Canlyniadau 841–860 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Amser Ysgol a gaiff ei Golli (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Mae amrywiaeth o fesurau ar waith i gefnogi dysgu a lleihau'r amser a gaiff ei golli. Rydym wedi ymrwymo dros £150 miliwn mewn buddsoddiadau ychwanegol i gefnogi dysgwyr ac addysgwyr. Ac ysgrifennais hefyd at yr ysgolion ddydd Gwener diwethaf yn amlinellu mesurau i geisio lleihau nifer y disgyblion sy'n hunanynysu.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Adnewyddu a Diwygio (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, diolch i Joel James am y cwestiwn hwnnw. Dim ond un o'r ymyriadau a wneir gan Lywodraeth Cymru drwy'r cynllun adnewyddu a diwygio i gyflawni'r amcan hwnnw yw Haf o Hwyl, a daw ochr yn ochr â'r cyllid ychwanegol sy'n cefnogi'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol rydym newydd fod yn sôn amdani, rhaglen sydd wedi'i hehangu'n sylweddol. Ac mae honno'n darparu, fel roeddwn yn dweud, tua 8,000...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Adnewyddu a Diwygio (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Rwy'n croesawu cefnogaeth Jenny Rathbone i'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol. Ledled Cymru, credaf fod gennym tua 140 o gynlluniau rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol yn cael eu cynnal yr haf hwn, gyda lle i oddeutu 8,000 eu mynychu, sy'n dyst i'r gwaith gwych y maent yn ei wneud yn fy marn i. O ran disgwyliadau yn y ffordd roedd Jenny Rathbone yn gofyn, credaf ein bod am weld pob ysgol yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Adnewyddu a Diwygio (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Rydym yn cefnogi pob plentyn a pherson ifanc i gymryd rhan yn yr Haf o Hwyl. Bydd pob awdurdod lleol yn darparu amrywiaeth o weithgareddau chwarae, chwaraeon a gweithgareddau diwylliannol i helpu i ailadeiladu eu sgiliau cymdeithasol ac emosiynol yn y Gymraeg a'r Saesneg.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, a gaf i jest talu teyrnged yn gyntaf i'r gweithlu sydd wedi bod ynghlwm wrth y gwaith o ddiffinio system ar gyfer eleni sy'n adlewyrchu'r gwaith mae'n dysgwyr ni wedi bod yn ei fuddsoddi a gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf, i sicrhau eu bod nhw'n cael cymwysterau y gallan nhw gael hyder ynddyn nhw ac sydd yn gyson ar draws y system? Mae'r gwaith wedi bod yn waith pwysig iawn, ac rwyf...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am godi'r pwnc pwysig hwnnw. Rwy'n bwriadu, yn y tymor nesaf, cyhoeddi strategaeth ynglŷn â'r hyn rydym ni'n ei wneud i sicrhau bod bywyd ysgol yn fwy cynhwysol ac yn fwy cynrychiadol—hynny yw, ein bod ni yn edrych, er enghraifft, ar recriwtio, a beth yn fwy gallwn ni ei wneud i sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu'r gwahaniaethau cymdeithasol, fel petai. Rydym ni...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, yng nghyd-destun y cwestiwn cyntaf o ran y targed y mae Siân Gwenllian yn sôn amdano—y targed y mae'r Aelod yn cyfeirio ato, dwi'n credu, yw plant blwyddyn 2 yn cael eu hasesu drwy'r Gymraeg fel iaith gyntaf, y targed o 24 y cant. Mae'r cyrhaeddiad wedi cyrraedd 22.8 y cant, sydd ychydig yn fyr o'r targed o 24 y cant. Er dŷn ni ddim wedi cyrraedd y targed hwnnw erbyn y flwyddyn hon,...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Fe gyfeiriaf Laura Anne Jones at y gwaith diweddar gan y Sefydliad Polisi Addysg, sy'n cymharu'r buddsoddiad ar draws gwledydd y DU yn yr ymateb i COVID yn benodol er mwyn cefnogi ein hysgolion a'n dysgwyr yn y gwaith y maent yn ei wneud. Ac rwy'n credu fy mod yn iawn i ddweud bod y dadansoddiad mwyaf cyfredol yn dangos bod lefel yr ymyrraeth yng Nghymru yn uwch nag unrhyw ran arall o'r DU, a...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Fel y credaf fod fy ateb i'w chwestiwn blaenorol wedi ceisio ei nodi, y system brofi, olrhain a diogelu a ddylai ymgymryd â'r gwaith o olrhain cysylltiadau dros yr haf. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau mewn lleoliad ysgol y bydd penaethiaid bob amser yn eu hwynebu, o ran y gwahanol bwysau sy'n cystadlu. A dyna'n union pam y rhoddais ganllawiau i benaethiaid gynllunio, o fis Medi ymlaen, ar...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn hwnnw. O ran newid, yr hyn rydym wedi'i wneud drwyddi draw, ar bob cam, yw sicrhau yn ein canllawiau i ysgolion—fel yn ein canllawiau i bob rhan arall o fywyd Cymru, os hoffech—fod ein canllawiau'n adlewyrchu ein dealltwriaeth orau ar hyn o bryd o natur gyfnewidiol y pandemig, ac mae wedi newid ar wahanol adegau drwy gydol y cyfnod. Ac er mwyn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Darpariaeth Addysg yng Ngogledd Cymru (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Jane Dodds am y cwestiwn pwysig hwnnw. Fel y dywedodd, cyhoeddodd fy rhagflaenydd y cynllun gweithredu cyntaf erioed ar gyfer addysg wledig yn 2018, gan ddwyn ynghyd yr holl ymyriadau a mentrau mewn perthynas ag ysgolion bach a gwledig o'r strategaeth 'Cenhadaeth ein Cenedl' a chreu un cynllun gweithredu cydlynol i ganolbwyntio'n benodol ar yr amgylchiadau y mae ysgolion gwledig yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Darpariaeth Addysg yng Ngogledd Cymru (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Sam Rowlands am y cwestiwn pwysig hwnnw. Rwy'n sicr yn cydnabod y rôl bwysig y mae dysgu yn yr awyr agored yn ei chwarae wrth ddarparu ystod eang o brofiadau i'n dysgwyr, a bydd hynny'n dod yn bwysicach fyth yng nghyd-destun y cwricwlwm newydd rydym yn ei gyflwyno. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod darparwyr addysg awyr agored—ac mae nifer o Aelodau wedi ysgrifennu ataf yn benodol mewn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Darpariaeth Addysg yng Ngogledd Cymru (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Yn 2021-22, bydd ysgolion yng ngogledd Cymru wedi cael cyfanswm o dros £12 miliwn drwy'r grant addysg awdurdodau lleol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, lleiafrifoedd ethnig a Sipsiwn, Roma a Theithwyr, addysg ddewisol yn y cartref, llesiant, recriwtio, adfer a chodi safonau a lleoliadau nas cynhelir.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, buaswn i ddim yn derbyn bod hyn yn digwydd mewn ffordd sydd jest yn ymatebol. Rwy'n credu bod yma broblem sydd yn amlwg i gymunedau lle mae'r Gymraeg yn brif iaith; mae hyn yn amlwg i lawer iawn ohonom ni. Mae'n sicr bod angen data; mae'n sicr bod angen edrych yn ofalus ar y diffiniadau rŷn ni'n eu defnyddio yn y maes yma. Mae'r rheini'n bwysig er mwyn ein bod ni'n cael y datrysiadau...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiwn pellach hwnnw. Dwi'n sicr yn derbyn ei fod yn argyfwng am y rhesymau mae e'n dweud. Mae'r ffigurau mae'n eu datgan yn peri pryder i lawer iawn ohonom ni, mi fuaswn i'n dweud. Y dasg i ni fel Llywodraeth yn gweithio gyda'r pleidiau eraill yw sicrhau ein bod ni'n cael datrysiadau sy'n effeithiol, yn gyflym, ac yn gyfreithiol, ac mae gyda ni raglen o waith...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Fel y mae fy nghyfaill a chydweithiwr y Gweinidog Newid Hinsawdd wedi amlinellu yn ei datganiad llafar ar 6 Orffennaf, bydd hi a minnau yn cyflwyno cynllun tai cymunedau Cymraeg i ymgynghori arno yn yr Hydref.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: I wrote to all schools last Friday confirming we will no longer be recommending contact groups or bubbles from the start of the next school year. The intention is to ensure we minimise the number of learners self-isolating unnecessarily.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Ddoe, lansiais raglen waith 'Cymraeg 2050' ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae’n amlinellu uchelgais ein Llywodraeth i wthio’r agenda yn ei blaen, gan ganolbwyntio ar greu siaradwyr newydd, cynyddu defnydd mewn cymunedau a gweithleoedd a diogelu cymunedau er mwyn gwneud yn siŵr y gall yr iaith ffynnu.

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: Schools and settings in Islwyn, as elsewhere in Wales, continue to make meaningful progress on curriculum reform. I announced last week a package of measures to support, simplify and create space for schools to take forward the Curriculum for Wales from 2022. 

QNR: Cwestiynau i Gweinidog y Gymraeg ac Addysg (14 Gor 2021)

Jeremy Miles: I have already committed to having discussions with all colleges regarding their vision for post-16 education in Wales. The FE sector has a huge contribution to make in realising our vision for post-compulsory education and training in line with the Tertiary Education and Research Bill.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.