Canlyniadau 861–880 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei sylwadau ynglŷn â sut rŷn ni’n bwriadu delio â’r cwestiwn sydd wedi’i godi o ran y newid teipograffegol, ac am ei gefnogaeth e i'r hyn rŷn ni’n bwriadu ei wneud er mewn delio â’r camgymeriad hwnnw.

7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: O ran pwynt yr Aelod ynghylch cwmpas cynhwysiant o fewn y darpariaethau ADY, fel y mae'n ei ddweud, mae cyllid sylweddol wedi ei ymrwymo i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf ADY a chyflawni'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach. Ond mae'r pwyntiau a gododd yn y ddadl heddiw, yn enwedig ynghylch cynnwys neu eithrio diabetes, yn rhywbeth y byddaf yn ysgrifennu ato yn ei gylch os yw'n fodlon â...

7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Cynigiodd y Llywodraeth ymdrin â hyn yn wreiddiol drwy'r dull slip cywiro sydd ar gael o dan rai amgylchiadau. Fodd bynnag, yn lle hynny, rwyf i'n cynnig rhoi 'adran 13(1)' yn lle 'adran 13(7)' wrth wneud y rheoliadau, pe bai'r rhain yn cael eu cymeradwyo gan y Senedd heddiw. Rwy'n fodlon ei gwneud yn glir nad oes unrhyw newid sylweddol mewn grym i'r rheoliadau ac nad yw'n newid ystyr y...

7. Rheoliadau Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (Diwygiadau Canlyniadol) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn dynnu sylw Aelodau at y pwynt craffu technegol 1, a godwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad. Fel yr esboniwyd mewn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad, mae hyn yn gamgymeriad teipograffyddol, gan nad yw adran 13(7) yn bodoli yn Neddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Dylai'r cyfeiriad fod at adran 13(1) yn lle.

6. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Bydd y rheoliadau sydd ger eich bron heddiw, os cânt eu cymeradwyo, yn diwygio Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) 2015 i ddarparu ar gyfer yr eithriadau i'r gofyniad i fod â chynllun addysg personol, a fydd, yn ei dro, yn parhau â'r sefyllfa bresennol o ran yr amgylchiadau lle mae plentyn i gael ei drin fel plentyn sy'n derbyn gofal at ddibenion Deddf 2018. Gan...

6. Rheoliadau Cynllunio Gofal, Lleoli ac Adolygu Achosion (Cymru) (Diwygio) 2021 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r rheoliadau hyn ychydig yn fwy cymhleth na'r rhai fydd yn dilyn, felly gwnaf i gymryd munud i egluro eu diben a'u heffaith. Diwygiodd Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 adran 83 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, sy'n ymwneud â chynlluniau gofal a chymorth ar gyfer plant sy'n derbyn gofal. Roedd hyn er...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, diolch i Buffy Williams am ei chwestiwn, ac mae'r ffaith ei bod hi wedi dweud rhan ohono fe yn Gymraeg yn ffantastig, rwy'n credu, hefyd. O ran beth rŷn ni'n ei wneud i annog pobl i addysg Gymraeg, mae lot o'r gwaith mae'r Mudiad Meithrin yn ei wneud yn cael llawer iawn o effaith bositif ar y rhifau sy'n mynd i ysgolion Cymraeg. Felly, mae buddsoddi pellach yn y sector honno yn bwysig...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wel, wrth gwrs, rwy'n ateb yn sgil fy rôl fel Gweinidog addysg yn hytrach nag Aelod lleol yng Nghastell-nedd. Gallaf ddweud bod achos busnes llawn Castell-nedd Port Talbot dros gynnig yr ysgol yng nghwm Tawe wedi'i ohirio ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru, a bydd swyddogion yn cyfarfod â'r awdurdod yr wythnos nesaf i drafod eu hasesiad o'r effaith ar y Gymraeg yn fanylach cyn bwrw ymlaen...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Alun Davies, am y cwestiwn hwnnw, a diolch iddo fe hefyd am ei waith e yn y Senedd ddiwethaf ar yr agenda hon, sydd mor bwysig i'r gwaith rŷn ni'n cario ymlaen ar ddiwedd y tymor diwethaf ac ar ddechrau'r tymor hwn. Felly, diolch yn fawr iddo fe am ei waith arloesol yn y maes hwn. A dwi eisiau ategu beth mae e'n ei ddweud am bwysigrwydd defnydd yn ein cymunedau ni hefyd. Rwy'n...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Dwi eisiau adlewyrchu’r pwynt mae’r Aelod wedi’i ddweud am bwysigrwydd mynediad teg ymhob cwr o Gymru i ddisgyblion sydd eisiau addysg Gymraeg. Dyna’n sicr yw nod Llywodraeth Cymru. Dyna’n sicr yw’r galw oddi wrthym ni i lywodraeth leol dros y cyfnod nesaf o ran cynlluniau strategol uchelgeisiol i sicrhau ein bod ni’n symud yn gyflymach tuag at wireddu’r nod hwnnw. O ran y...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Hefin David am y cwestiwn hwnnw; mae'n gwestiwn pwysig. Mae disgyblion o aelwydydd sydd ddim yn siarad Cymraeg wedi cael sialensiau penodol yn ystod y cyfnod diwethaf a dwi eisiau talu teyrnged i waith y ganolfan ddysgu am ei harloesi dros y flwyddyn ddiwethaf yn ymestyn yr hyn y maen nhw wedi gallu ei wneud ar-lein a datblygu cynnig diddorol iawn i fwy a fwy o bobl mewn cyfnod anodd...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Siân Gwenllian am ei chroeso am y rhaglen waith. Mae yma newid gêr. Mae pob Senedd yn gyfle newydd i edrych o'r newydd ar yr hyn rŷn ni wedi'i gyflawni a, hefyd, ar yr hyn sydd o'n blaenau ni, ac yn gyfle i ni osod targedau newydd a blaenoriaethau newydd yn sgil ein profiad ni. Mae hynny'n beth da; mae'n beth anorfod. Felly, mae gennyn ni dargedau pellach yn y ddogfen hon o ran...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r llefarydd am ei gwestiynau. Rwy'n cytuno'n llwyr gyda fe dŷn ni ddim yn moyn i ddiwylliant ddatblygu sydd yn nhermau 'ni a nhw'. Mae'r iaith Gymraeg yn perthyn i bawb. Mae llawer iawn o bobl yng Nghymru yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg ac mae llawer mwy yn barod i ddysgu ychydig mwy o Gymraeg bob dydd ac i ddefnyddio hynny fesul dydd, cam wrth gam, a dyna sut y gwnawn ni...

4. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymraeg 2050 (13 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael y cyfle heddiw i roi diweddariad i’r Senedd ar y camau nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wireddu strategaeth Cymraeg 2050. Mae'r daith i gyrraedd 1 miliwn o siaradwyr a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg erbyn 2050 wedi cydio yn nychymyg pobl ar hyd a lled Cymru ers i’r Llywodraeth ddiwethaf wneud ei chyhoeddiad nôl yn 2017. Rwy'n...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm — Y Camau Nesaf ( 6 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran disgwyliadau clir, nawr rwy'n cytuno'n llwyr â hi fod angen hynny. Rwy'n bwriadu, cyn tymor yr hydref, ailgyflwyno'r ddogfen sydd yn dangos y llwybr i 2022, ac edrych ar y cyd ar y broses o symud tuag at y cwricwlwm ar un llaw, gyda'r broses o ddelio ag impact y pandemig ar y llall, a sicrhau bod y ddau beth yn dilyn llwybr cyson yn...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm — Y Camau Nesaf ( 6 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch i lefarydd y Ceidwadwyr am ei chwestiynau, ac rwy'n falch ei bod yn croesawu'r hyblygrwydd y mae fy natganiad i'n ei ddisgrifio, sydd, yn fy marn i, yn ymateb cymesur i'r amrywioldeb mewn rhannau o'r sector o ran bod yn barod. Mae'r penderfyniadau wedi'u gwneud, yn amlwg, ar ôl gwrando ar ymarferwyr am wythnosau lawer ers i mi ddod yn Weinidog addysg, a gwnes i synhwyro ymrwymiad clir...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm — Y Camau Nesaf ( 6 Gor 2021)

Jeremy Miles: Wrth inni fynd ati i ddiwygio, mae'n amlwg ein bod ni mewn sefyllfa wahanol i'r un a ddychmygwyd wrth gyhoeddi canllawiau'r Cwricwlwm i Gymru 18 mis yn ôl. Ar un llaw, rwy'n cydnabod bod yr amser paratoi ar gyfer y cwricwlwm wedi'i dreulio yn rheoli effaith y pandemig dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar y llaw arall, gyda ffocws cryfach byth ar les, a buddsoddiad sylweddol mewn addysgu a dysgu,...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Diwygio'r Cwricwlwm — Y Camau Nesaf ( 6 Gor 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ers imi ddod yn Weinidog y Gymraeg ac Addysg, rwyf wedi nodi ein blaenoriaeth i roi lles a chynnydd dysgwyr wrth galon popeth rydyn ni'n gwneud. Rwyf i wedi bod yn siarad gydag ymarferwyr mewn ysgolion, colegau a darparwyr addysg, ac rwyf wedi clywed yn uniongyrchol sut maen nhw wedi addasu i amgylchiadau cyfnewidiol yn y flwyddyn ddiwethaf, a beth arall y gallaf ei...

4. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Rheolau Diogelwch mewn Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion (30 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch am y cwestiwn. Gaf i sicrhau Siân Gwenllian fod arweiniad cenedlaethol clir yn y maes hwn? Bydd y fframwaith yn fframwaith cenedlaethol a fydd yn dangos ystod o ymyraethau sydd yn berthnasol i risg. Mae amgylchiadau lleol, wrth gwrs, yn berthnasol i hynny, fel byddwn i'n sicr y byddai hi'n cydnabod, a bydd cyngor ar gael ar lefel leol a hefyd ar lefel genedlaethol er mwyn sicrhau nad...

4. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Rheolau Diogelwch mewn Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion (30 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Laura Anne Jones am y cwestiwn pellach hwnnw. Nid wyf yn cydnabod y darlun dryslyd y mae'n ei ddisgrifio. Yn ein trafodaethau gyda'n partneriaid yn y sector addysg yn uniongyrchol, rydym wedi bod yn glir iawn y byddwn am gael trafodaethau gyda hwy mewn perthynas â datblygiadau wrth iddynt ddigwydd mewn ysgolion, a byddwn bob amser am gael y trafodaethau hynny ymlaen llaw. Fel y...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.