Carl Sargeant: Wrth gwrs, mae’r Aelod yn iawn i nodi hyn. Mae ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru i ddarparu 500 swyddog cymorth cymunedol yr heddlu yn rhywbeth a oedd yn boblogaidd iawn ar garreg y drws pan aethom at yr etholwyr y tymor diwethaf. Gan barhau â’r 101 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Ngwent y mae’r Aelod yn cyfeirio atynt, rwy’n cytuno y bydd y cyllid hwnnw’n parhau i...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod dros Orllewin Casnewydd am ei chwestiwn. Yn fuan byddaf wedi cynnal trafodaethau â phob un o gomisiynwyr heddlu a throseddu Cymru er mwyn nodi cyfleoedd ar gyfer cydweithio. Rwy’n benderfynol o fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a byddaf yn gweithio gyda’r comisiynwyr er mwyn gwneud hyn.
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn. Mae’n rhywbeth y cefais fy rhybuddio yn ei gylch gan fy swyddogion pan ddeuthum yn Ysgrifennydd y Cabinet. Yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n gyfrifol am lwfans tai lleol, sy’n fater heb ei ddatganoli, fel y mae’r Aelod yn gwybod. Ond mae hyn, unwaith eto, yn adlewyrchiad o’r hyn a ddywedais yn gynharach; y ffaith amdani yw bod Llywodraeth y DU yn...
Carl Sargeant: Yr hyn sy’n fy mhoeni’n wirioneddol yw’r modd y mae’r DU yn diystyru pobl; y ffaith amdani yw eu bod yn newid polisïau’n hawdd iawn, sy’n cael effaith enfawr ar gymunedau ac unigolion, a byddwch i gyd wedi’i weld. Rwy’n disgwyl bod gan hyd yn oed yr Aelod waith achos sy’n ymwneud â thaliadau annibyniaeth bersonol—pobl nad ydynt yn gallu cael arian oherwydd y prosesau...
Carl Sargeant: Yn wir, ac mae’r Aelod yn iawn i godi’r mater. Deddfodd y Llywodraeth hon y llynedd ynglŷn â llesiant cenedlaethau’r dyfodol a sicrhau bod pobl ifanc wrth wraidd ein penderfyniadau wrth i ni symud ymlaen, gan gynllunio ar gyfer y tymor hir. Rwy’n meddwl mai’r hyn a fydd yn digwydd wrth i swm yr arian gael ei leihau—ac mae refferendwm yr UE yn berthnasol iawn i hyn—yw y bydd yn...
Carl Sargeant: Mae’r Aelod yn gofyn cwestiwn diddorol iawn ac mae’n un cymhleth iawn o ran y berthynas ar hyn o bryd rhwng Llywodraeth y DU a ninnau a’r hyn y gallwn ei liniaru. Credaf mai’r hyn y mae’r Prif Weinidog wedi’i ddweud yw ein bod yn fodlon cymryd rhai agweddau ar bwerau, ar yr amod ein bod yn cael cyllid teg i ymdrin â hynny. Credaf fod hwnnw’n ffactor pwysig sy’n rhaid i ni ei...
Carl Sargeant: Nid yw’r Aelod wedi ymddangos yng Nghymru nes yn ddiweddar, cyn yr etholiad, ac mae’n debyg nad yw’n gyfarwydd iawn â llawer o’r ardaloedd rydym i gyd yn eu cynrychioli yn y Siambr hon. Ond gadewch i mi dynnu sylw at un ardal yn Sir Fynwy, sydd yn ei ranbarth ef rwy’n credu, lle mae 305 o fentrau wedi’u cynorthwyo a 430 o fentrau wedi’u creu, gyda 865 o swyddi yn Nhrefynwy ei...
Carl Sargeant: Diolch i Steffan Lewis am ei gwestiwn. Nid wyf wedi clywed y term ‘nawdd cymdeithasol’ yn cael ei ddefnyddio ers cryn dipyn o amser, mewn gwirionedd, ond diolch iddo am ei gwestiwn. Drwy weithio gydag ystod eang o randdeiliaid, rydym yn parhau i drafod ac asesu effaith sylweddol diwygiadau lles Llywodraeth y DU yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, ar sawl achlysur, wedi cyflwyno sylwadau i...
Carl Sargeant: Nid yw sylwadau’r Aelod yn syndod o ystyried y blaid y mae’n rhan ohoni’n awr. Y ffaith yw bod gweithio gyda phlaid arall—gyda San Steffan—yn rhywbeth rydym yn ei wneud yn rheolaidd. Nid yw’n beth newydd i weinyddiaeth ddatganoledig wneud hynny, ond nid yw’n amhosibl i ni weithio gyda’n cyfeillion ar draws Ewrop chwaith, a dyna ddylai’r Aelod feddwl amdano’n ofalus yfory.
Carl Sargeant: Efallai y byddai’r Aelod yn dymuno gofyn y cwestiwn i’r Prif Weinidog, gan mai rhywbeth a ddywedodd ef oedd hynny nid rhywbeth a ddywedais i. Ond mae gennyf farn ar hyn; mae’r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ynglŷn â phwysigrwydd bod yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, ac i Gymru fod yn aelod o’r UE. Mae’r Aelod—rwy’n gwybod nad yw’n byw yng Nghymru yn draddodiadol, ac nad...
Carl Sargeant: Cyfeiriaf yr Aelod at y strategaeth trechu tlodi a’r strategaeth tlodi plant y byddwn yn eu hadnewyddu eleni.
Carl Sargeant: Wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr holl faterion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw, ond rwy’n credu mai’r pwynt rydych wedi colli golwg arno’n llwyr oedd y ffaith fod angen cyllid i weithredu llawer o’r rhaglenni hyn. Ac rydym yn wynebu heriau eithriadol yn y ffordd rydym yn rheoli ein cyllidebau oherwydd yr her y mae Llywodraeth y DU wedi ei gosod i ni. Rydym yn edrych gyda’n gilydd ar...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn, ond, edrychwch, ni allwch gadw eich dwylo yn lân ar hyn, Mark. Dywedais yn gynharach fod trechu tlodi yng Nghymru yn arbennig o anodd am nad oedd gennym yr holl ddulliau yn ein meddiant. Mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi torri £1.2 biliwn oddi ar gyllid Cymru, ac mae hynny’n effeithio ar wasanaethau cyhoeddus. Felly, er y byddwn yn ceisio ac yn parhau...
Carl Sargeant: Mae cynhwysiant ariannol a llythrennedd ariannol yn rhywbeth rydym yn ceisio’u cynnwys yn rhaglen y cwricwlwm. Byddaf yn gweithio gyda’r Gweinidog addysg i weld sut y gallwn hyrwyddo hynny yn ystod yr wythnosau nesaf. Efallai y byddai’r Aelod hefyd yn hoffi ysgrifennu at y Gweinidog addysg i ddweud sut y gallai ei helpu i roi sylw blaenllaw i hynny yn ein hysgolion a’n colegau ledled...
Carl Sargeant: Mae gennym lawer o raglenni gwrthdlodi a rhaglenni sgiliau ac rwy’n gweithio gyda’r Gweinidog sy’n gyfrifol am hynny. Un o’n hymrwymiadau yw creu 100,000 o brentisiaethau newydd, gan weithio gyda’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf a Cymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn cael ei roi mewn perygl mawr oherwydd y refferendwm yfory. Os byddwn yn gadael yr UE, beth fydd yn digwydd...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei chwestiwn a’i neges o ewyllys da, ac yn yr un modd i’r Aelod a fydd yn fy nghysgodi. Mae tlodi bellach yn gyfrifoldeb i bob un o Ysgrifenyddion y Cabinet a holl Weinidogion y Llywodraeth, ac mae gennym oll rôl ar y cyd. Mae gennyf faterion penodol sy’n ymwneud â thlodi gyda chymunedau, a byddaf yn gweithio gyda fy nhîm yn y Llywodraeth i ddatrys rhai o’r...
Carl Sargeant: Gadewch i ni fod yn glir iawn yma: nid yw hyn yn ymwneud â deddfwriaeth i droseddoli rhieni. Yr hyn rydym eisiau ei wneud yma yw rhoi cyfle i bobl gael profiadau rhianta cadarnhaol. Fel Llywodraeth, byddwn yn darparu pecyn o adnoddau a fydd yn annog rhieni i ddefnyddio Teuluoedd yn Gyntaf, Dechrau’n Deg, yr ymgyrch ‘Rhowch amser iddo’—mae nifer o rai eraill—y ceisiwn ddatblygu...
Carl Sargeant: Diolch i Julie Morgan, a fu’n ymgyrchu ers amser maith ar yr union fater hwn, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda hi hefyd. Os asesir cymhwysedd ar sail y gwelliannau a wneir i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 gan Fil Cymru fel y mae wedi’i ddrafftio ar hyn o bryd, nid yw’r ddadl fod darpariaeth ynglŷn â smacio plant y tu allan i gymhwysedd am ei fod yn diwygio’r gyfraith...
Carl Sargeant: Wrth gwrs, rwy’n credu ei bod yn bwysig iawn fod yr Aelod yn tynnu sylw at fater ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddaf yn dechrau trafodaethau gyda’r gwrthbleidiau er mwyn creu llwybr i allu cyflwyno Bil llwyddiannus. Mae’r un mor bwysig i’r grwpiau gwleidyddol ddod at ei gilydd mewn perthynas â hyn yn y ffordd orau y gallant, ond hefyd rhianta, a rhanddeiliaid yn defnyddio eu...
Carl Sargeant: Gallaf weld yn glir pam eich bod yn eistedd mor agos at eich cyd-Aelodau yn UKIP. Gadewch i mi ddweud wrth yr Aelod—gadewch i mi atgoffa’r Aelod am yr etholaeth y mae’n ei chynrychioli yn Ynys Môn. Gadewch i mi ei atgoffa y bydd £10 miliwn o arian yr UE ar gyfer y prosiect sgiliau a chyflogaeth a chyflogeion yn helpu 500 o fusnesau a 7,000 o bobl ar draws gogledd Cymru. A wyddai fod...