David Melding: 8. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am argaeledd gwasanaethau i gefnogi plant ag arthritis yng Nghanol De Cymru? OAQ52597
David Melding: Sut y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu gwella'r oedi o ran trafod cwynion yn y GIG i sicrhau yr ymdrinnir ag achosion yn ystod cyfnod targed safonol y GIG o 30 diwrnod?
David Melding: Beth yw cynlluniau Llywodraeth Cymru i leddfu tagfeydd ar yr A470 ar draws Canol De Cymru?
David Melding: Rwy'n frwd fy nghefnogaeth i'r achos a gyflwynwyd gan John Griffiths. Rwy'n credu y dylid cael terfyn cyflymder diofyn o 20 mya. Mae'r dystiolaeth yn ddiymwad. Credaf fod galw cynyddol amdano ymhlith y boblogaeth. Cyhoeddwyd data arolwg heddiw ynglŷn â sut y mae'r cyhoedd yn galw'n llawer mwy pendant am yr hyn y maent yn ei ddisgwyl yn eu dinasoedd, ac maent eisiau llai o ddibyniaeth ar...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae gwaith ymchwil wedi dangos yn gyson fod y canlyniadau'n well i ddioddefwyr a'u plant pan fo'r asiantaethau'n mabwysiadu dull integredig, a gwyddom o ystadegau Llywodraeth yng Nghymru, Lloegr a'r Alban mai cam-drin domestig sydd i gyfrif am o leiaf un o bob 10 o bobl sydd angen cymorth digartrefedd gan yr awdurdod lleol. Mae rhai o'r elusennau yn y sector yn adrodd...
David Melding: Pa fesurau sydd ar waith i wella effeithlonrwydd gwariant cyhoeddus Llywodraeth Cymru?
David Melding: Prif Weinidog, mae hyn wedi cael ei archwilio, ei adolygu, yn ddiddiwedd ar draws Ewrop, ac mae gan lawer iawn o wledydd derfyn 20 mya, neu 30 cilometr yr awr yn eu mesurau erbyn hyn. A gaf i gymeradwyo cyngor Caerdydd am fwrw ymlaen â hyn? Ac rwy'n croesawu'r ymgyrchoedd lleol sydd bellach yn ein gwthio ni, fel yr un yn Sili. Dylai fod yn ddiofyn ac ni ddylai'r modurwr fod flaenaf o ran pwy...
David Melding: Pa bwerau sydd gan Lywodraeth Cymru i bennu terfyn cyflymder cyffredinol o 20 mya mewn ardaloedd trefol?
David Melding: Weinidog, yn ddiweddar, cyhoeddwyd strategaeth drefol gennym ni, y Ceidwadwyr Cymreig, y gobeithiwn y bydd yn creu dinasoedd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau, o leiaf, wedi darllen y papur.
David Melding: Rwyf wedi gosod prawf, peidiwch â phoeni. Mae hyn yn cynnwys rhai elfennau o'r polisi tai a byddwn yn cynhyrchu dogfen arall yn benodol ar dai yn yr hydref. Ond un maes rydym wedi edrych arno yn y strategaeth yw toeon gwyrdd. Mae yna ddatblygiadau tai bellach ledled Lloegr—ac mae un enghraifft yn Barking yn Llundain—lle mae datblygwyr yn ymchwilio i'r defnydd o doeau gwyrdd ar dai...
David Melding: Diolch i chi am hynny, sydd, yn rhannol, yn galonogol. Fel y gwyddoch, mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig wedi bod yn edrych ar holl fater effeithlonrwydd ynni mewn tai. Mae ein tystiolaeth wedi awgrymu bod nifer sylweddol o rwystrau i gyflawni newid trawsnewidiol yn y gwaith o adeiladu tai yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r Ffederasiwn Adeiladu Cartrefi wedi mynegi...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. Yn dilyn y ddadl ddoe ar dai fforddiadwy yng Nghymru, hoffwn gyffwrdd ar rai pryderon ehangach pwysig na chawsant eu codi yn y ddadl. Mae fy mhryderon yn ymwneud yn arbennig â sicrhau bod y cyflenwad cynyddol o dai sydd eu hangen arnom yn addas ar gyfer y dyfodol a sut y gallwn adeiladu digon o gartrefi i ddiwallu anghenion a gofynion cenedlaethau'r dyfodol, yn...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb cryno iawn. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru i gyfuno nifer o ffrydiau a ariennir gan grantiau i greu un grant—y grant ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi—yn diddymu'r diogelwch a glustnodir ar gyfer nifer o ffrydiau fel Cefnogi Pobl, grant refeniw Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Nawr, yn fy rhanbarth i, gallai hyn gael effaith andwyol ar...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi groesawu'r rhan honno o'r ymgynghoriad sy'n cynnig ailstrwythuro'r system dosbarth defnydd i ddarparu mwy o amddiffyniadau i dafarndai mewn ffordd debyg i'r hyn a wneir yn Lloegr? Rydym wedi colli oddeutu 17 y cant o'n tafarndai ers y flwyddyn 2000. Yn Lloegr, ceir amddiffyniadau pellach yn y system gynllunio lle rhoddir saib ar y broses o gael gwared ar...
David Melding: 1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y grantiau a ddarperir gan lywodraeth leol i gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ52498
David Melding: Os gallan nhw adeiladu ar y model Holmans a'i wneud yn gyfredol, mae hynny'n iawn, ond fe'i cyhoeddwyd dair blynedd yn unig yn ôl. Rwy'n credu y gallwn ni orliwio pa mor gyfredol yr ydyw, yn eich barn chi.
David Melding: Wel, mae'n troi arnaf fi a minnau'n gyfalafwr.
David Melding: Ie, ffigurau ar gyfer Cymru ydyn nhw, oherwydd Cynulliad Cymru ydym ni, diolch ichi. Mae’r cwestiwn, am wn i, oherwydd y raddfa y mae'r rhain yn ei dangos, yn un da i’w ofyn, oherwydd y niferoedd yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwethaf—dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol, mae’n rhaid cydnabod. Ond mae'n dangos yn union faint mae angen inni gynyddu...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. 15,841; 20,158; 17,236. Nid rhifau haniaethol yw’r rhain. Gadewch imi egluro. Yn 1954, nifer y tai a gwblhawyd, neu’r anheddau a gwblhawyd, gan yr holl asiantaethau oedd 15,841: roedd 13,197 o'r rheini yn y sector cyhoeddus, y nifer mwyaf o dai a adeiladwyd erioed gan y sector cyhoeddus. 1954 oedd hynny. Yn 1967—ac...
David Melding: Prif Weinidog, mae mynediad at fannau gwyrdd yn bwysig iawn yn yr oes sydd ohoni. Mae 96 y cant o drigolion Copenhagen yn byw o fewn taith gerdded 15 munud o ardal werdd neu las sylweddol, ac mae gwaith ar y gweill yn wir i wella'r cyfraddau mynediad hynny hyd yn oed. Mae gan y ddinas wirfoddolwyr bioamrywiaeth sy'n chwarae rhan hanfodol o ran meithrin ardaloedd gwyrdd y ddinas ac mae'r...