David Melding: Roeddwn i wrth fy modd yn gweld poblogrwydd yr Eisteddfod Genedlaethol, gyda llawer o bobl yn ymweld â'r digwyddiad am y tro cyntaf. Roedd cynnal y Lle Celf yn y Senedd yn ymddangos yn ddefnydd priodol iawn o'r adeilad, a buasai diddordeb gyda fi i glywed am y buddion ehangach a greodd e i'r Cynulliad.
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi eich cyfeirio at adroddiad a gyflwynwyd i gynhadledd flynyddol Coleg Brenhinol y Bydwragedd yr wythnos diwethaf? Er bod bydwragedd yn cael eu hyfforddi'n benodol i adnabod cam-drin domestig, yn aml iawn ni fyddent yn sylweddoli pan fyddent yn ddioddefwyr eu hunain. Un o argymhellion allweddol yr ymchwil oedd yr angen am bolisi penodol i gefnogi staff a allai...
David Melding: 1. Pa werthusiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod Genedlaethol 2018 ym Mae Caerdydd? OAQ52715
David Melding: Llywydd, a gaf innau hefyd roi ar gofnod fy nghydymdeimlad â'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw mewn unrhyw ffordd drwy'r hyn a ystyrir yn ganlyniadau andwyol y gellid, o bosib, fod wedi eu hatal? Yn amlwg, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn hollol iawn: bydd yn rhaid inni aros am archwiliad pellach o'r dystiolaeth. Credaf, pan fydd digwyddiad fel hyn yn digwydd ac yn gofyn am ymchwiliad—o...
David Melding: Dywedodd y comisiynydd hefyd 'Mae’r Llwybr Du yn wan o ran y meini prawf a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol'. Credaf fod hon yn adeg allweddol. Rwy'n gwbl niwtral o ran beth ddylai'r penderfyniad fod; rwy'n credu bod dadleuon ar y ddwy ochr. Ond mae'n amlwg yn mynd i fod yn adeg allweddol ar gyfer cymhwyso'r Ddeddf hon ar gyfer prosiectau a pholisïau hirdymor, ac...
David Melding: Ymgyrchais yn frwd dros aros yn yr UE, a byddaf yn ymuno â'r ymgyrch i'n cael yn ôl i mewn y diwrnod ar ôl i Brexit ddod yn realiti, oherwydd dyna pryd y mae ymateb democrataidd yn bosibl. Nid yw'r farn gyhoeddus wedi newid o gwbl yn yr amser ers y bleidlais, a chafodd yr holl ddadleuon hyn eu hailadrodd dro ar ôl tro. Mae pobl yn dal i lynu at y farn a oedd ganddynt yn y refferendwm.
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Saethu o'ch ochr eich hun. [Chwerthin.]
David Melding: Yr hyn nad wyf yn ei ddeall, pan fyddwch yn dweud nad ydych yn gwadu newid hinsawdd, yw ein bod yn gwybod bod dwywaith cymaint o garbon yn yr atmosffer yn awr nag a oedd cyn y lefelau cyn-ddiwydiannol, ac mae'n rhaid ichi fynd yn ôl lawer o filiynau o flynyddoedd cyn bod digon o weithgaredd folcanig, mae'n debyg, i fod wedi cyrraedd lefel debyg o garbon. Rydym yn gwybod hynny. Mae bron yr...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, croesawaf y fenter hon, ond mae wedi cymryd peth amser i ni gynllunio, adeiladu a chynnal ffyrdd o safon debyg i hyn, a hoffwn wybod pam fod ein hymagwedd yn weddol ddetholgar o hyd. Tybed a fydd y gwelliannau arfaethedig rhwng Dowlais Top a Hirwaun yn rhan o'r ateb hwn hefyd, gan fod ffyrdd yn ymyriad anferth yn yr amgylchedd naturiol, yn enwedig y rhai mwy bregus, ac...
David Melding: O sôn am Abaty Nedd, rwy'n amlwg yn falch o weld y cyfeiriad at Fforwm Addoldai Cymru. Cyfeiriasoch at hyn a'r dreftadaeth anhygoel sydd gennym ni gyda chapeli. Rwy'n credu bod rhywbeth fel un yr wythnos yn cael ei agor yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg—5,000 neu fwy o fannau addoli. Un o arwyddion mawr o gynnydd y ffydd Gristnogol efengylaidd, ac mae'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch...
David Melding: Rwy'n falch o wneud fy nghyfraniad cyntaf fel llefarydd treftadaeth a diwylliant newydd fy mhlaid, yn dilyn enghraifft wych y sawl sydd yn awr yn cadeirio ein trafodion; rwy'n credu bod hynny'n gyswllt rhagorol. A gaf i ddweud, Gweinidog, ers 12 mlynedd nodedig iawn, rydych chi wedi bod yn eistedd yn y gadair honno ac wedi hyrwyddo'r cysyniad o her adeiladol, a dyna'r math o berthynas rwy'n...
David Melding: Beth ddigwyddodd i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
David Melding: Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi wedi clywed cyhoeddiad Prif Weinidog y DU o £2 biliwn ar gyfer tai cymdeithasol yn Lloegr a phwysleisiodd ei balchder mewn tai cymdeithasol, ac rwy'n credu y dylem ni i gyd rannu'r balchder hwnnw. Mae wedi bod yn ganolog i'r rhaglenni adeiladu tai mawr drwy'r ganrif ddiwethaf. Yn anffodus, mae wedi arafu yn yr unfed ganrif ar hugain. Yn rhan o...
David Melding: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer tai cymdeithasol? OAQ52646
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gobeithio y gwnewch chi faddau imi am fy hyfdra yn dechrau gyda newyddion da, oherwydd mewn gwirionedd, mae yna rywfaint o newyddion da allan yno. Gwn ein bod wedi taro ar ein gilydd yn y ffreutur yn ystod toriad yr haf, sy'n profi bod Aelodau'r Cynulliad yn parhau i weithio drwy'r hyn y mae'r byd y tu allan yn parhau i'w alw'n gyfnod y gwyliau, ac fe eglurais...
David Melding: Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi clywed y pryderon go iawn a geir yn y Siambr hon, er bod rhai pethau cadarnhaol yno yn ogystal, ond fel y mae'r enwog Mark Isherwood newydd ddweud wrthych, nid yw eich ffordd ddisylwedd yn gwneud y tro, ac a dweud y gwir, mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei ategu'n gadarn iawn. Rwy'n credu o ddifrif fod craffu ar ôl deddfu yn agwedd hanfodol o'r hyn...
David Melding: Weinidog, fe fyddwch yn gwybod bod Gofal Arthritis wedi uno ag Ymchwil Arthritis y DU y llynedd, a deallaf y bydd yr elusen yng Nghymru yn cael ei galw yn Cymru yn Erbyn Arthritis o hyn ymlaen. Rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn cymeradwyo'r amcan hwnnw. Mewn perthynas â'r ddarpariaeth yn ne Cymru, rwy'n ymwybodol fod y ddarpariaeth rewmatoleg bediatrig wedi cael ei chynnwys yn y cynllun...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mewn perthynas â'r cynlluniau arfaethedig i symud/cau Ysgol Gynradd Llancarfan, y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod atynt yn awr, clywais fod mater mynediad at y rhaglen adeiladu ysgolion yn aml yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion gael eu hadeiladu ar safleoedd newydd ac i ysgolion gael eu cyfuno neu eu hehangu. Mae hon yn broblem wirioneddol i ysgolion mewn cymunedau...
David Melding: 5. Beth y mae Llywodraeth Cymru'n ei wneud i ddiogelu ysgolion gwledig? OAQ52599