Canlyniadau 841–860 o 2000 ar gyfer speaker:Mark Isherwood

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ffermio Cynaliadwy a’n Tir ( 9 Gor 2019)

Mark Isherwood: Bellach, ystyrir mai'r gylfinir yw'r flaenoriaeth bwysicaf o ran gwarchod adar yn y DU, a bydd perthnasedd hyn i'ch datganiad yn dod yn amlwg. Mae'r adroddiad partneriaeth 'Sefyllfa adar yng Nghymru 2018' yn dangos bod nifer y gylfinirod a gollwyd wedi bod yn fwy difrifol nag yng ngweddill y DU, ac mae mwy na thri chwarter poblogaeth y gylfinir wedi diflannu yn ystod y 25 mlynedd diwethaf, ac...

8. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Colli Golwg ( 3 Gor 2019)

Mark Isherwood: Mae ffigurau Angela’n golygu bod disgwyl i nifer y bobl sydd â nam ar eu golwg yng Nghymru ddyblu i 222,000 erbyn 2050 ac mae nam ar y golwg a cholli golwg yn effeithio ar annibyniaeth a symudedd, yn cynnwys y perygl o gwympo, o gael anaf, iechyd meddwl, gwybyddiaeth, cyflogaeth, a chyrhaeddiad addysgol. Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru a byrddau iechyd lleol yn cael eu dwyn i...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 3 Gor 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi yn y Cynulliad diwethaf y byddai lleoliadau mewn colegau arbenigol ar gyfer myfyrwyr ag anawsterau dysgu ac anableddau dysgu fel arfer yn para dwy flynedd yn awr yn hytrach na thair, ymwelais â Choleg Derwen yn Gobowen ychydig dros y ffin, sy'n derbyn myfyrwyr o Gymru a Lloegr. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar y pryd drwy ddweud bod hyn yn hyblyg;...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Anghenion Dysgu Ychwanegol ( 3 Gor 2019)

Mark Isherwood: 10. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi plant gydag anghenion dysgu ychwanegol i mewn i addysg ôl-16? OAQ54153

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lleihau Tlodi Plant ( 2 Gor 2019)

Mark Isherwood: Rwy'n llwyr gefnogi galwad Lynne Neagle a gofynnaf i chi ailystyried hynny, o gofio bod Comisiynydd Plant Cymru wedi galw ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant yng Nghymru. [Torri ar draws.] A oes problem sain?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Lleihau Tlodi Plant ( 2 Gor 2019)

Mark Isherwood: Iawn. Pleidleisiais gyda Lynne Neagle yn y ddadl y cyfeiriodd hi ati. Rwy'n llwyr gefnogi ei galwad, a gofynnaf i chi ailystyried y pwynt penodol a gododd hi pan alwodd Comisiynydd Plant Cymru ar Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth am gynllun cyflawni newydd ar dlodi plant. Hyd yn oed cyn y cwymp ariannol, roedd gan Gymru'r lefelau tlodi plant uchaf yn y DU: 29 y cant yn 2007, 32 y cant yn...

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol (26 Meh 2019)

Mark Isherwood: Er bod yn rhaid cynnal yr ysgogiad i sicrhau mwy o amrywiaeth ddemocrataidd, cafwyd y Tŷ Cyffredin mwyaf amrywiol erioed yn etholiad cyffredinol y DU yn 2007, gyda chynnydd yn nifer y menywod, pobl LHDT, pobl ag anableddau a lleiafrifoedd ethnig a etholwyd, gan adlewyrchu'r cyfeiriad teithio a osodwyd eisoes yn Senedd Cymru. Fodd bynnag, fel y dywed ein hadroddiad, ni cheir cynrychiolaeth...

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Masnach Ryngwladol Cymru (26 Meh 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Yn ôl sylw yn y cyfryngau, gan fod Brwsel wedi arwyddo cytundebau masnach newydd ledled y byd, gall nwyddau o wledydd partner fynd i mewn i'r UE ar gyfraddau is neu ddi-dariff ac yna maent yn rhydd i fynd i Twrci, sydd, er nad ydynt yn rhan o'r UE, yn rhan o'r undeb tollau ar gyfer nwyddau. Nid yw cwmnïau Twrci yn elwa o doriadau tariff cyfatebol wrth allforio i'r gwledydd hynny gan...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Dioddefwyr Trais Domestig (26 Meh 2019)

Mark Isherwood: Diolch. Wel, fel y dywedodd Cymorth i Fenywod Cymru fis diwethaf, mae mynediad at gymorth arbenigol, lle a phan fydd goroeswyr camdriniaeth ei angen, yn hanfodol er mwyn galluogi menywod a merched i fod yn ddiogel ac i gyflawni eu potensial llawn. Ond er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu cyllid diogel a chynaliadwy ar gyfer gwasanaethau arbenigol, ac mae gennym ganllawiau...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Dioddefwyr Trais Domestig (26 Meh 2019)

Mark Isherwood: 8. Pa ystyriaeth a roddodd y Gweinidog i helpu dioddefwyr trais domestig wrth ddrafftio cyllideb derfynol 2019-20? OAQ54094

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Masnach Ryngwladol Cymru (26 Meh 2019)

Mark Isherwood: 1. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi masnach ryngwladol Cymru? OAQ54093

6. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Dysgu Hanes Cymru (19 Meh 2019)

Mark Isherwood: Wel, mae'r gorffennol yn hysbysu'r dyfodol. Mae llawer o'r mythau a'r chwedlau sydd wedi ffurfio treftadaeth a diwylliant Cymru yn cyfeirio’n ôl at orffennol cyffredin yr Hen Frythoniaid a oedd yn byw ledled Prydain, ac a elwid yn 'Wælisc', neu 'Welsh' neu 'estron' gan y goresgynwyr, ond a gyfeiriai at ei gilydd fel cydwladwyr, fel 'Cymry'. Weithiau, clywn am oes y Rhufeiniaid,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tlodi Plant (19 Meh 2019)

Mark Isherwood: Mae lefelau tlodi plant yng Nghymru wedi bod yn codi ers 2004. Roedd eisoes wedi cyrraedd y lefel uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd, pan oedd mwy nag un o bob pedwar plentyn yng Nghymru yn byw mewn tlodi, gyda 90,000 mewn tlodi difrifol. Y mis diwethaf, gwyddom fod y Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant wedi dweud mai Cymru oedd yr unig wlad yn y DU lle bu cynnydd mewn tlodi plant y llynedd, ac er i...

5. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Camau nesaf y Gweithgor ar Lywodraeth Leol (18 Meh 2019)

Mark Isherwood: Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Fel y dywedwch chi, sefydlwyd y gweithgor i lunio a chyflawni dyfodol llywodraeth leol yng Nghymru ar y cyd. Rwy'n hoff iawn o'r term 'llunio a chyflawni ar y cyd' oherwydd cyd-gynhyrchu yw hynny. Ymgynghorais â rhai o'm cydweithwyr ym maes llywodraeth leol i gael eu barn am hynny. Byddwch yn falch bod un ohonyn nhw wedi dod yn ôl ataf yn dweud bod y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (18 Meh 2019)

Mark Isherwood: A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog trafnidiaeth a'r economi am fetro gogledd Cymru. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fanylion yr hyn a alwyd yn brosiect metro gogledd-ddwyrain Cymru i ddechrau yn 2017 i wella trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd. Heddiw, mae'r papur newydd lleol, The Leader, wedi cyhoeddi sylwadau a wnaed gan arweinydd Llafur newydd...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Ffatri Rehau yn Amlwch (12 Meh 2019)

Mark Isherwood: Pan ofynnais i chi ddiwedd mis Ionawr, ar ôl cyhoeddiad cyntaf Rehau y gallent fod yn cau'r safle yn Amlwch, fe ateboch chi eich bod yn ystyried arallgyfeirio i gynhyrchion eraill o fewn y grŵp y gellid eu dargyfeirio dros dro neu'n barhaol i'r safle, neu drydydd partïon yn wir. Fe ddywedoch chi hefyd y byddai hyn yn galw am rywfaint o fuddsoddiad, sef yr hyn roedd Llywodraeth Cymru yn...

QNR: Cwestiynau i Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (12 Meh 2019)

Mark Isherwood: Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda chyd-aelodau yn y cabinet am y berthynas rhwng Cymru a'r UE yn y dyfodol?

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Mark Isherwood: Iawn. Dof i ben gyda chwestiwn gan Cymorth i Ferched Cymru. Maen nhw wedi gofyn: a all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gost yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol o'r ddarpariaeth ar gyfer trais domestig a rhywiol a phryd y bydd yr adolygiad a ariennir yn genedlaethol yn ymgysylltu â darparwyr yng Nghymru, ac yn gwneud sylwadau ynghylch pa un a ellid gwario'r arian a...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru (11 Meh 2019)

Mark Isherwood: Diolch, Dirprwy Weinidog. Fel y soniais pan wnaethoch chi fy rhoi ar ben ffordd yn gynharach, rwyf wedi bod allan y prynhawn yma i ail gyfarfod panel rhyngwladol NWAMI, a gynhaliwyd yn adeilad undeb myfyrwyr Prifysgol Caerdydd. Yn wreiddiol Cymdeithas Integreiddio Amlddiwylliannol Gogledd Cymru oedd NWAMI, ond bellach ei deitl yw'r Rhwydwaith dros Ymwybyddiaeth Fyd-eang o Integreiddio...

7. Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Trechu Tlodi ( 5 Meh 2019)

Mark Isherwood: A ydych yn cydnabod bod tlodi plant yng Nghymru wedi dechrau codi yn 2004, ei fod eisoes ar y lefelau uchaf yn y DU cyn y wasgfa gredyd a bod 90,000 o blant yng Nghymru, ddegawd yn ôl, mewn tlodi difrifol a bod dros un o bob pedwar yn byw mewn tlodi cymharol? Ni ddechreuodd hyn yn 2010.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.