Canlyniadau 861–880 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Ynni Adnewyddadwy (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Bydd y dyfodol hwnnw yn golygu cynhyrchu o leiaf ddigon o ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni ein hunain yn llawn, gan gadw cyfoeth a gwerth yma yng Nghymru ar yr un pryd. Bydd mwy o ynni adnewyddadwy, ynghyd â chamau i leihau'r galw am ynni, yn sicrhau mwy o gydnerthedd ynni ac yn cefnogi ein targedau sero-net.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diswyddo ac Ailgyflogi (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Nid yw diswyddo ac ailgyflogi yn cyd-fynd â gwerthoedd partneriaethau cymdeithasol Cymru. Mae defnyddio'r bygythiad o ddiswyddo i wanhau telerau ac amodau cyflogaeth yn achos o gam-drin grym cyflogwr. Rydym ni'n parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddeddfu i roi terfyn ar yr hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei alw yn arfer 'cwbl annerbyniol'.   

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adolygiad Cass (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Fe wnaeth Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru, sy'n gyfrifol am y gwasanaeth yng Nghymru, gyfarfod â Dr Cass ym mis Mawrth. O ganlyniad, mae gennym ni ymrwymiad y bydd y tîm adolygu yn gweithio gyda'r gwasanaeth a'r darparwyr yma yng Nghymru, fel y gallwn ni ddiffinio ymhellach y model gwasanaeth clinigol ar gyfer y dyfodol y bydd ei angen yng Nghymru ac unrhyw oblygiadau a nodwyd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adolygiad Cass (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, comisiynwyd adolygiad Cass gan GIG Lloegr ar gyfer GIG Lloegr. Mae'n un ffynhonnell o dystiolaeth, ymhlith eraill, y gellir ei defnyddio i ddatblygu gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc traws yng Nghymru.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Diswyddo ac Ailgyflogi (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Rwy'n sicr yn condemnio'r defnydd o ddiswyddo ac ailgyflogi. Roeddem ni'n cefnogi, fel Llywodraeth Cymru, Bil Aelodau preifat Barry Gardiner a fyddai wedi gwahardd yr arfer a'i gwneud yn amhosibl iddo ddigwydd. Yn anffodus, fe wnaeth Llywodraeth y DU orchymyn ei Haelodau Seneddol Ceidwadol i wrthwynebu'r Bil a gwneud yn siŵr ei fod yn cael ei roi o'r neilltu. Ble mae'r Bil cyflogaeth yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybr Arfordir Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Mae'n bwynt pwysig y mae'r Aelod yn ei wneud, Llywydd, a phan roedd y llwybr yn cael ei ddatblygu, roedd rhai rhannau bach heriol o'r llwybr lle bu'n rhaid meithrin y cysylltiadau hynny, ac weithiau daethpwyd i gytundebau. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, wrth gwrs, bod cynnal a chadw'r llwybr yn rhywbeth y mae'n rhaid mynd i'r afael ag ef yn gyson. Mae gwaith wardeiniaid a gwirfoddolwyr ar...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybr Arfordir Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: O diar. O diar. Rydych chi'n adnabod pas ysbyty pan ddaw eich ffordd chi yng Nghymru, onid ydych? [Chwerthin.] Wel, yn gyntaf oll, gadewch i mi ddweud, Llywydd, rwyf i wedi cael y fantais o weld copi ymlaen llaw o adroddiad y grŵp, felly gwn am rai o'r pethau y bydd yn eu hargymell: sut y gallwn ni adeiladu ar y llwybr, sut y gallwn ni ymestyn ei gyrhaeddiad drwy wneud yn siŵr bod llwybrau...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Llwybr Arfordir Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, yn 2012, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i greu llwybr pwrpasol ar hyd arfordir cyfan. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau a gweithgareddau blwyddyn o hyd bellach yn dathlu'r cyflawniad hwnnw. Diolch i'r Aelod am arwain yr adolygiad annibynnol o lwybr arfordir Cymru, ac edrychaf ymlaen at gyhoeddiad ei adroddiad yfory.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n falch iawn bod yr Ymddiriedolaeth Hepatitis C wedi ymestyn ei rhaglen i Gymru ac wedi penodi dau weithiwr i weithio yn y ffordd honno dan arweiniad cymheiriaid. Mae stigma yn sicr yn rhan o'r rhwystr i bobl ddod ymlaen i gael triniaeth ar gyfer hepatitis C, ac mae cyswllt person-i-berson gan rywun sydd wedi bod drwy'r broses ac sy'n gallu dangos ei llwyddiant yn ffordd y gallwn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n gyfarwydd ag adroddiad y pwyllgor, a gyhoeddwyd yn 2019 wrth gwrs, ac mae'r pandemig wedi torri ar draws ei argymhellion—gwn fod yr Aelod yn deall hyn. Mewn gwirionedd, rydym ni wedi cael rhywfaint o dystiolaeth genedlaethol bwysig iawn o ganlyniad i'r pandemig, oherwydd rydym ni wedi cael dros 1,000 o bobl a oedd yn ddigartref ar y stryd yn ôl yn 2019, pan ysgrifennwyd yr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, gallaf i weld y manteision o gael strategaeth genedlaethol, ond mae strategaeth genedlaethol a grŵp o bobl sy'n gweithio ar lefel genedlaethol gyda ni yn barod. Dwi ddim eisiau gweld cronfa genedlaethol. Os ydyn ni'n dechrau cael cronfa genedlaethol am hepatitis C, gallaf i weld lle bydd hynny'n mynd: bydd pob grŵp gyda phethau sy'n bwysig iddyn nhw—ac rydyn ni'n gwybod pam...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Hepatitis C (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, er bod adnoddau wedi gorfod cael eu cyfeirio i fannau eraill yn ystod y pandemig, roedd y camau a gymerwyd i daclo digartrefedd ar y stryd yn golygu bod nifer fawr o gleifion newydd yn gallu cael triniaeth effeithiol. Mae cynlluniau allweddol yn ailddechrau erbyn hyn mewn gwasanaethau feirysau a gludir yn y gwaed.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, bydd Bil yn dod o flaen y Senedd, a bydd cyfleoen i bob Aelod fan hyn i dreial tynnu ar y cyfleoen fydd yn y Bil i wneud mwy i greu Senedd sy'n adlewyrchu'r bobl sy'n byw yma yng Nghymru. Rŷn ni wedi llwyddo i wneud rhai pethau dros y blynyddoedd, yn enwedig yn y Blaid Llafur, ond mae mwy gyda ni i'w wneud—y pethau rŷn ni wedi cytuno arnynt heddiw—a rhoi hynny ar y gweill. Ond...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, nid wyf innau ychwaith yn synnu at wrthwynebiad y Ceidwadwyr Cymreig i ddatblygu democratiaeth ymhellach yma yng Nghymru. Yr holl ddadleuon a glywaf yn cael eu defnyddio yw'r union ddadleuon a ddefnyddiwyd ganddyn nhw wrth wrthwynebu datganoli yn y lle cyntaf. Mae hon yn blaid sydd heb newid o gwbl o ran y materion hyn. Nid oes angen i ni arllwys halen i unrhyw friwiau agored yma,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, rwy'n credu bod heddiw yn ddiwrnod arwyddocaol iawn yn natblygiad y sefydliad hwn. Fe wnes i ddod â fy nghopi o gomisiwn Richard gyda mi, a phan roeddwn i'n meddwl am ddod i lawr yma y prynhawn yma, cofiais yn eglur sefyll ochr yn ochr â'r Prif Weinidog ar y pryd, Rhodri Morgan, pan wnaeth alwad ffôn i'r Arglwydd Richard yn gofyn iddo gadeirio'r comisiwn hwnnw. A dyma ni, 20...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n hapus i edrych ar y mater y mae'r Aelod yn ei godi. Rydym ni'n cyhoeddi llawer iawn o ddata ar weithlu Cymru. Os oes bylchau ynddo y gellir eu llenwi yn synhwyrol, yna wrth gwrs rwy'n hapus i edrych ar y pwynt y mae'r Aelod wedi ei godi.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, nid oes llawer yr wyf i'n anghytuno ag ef yn yr hyn y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud, ac rwy'n sicr yn cytuno ag ef ynglŷn â phwysigrwydd fferyllwyr a'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Maen nhw'n chwarae rhan arbennig o arwyddocaol ar hyn o bryd pan fo prinder, am amryw o resymau, nifer o feddyginiaethau pwysig iawn y mae'n rhaid i fferyllwyr eu rheoli. Mae gwahanol ffyrdd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y pwyntiau pwysig yna. Mae'n iawn i ddweud bod yn rhaid i ni hyfforddi'r gweithlu meddygon teulu sydd ei angen arnom ni ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o feddygon teulu dan hyfforddiant yng Nghymru. Cawsom gyfnod nid mor bell â hynny yn ôl pan oeddem ni'n ei chael hi'n anodd llenwi nifer y lleoedd hyfforddi a oedd ar gael gennym ni. Nawr, mae...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Na, Llywydd, nid wyf i'n bwriadu newid y polisi hwnnw. Mae'n bolisi sy'n cael ei ddylanwadu yn uniongyrchol gan leisiau'r bobl ifanc eu hunain. Rwy'n argymell i'r Aelod adroddiad blynyddol y comisiynydd plant, lle disgrifiodd pobl ifanc yn y system ofal sut beth yw cael eu rhoi ar werth ar wefan fel y gall eu gofal gael ei ddarparu gan y cais rhataf. Nid yw hynny yn dderbyniol yma yng...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Jack Sargeant am y cwestiwn ychwanegol yna. Ac rwy'n credu ei fod yn dangos pwysigrwydd y pwyllgor y mae'n ei gadeirio a'r ffordd y gall y Pwyllgor Deisebau sicrhau bod tystiolaeth uniongyrchol pobl yng Nghymru yn dylanwadu ar y trafodaethau yr ydym ni'n eu cael fel Llywodraeth ac yn y Siambr hon. Rydym ni eisoes wedi ymrwymo i wneud yn siŵr bod llais pobl ifanc yn cael ei...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.