Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith ar wasanaethau yng Nghymru yn sgil contractau tâl ar wahân i'r rhai yn Lloegr ar gyfer meddygon ymgynghorol?
Mark Reckless: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gwblhau ffordd liniaru dwyrain y bae?
Mark Reckless: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Diolch i Steffan Lewis am ei welliant. O leiaf yn y cyfieithiad Saesneg o'r hyn yr oedd yn ei ddweud, y cyfeiriad oedd at ddisgwyliad ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu'r adroddiad, disgwyliad arnynt i gyhoeddi'r adroddiad, ond yna gofyniad i ymateb, ond, o leiaf yn fersiwn Saesneg y gwelliant, rwy’n deall bod pob un ohonynt yn orfodol. Mae hynny ychydig yn fwy na...
Mark Reckless: A gaf fi ddweud, Llywydd, nid wyf am gynnig gwelliant 41?
Mark Reckless: Yn yr un modd, nid wyf yn ceisio cynnig 42.
Mark Reckless: Yn yr un modd, Llywydd, nid yw 40 yr holl ffordd hyd at 42 yn welliannau yr wyf am eu cynnig, o ystyried y penderfyniadau allweddol a’r egwyddorion sy'n cael eu cymryd.
Mark Reckless: Gan ei fod yn ddilynol at y gwelliant sydd newydd gael ei drechu, ni fyddaf yn cynnig 39.
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Mae Nick Ramsay yn honni, wrth gyfeirio at feirniadu ar ei welliannau, at gydgynllwynio rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Dydw i ddim yn hollol siŵr faint o ryngweithio sy’n mynd ymlaen ac a yw'n cael ei alw yn briodol yn gydgynllwynio, ond rwy'n credu ei fod yn rhoi trafferth i eraill yn y Cynulliad hwn sydd yn amlwg iawn ar yr wrthblaid ynghylch p’un a ydym yn...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd, ac rwy’n addo ildio’r llawr i eraill cyn bo hir fel y gwneuthum gyda’r prif welliannau ar y ddau grŵp cyntaf. Fe wnes i addasu fy nghyfres flaenorol o welliannau yng ngoleuni'r hyn a glywsom yn ystod y cam pwyllgor a nifer o welliannau eraill yr euthum ar eu trywydd bryd hynny nad ydw i’n mynd ar eu trywydd yma. Fodd bynnag, mae'r gwelliant hwn yn yr un ffurf ag a...
Mark Reckless: Byddaf yn cynnig yn ffurfiol.
Mark Reckless: Rwy'n credu y byddai gwelliant 37, Llywydd, yn ganlyniadol i welliant 35, felly, rwyf hefyd yn ceisio caniatâd i dynnu'n ôl neu beidio â phleidleisio ar 37, ond yn ceisio pleidlais ar 36.
Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rwy’n diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu sylwadau, ac yn cydnabod, gyda Nick Ramsay, ein bod yn ceisio gwneud uchelgais eithaf tebyg gydag ein gwelliannau 36 a 32. Nodaf gryfder ateb Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid o ran materion cymhwysedd o amgylch 35, ac nid oeddwn ond wedi ceisio cyflwyno gwelliant a allai fod yn ddadleuadwy. Rwy’n derbyn ei farn fod...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Treuliodd y Pwyllgor Cyllid gyfnod eithaf sylweddol o amser yn ystyried y mater o dir sydd wedi'i leoli yn rhannol yng Nghymru ac wedi’i leoli yn rhannol yn Lloegr. Yn gynharach yn y trafodion, roeddem yn deall bod tua 40 eiddo o'r fath o boptu'r ffin, ond wrth i’r trafodion fynd yn eu blaen, cafodd y nifer hwnnw ei ddiwygio i fyny ac i fyny, ac rydym yn awr yn deall...
Mark Reckless: Diolchaf i'r Prif Weinidog am ei ymateb. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa gyfreithiol, y sefyllfa a anfonwyd ataf i mewn gohebiaeth o leiaf, wedi newid. I ddechrau, y pwyslais oedd y gallai Llywodraeth y DU ei wneud gan mai hi oedd yr awdurdod codi tâl, ond mewn gwirionedd nid yw Llywodraeth y DU yn ceisio gorfodi ar ein hochr ni o’r ffordd, a byddai angen iddi orfodi, a cheir anawsterau...
Mark Reckless: Rwy’n cytuno â'r Prif Weinidog, a dymunaf yn dda iddo fe, Ken Skates a'i swyddogion wrth ddadlau’r safbwynt hwnnw. Ceir tair risg gyfreithiol ddifrifol iawn i Lywodraeth y DU, rwy’n credu, os bydd yn ceisio parhau i godi tollau heb ein cytundeb, a gallai unrhyw un o'r rheini fod yn angheuol i unrhyw gynllun sydd ganddi. Yn gyntaf, mae Deddf Pontydd Hafren 1992 yn dweud y dylai tollau...
Mark Reckless: Diolch, Llywydd. Gofynnodd arweinydd fy ngrŵp i mi gyfleu ei ymddiheuriadau, gan ei fod mewn angladd teuluol heddiw. A gaf i ganmol y Prif Weinidog ar ymateb ei Lywodraeth ar 13 Mawrth i bapur ymgynghori Llywodraeth y DU ar ddyfodol tollau Pont Hafren? Mae wedi ei ddadlau’n dda, ac yn adlewyrchu’n ffyddlon barn unfrydol y Cynulliad hwn ar fy nghynnig i gefnogi diddymu'r tollau ar bont...
Mark Reckless: Mae’r Gweinidog yn disgrifio hyn fel newid technegol, a dyna a ddywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid wrthyf hefyd mewn llythyr ar 15 Mawrth, ei fod yn addasiad technegol o fewn y portffolio. Felly, a all y Gweinidog egluro pam y dywedodd Kirsty Williams wrth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 17 Hydref y bydd y grant ffioedd dysgu ‘yn fwy na’r amcangyfrifon gwreiddiol o...
Mark Reckless: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y £21.1 miliwn a drosglwyddwyd o Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i Lywodraeth Cymru? OAQ(5)0109(EDU)
Mark Reckless: Diolch, Lywydd, ac rwy’n credu y dylwn ymddiheuro’n fawr dros yr Aelodau yr ydych, yn sicr yn fy achos i, yn oddefgar iawn wedi caniatáu iddynt gyfrannu at y ddadl hon; ymddiheuraf i Ysgrifennydd y Cabinet hefyd am beidio â dal o leiaf rhan gyntaf ei sylwadau. Y peth a nodais fwyaf yw bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi gwrando ac mae wedi meddwl ac mae wedi ystyried beirniadaeth ac...