth biliynau a biliynau o bunnoedd ac rwyf fi, fel chi, Ysgrifennydd y Cabinet, eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yng...
Russell George: Prif Weinidog, mae'n bosibl y bydd y don newydd o ddatblygiadau technolegol ym meysydd roboteg a deallusrwydd artiffisial yn cael effaith enfawr ar swyddi, ac mae hwn yn ddarn o waith yr ydym ni'n ei wneud ar hyn o bryd ym Mhwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Nawr, rwyf i'n sicr eisiau gweld economi Cymru yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a gyflwynir gan awtomatiaeth. Nawr, rwy'n...
Russell George: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am reoleiddio ffermio dofednod dwys yng Nghymru?
Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Ddoe, cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus adroddiad ar brosiect Cylchffordd Cymru—a oes cysylltiad yma, Ddirprwy Lywydd—a oedd yn canolbwyntio'n fwriadol ar ddau faes penodol iawn o waith craffu. Y cyntaf oedd dull rheoli Llywodraeth Cymru o sicrhau bod prosiect Cylchffordd Cymru yn sicrhau gwerth am arian, ac yn ail, proses Llywodraeth Cymru o...
Russell George: Diolch i chi am yr eglurhad hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. O dan y trefniadau newydd, rwy'n credu eich bod wedi cadarnhau na fydd unrhyw staff y GIG yn symud i'r sector preifat, ond os oes unrhyw newid o gwbl mewn perthynas â staff yn symud o unrhyw gorff GIG i drydydd parti arall, a allwch gadarnhau na fydd hawliau pensiwn staff yn cael eu heffeithio yn hynny o beth? Hefyd, mae yna rai...
Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, mae corff llywodraethu Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn cynnig peidio â chael ffrwd Saesneg o fis Medi ymlaen ar gyfer y disgyblion newydd a ddaw i'r dosbarth derbyn. Bydd pob plentyn yn y flwyddyn honno yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Rwyf wedi derbyn nifer fawr o bryderon gan rieni ynglŷn â hyn, a chafwyd cyfarfod cyhoeddus ym Machynlleth ar y...
Russell George: 3. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd i wella safonau addysgol yn Sir Drefaldwyn? OAQ52212
Russell George: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rôl Trafnidiaeth Cymru yn y fasnachfraint reilffyrdd newydd a gyhoeddwyd heddiw? 178
Russell George: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu mai fy mhryder gwirioneddol yw bod busnesau ar hyd a lled y wlad, os ydynt yn gwrando ar hyn, yn crafu eu pennau ac yn meddwl, 'Am beth mae hyn i gyd?', ac mae hynny'n rhan o'r broblem i mi. Roedd yn aros am rywbeth diriaethol yn eich datganiad y prynhawn yma, Ysgrifennydd y Cabinet. Pan oeddech chi hanner ffordd drwy'r datganiad ac wedi dechrau sôn am y...
Russell George: Wel, rydych yn dweud nad yw'r materion hyn wedi'u datganoli. Mae'r ddau fater penodol y gofynnais i chi amdanynt yn sicr wedi'u datganoli. Gofynnais i chi am gynnig rhyddhad ardrethi annomestig ar gyfer mastiau newydd, ac ni wnaethoch ateb. Gofynnais i chi hefyd am y newidiadau i'r gyfundrefn gynllunio. Rydych yn dweud nad yw hyn yn rhan o'ch portffolio, ond dylech fod yn ateb—rydych eisoes...
Russell George: Fe wnaethoch, ac fe ofynnais yn fy nghwestiwn pa fesurau pendant rydych wedi'u rhoi ar waith i wella signal ffonau symudol yng Nghymru. Ni chlywais unrhyw beth ynglŷn â pha fesurau gwirioneddol rydych wedi'u cyflawni. Buaswn yn awgrymu efallai y dylech gyfarfod â'r gweithredwyr gyda'i gilydd, oherwydd byddent yn gallu dweud wrthych beth yw'r rhwystrau. Maent yn dweud wrthyf beth yw'r...
Russell George: Diolch, Lywydd. Arweinydd y tŷ, 18 mis yn ôl, fe gyhoeddoch y bwriad i gyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ffonau symudol. A gaf fi ofyn, ers y dyddiad hwnnw, pa fesurau pendant rydych wedi'u gweithredu i wella signal ffonau symudol yng Nghymru? A phryd oedd y tro diwethaf i chi gyfarfod yn uniongyrchol â gweithredwyr ffonau symudol?
Russell George: Arweinydd y tŷ, diolch i chi am eich datganiad y prynhawn yma. Mae gennyf nifer o gwestiynau, a gobeithiaf y byddwch yn gallu eu hateb yn benodol. Os nad yw hynny'n bosibl, efallai y caf gyfle i'w gofyn eto yfory yn ystod y cwestiynau. Mae'n ymddangos eich bod yn awgrymu bod Openreach wedi bod yn fwy na llwyddiannus wrth gyflawni telerau'r cytundeb Cyflymu Cymru gwreiddiol, ond bum mis ar...
Russell George: Prif Weinidog, mae etholwr, Mr Robert Jones, wedi fy hysbysu yn ddiweddar nad yw'n gallu casglu ei bresgripsiwn o'r fferyllfa yn adeilad ei feddygfa deulu mwyach oherwydd rheolau dosbarthu meddyginiaeth sydd wedi newid o ganlyniad i gael eu cyflwyno yn dilyn Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2013, er gwaethaf y ffaith ei fod wedi ei gofrestru yn y...
Russell George: Defnyddiodd Mark Isherwood ei gyfraniad i dynnu sylw, i raddau helaeth, at dystiolaeth a gawsom gan Remploy mewn perthynas â phrentisiaid a phobl anabl. Mae hwn yn faes lle mae angen inni weld cynnydd gwirioneddol yn cael ei wneud; mae'r Gweinidog wedi cydnabod hynny ac wedi derbyn yr argymhelliad yn y cyswllt hwnnw yn ogystal. Crybwyllodd Joyce Watson, Rhianon Passmore a Siân Gwenllian...
Russell George: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Dawn Bowden, a gaf fi ddiolch i chi am eich cyfraniad ar y mater a godwyd gennych ynglŷn â chodi ymwybyddiaeth—ymwybyddiaeth gweithwyr? Credaf fod hynny'n berffaith gywir. Fe godoch chi rai materion nad oeddem wedi edrych arnynt yn ein hymchwiliad, ond credaf eu bod yn gwbl berthnasol i'r ddadl heddiw. Credaf yn sicr eich bod wedi rhoi sylw i rai meysydd yn...
Russell George: Diolch i chi, Suzy. Nid wyf yn meddwl ein bod wedi cael yr union dystiolaeth honno yn yr ymchwiliad, ond credaf fod yr hyn a ddywedoch yn cyd-fynd â meddwl y pwyllgor hefyd, ac mae'n debyg ei fod yn bwydo i mewn i argymhellion 6 a 7 yn dda iawn, ac roeddwn am fwrw ymlaen i ddweud bod y Llywodraeth wedi'u derbyn mewn egwyddor, mewn gwirionedd, wrth aros i'r ymgynghoriad sydd ar y...
Russell George: Gwnaf.