Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi ein bwriad i gyflwyno deddfwriaeth i ddileu’r amddiffyniad ‘cosb resymol’, a fydd yn cadarnhau ein hymrwymiad hirsefydlog i hawliau plant. Bydd trafodaethau’n cael eu cynnal â’r wrthblaid a bydd y ddeddfwriaeth arfaethedig yn amodol ar y broses ddeddfwriaethol, gan gynnwys ymgynghori â rhieni a rhanddeiliaid.
Carl Sargeant: Yn wir. Mae cymunedau ledled Cymru yn elwa o filiynau o gyllid yr UE—dros £500 miliwn y flwyddyn. Mae adfywiad llawer o drefi a chymunedau ar draws Cymru yn cael ei gefnogi—Pontypridd, Llanelli, Y Rhyl, i enwi rhai yn unig. Disgwylir y bydd campws arloesedd Abertawe a gefnogir gan yr UE yn creu £10 biliwn o effaith economaidd yn rhanbarth y de-orllewin yn ystod y 10 mlynedd nesaf. Bydd...
Carl Sargeant: Rwy’n credu y dylai pobl y DU a phobl Cymru fod yn glir iawn yfory—mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir iawn ein barn fod bod yn rhan o’r UE yn hanfodol ar gyfer ffyniant Cymru. Os yw’r DU yn pleidleisio dros adael, rydym yn asesu y bydd cymunedau Cymru yn waeth eu byd. Mae angen buddsoddiad busnes a gweithlu medrus i gymunedau allu ffynnu. Felly, gadewch i ni beidio â dibrisio...
Carl Sargeant: Diolch i’r Aelod am ei gwestiwn. Mae pobl a chymunedau ledled Cymru yn amlwg yn elwa o’r ffaith fod y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, drwy swyddi sy’n dibynnu ar fynediad rhydd i’r farchnad sengl a thrwy gyllid gwarantedig yr UE. Bydd y swyddi hynny a’r £500 miliwn y mae cymunedau yng Nghymru yn ei dderbyn bob blwyddyn gan yr UE mewn perygl pe bai’r DU yn gadael yr Undeb...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei sylwadau. Bydd pobl sy'n fy adnabod yn deall yn iawn bod rhai pethau sy'n fy nghyffroi am y cyfle hwn i wneud gwahaniaeth; dyma’r maes lle rwy'n wirioneddol angerddol am wneud gwahaniaeth, oherwydd dyma'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. I lawer o bobl sydd wedi dioddef yr ail o’r rhain yn drasig, mae'n un ffordd o ddianc rhag trais yn y cartref, ond mae'n drasiedi...
Carl Sargeant: Diolch i Mark Isherwood am ei gwestiwn. Ni allaf roi sylwadau am benderfyniadau’r cyn- Weinidog a'i dystiolaeth yng nghyfnod y pwyllgor. Yr hyn y gallaf ei wneud yn sicr yw rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau, sef yr hyn yr wyf yn gobeithio ei wneud heddiw, o ran sut yr ydym ni'n bwrw ymlaen â'r Bil a'r cysyniadau y tu ôl i hynny a'i weithredu, a chredaf fod hynny’n rhan bwysig...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Unwaith eto, Joyce Watson, diolch i chi am eich cyfraniad i'r rhaglen hon hefyd—mae eich gwaith chi wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol. Felly, drwy weithio gyda'n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth mawr yn hyn o beth, fel y mae llawer o bobl eraill yn y maes yn ei wneud hefyd. Mae'r Aelod yn codi rhai pwyntiau diddorol iawn. Rwy’n ymwybodol o'r ysgol yn...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Dylai hi fod yn ymwybodol mai hwn yw'r ail dro imi fod yn y portffolio hwn ac rwyf wedi gweithio gyda llawer o grwpiau i gynyddu'r cyfleoedd sydd gennym, gan weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau ein bod yn ymdrin â'r materion hyn. Croesawaf y cyfle i weithio gyda'r Aelod mewn ffordd fwy adeiladol yn y dyfodol hefyd. Rwy'n credu y byddai o gymorth fodd...
Carl Sargeant: Diolch, Lywydd. Mae'n fraint imi gael ymgymryd unwaith eto â’r agenda bwysig hon i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Rwy’n falch mai fi oedd y Gweinidog â chyfrifoldeb am ddatblygiad cynnar y Bil, a bu fy nghydweithwyr Lesley Griffiths a Leighton Andrews yn llwyddiannus wrth barhau â’r cyfrifoldeb hwnnw. Ym mis Mehefin 2014, cafodd Llywodraeth...
Carl Sargeant: A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? I fynd i’r afael ag un mater, roeddwn yn amhenodol ynglŷn â gwirfoddolwyr—sôn oeddwn i am sefyllfa gyffredinol gwirfoddoli ac, wrth gwrs, rwy’n cydnabod yr oriau di-rif, yr oriau nad ydynt wedi’u cofnodi, mewn gwirionedd, y mae grwpiau ffydd a sefydliadau eraill yn eu neilltuo ar gyfer gwirfoddoli. Yn wir, roeddwn yn aelod, flynyddoedd...
Carl Sargeant: Diolch yn fawr i chi. Diolch yn fawr iawn am eich cyfraniad, Huw. Mae eich Cymraeg yn rhagorol o’i gymharu â’m Cymraeg i, os caf i ddweud? Yn gyntaf oll, nid oes unrhyw beth yr ydych wedi'i ddweud y gallaf anghytuno ag ef. Rwy'n credu eich bod yn ymwneud â llawer o'r gweithgareddau cymunedol yn yr ardal yr ydych yn ei chynrychioli. Rwyf yn gyfarwydd â rhai o'r sefydliadau hynny ac...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei chyfraniad. Gwn ei bod yn cynrychioli Cwm Cynon yn dda iawn, ac yn cynrychioli’r nifer o bobl sy'n gwirfoddoli yn ei chymuned; rwyf hefyd yn 'diolch' iddynt hwythau. Roedd braidd yn drist, mewn gwirionedd mai un o'r busnesau a dyfodd gyflymaf y llynedd oedd banciau bwyd, a chredaf mai cyni cyllidol sy’n peri i hyn ddigwydd mewn gwirionedd. Ond mae 40,000 o bobl yn...
Carl Sargeant: Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Credaf fod y Prif Weinidog yn glir iawn, pan ddaeth yn Brif Weinidog yn y pumed tymor, ynglŷn â chael sgwrs wahanol iawn gyda phartïon gwleidyddol ac aelodau'r cyhoedd. Credaf fod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 mewn gwirionedd yn nodi mewn deddfwriaeth y telerau ac amodau y mae'n rhaid i ni gydymffurfio â nhw fel Llywodraeth,...
Carl Sargeant: Yn gyntaf oll, diolchaf i'r Aelod am ei chwestiynau a’i chyfraniad heddiw. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod o ran cefnogi gwirfoddolwyr ledled Cymru a'r DU. Yn arbennig, hoffwn dalu teyrnged i ddau o’m ffrindiau da, Leanne a Bernie Attridge, a oedd yn gosod y rhwydi yn y clwb pêl-droed lleol boed law neu hindda, a hebddynt ni fyddai'r gêm yn dechrau. Felly, diolch yn fawr iawn i bobl yn...
Carl Sargeant: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn i'n meddwl ei bod yn bwysig i gymryd eiliad ar ddechrau'r pumed tymor hwn i ddweud 'diolch' wrth yr holl bobl sy'n gwirfoddoli yma yng Nghymru. Mae llawer ohonyn nhw yn sicr. Mae traean o Gymry yn gwirfoddoli yng Nghymru mewn rhyw ffordd. Mae Wythnos y Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle i feddwl am y gwahaniaeth y mae gwirfoddolwyr wedi ei wneud i'n bywydau ac...
Carl Sargeant: Rwy'n awyddus i adnewyddu ein perthynas glós gyda'r trydydd sector a gwneud y mwyaf o'r potensial ar gyfer gwirfoddoli. Hoffwn weld hyd yn oed mwy o wirfoddolwyr. Pobl yn rhoi o'u hamser eu hunain er budd pobl eraill, gan wneud gwahaniaeth mawr i gymunedau a'r bobl sy'n byw ynddynt. Lywydd, mae'n ddiwrnod i glodfori a chydnabod y gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud trwy gydol y...
Carl Sargeant: Carwyn Jones.