Canlyniadau 881–900 o 4000 ar gyfer speaker:Lesley Griffiths

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n cytuno'n llwyr â chi ei bod yn daith anodd iawn ddoe i chi ac i lawer o bobl eraill, ac rwyf wedi siarad ag Aelodau eraill a oedd ar y trên hwnnw. Rwyf i hefyd wedi siarad â'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, sy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa ac sy'n cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y prynhawn yma ynghylch y mater hwn. Mae'n ateb cwestiynau yfory, y Dirprwy...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, Mike. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn am fwyd mewn ysbytai. Pan oeddwn i'n Weinidog iechyd, roeddwn i bob amser yn arfer dweud bod bwyd yr un mor bwysig â meddygaeth. Mae'n bwysig iawn bod gan gleifion fwyd o ansawdd priodol, ac mae'n fater y gwn i fod y Gweinidog iechyd yn ei ystyried. Rydym ni hefyd yn ystyried caffael. Af i nôl at ateb cynharach ynghylch...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu eich bod chi'n codi pwynt pwysig iawn, ac, unwaith eto, yn ystod y pandemig cafodd sylw ei dynnu ato, yr anawsterau yn rhai o'n hardaloedd gwledig yn arbennig—ac nid ardaloedd gwledig yn unig, ond ardaloedd trefol hefyd. Ond, rwy'n credu, gydag ardaloedd gwledig, yn sicr rwyf i wedi cael fy lobïo gan fusnesau bach, er enghraifft, nad ydyn nhw wedi gallu gwella eu...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch, ac mae'n braf iawn eich gweld chi nôl yn y Siambr. Rwy'n credu eich bod chi wedi gwneud y peth iawn drwy ysgrifennu'n uniongyrchol at yr awdurdod lleol. Mae caffael yn fater pwysig, mae'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyflawni darn mawr o waith arno yn ein rhaglen lywodraethu, ac rwy'n siŵr bod hyn yn rhywbeth y byddai modd ei ystyried. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n credu i chi ddweud eich bod chi eisoes wedi cyflwyno sylwadau'n uniongyrchol i'r Dirprwy Weinidog. Fel y gwyddoch chi, mae'n amlwg bod y Post Brenhinol yn fater a gedwir yn ôl, ond mae'n amlwg ein bod ni i gyd yn dibynnu ar wasanaethau post mewn ffordd yr ydych chi newydd ei disgrifio, ac, yn fy marn i, yn ystod y pandemig, rydym ni wedi dibynnu arnyn nhw hyd yn oed yn fwy....

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r ddau Ddirprwy Weinidog yn amlwg yn ymwybodol o'r adroddiad neu'n gweithio drwy'r adroddiad, ac rwy'n siŵr, ar yr adeg fwyaf amserol, y byddan nhw'n cyflwyno rhagor o wybodaeth. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Roedd y gêm ddydd Sadwrn yn sicr yn gwbl anhygoel. Roeddwn i'n sgwrsio â Llyr Huws Gruffydd amdano dros ginio. Rwy'n dal i wenu. Yn fy 50 mlynedd o fynd i'r Cae Ras, nid wyf i erioed wedi gweld dim byd tebyg iddo. Rwy'n credu eich bod chi'n gwneud pwynt pwysig iawn. Fel plentyn, dyna lle'r oeddwn i'n mynd i wylio gemau rhyngwladol, ac, wrth gwrs, gyda'r llwyddiant y mae tîm...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. O ran y grant ysgolion bach a gwledig, bydd yr Aelod yn ymwybodol bod £2.5 miliwn wedi'i gyflwyno dros dymor blaenorol y Senedd i annog arloesi a chynyddu gweithio ysgol i ysgol. Roedd yn grant penodol iawn, ac rwy'n gwybod bod awdurdodau lleol wedi cael gwybod o'r cychwyn cyntaf fod y grant yn gyfyngedig o ran amser, a gwnaethon nhw gyflwyno eu cynlluniau ar gyfer gwariant a...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Wel, yn amlwg, nid wyf i'n ymwybodol o'r achos penodol yr ydych chi'n cyfeirio ato, ond rwy'n credu bod y pwynt yr ydych chi'n ei wneud ynghylch darpariaeth gwasanaethau ledled bwrdd iechyd yn bwysig iawn ac yn rhywbeth y mae pob bwrdd iechyd yn amlwg yn gyfrifol amdano, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar gael i'r boblogaeth y maen nhw'n yn ei gwasanaethu. Yn amlwg, gyda rhai...

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Rwy'n ymwybodol bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn cadw llygad barcud ar yr hyn sy'n digwydd ym mharc cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ond nid wyf i'n credu ei bod yn briodol cael datganiad ar hyn o bryd. 

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (29 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae sawl newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn gwneud datganiad yn fuan i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynllun Cartrefi i Wcráin. Yn ail, rwyf i wedi tynnu'n ôl y datganiadau ar yr wybodaeth ddiweddaraf ar COVID-19 ac ar ddiogelwch adeiladau.  Bydd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn cyflwyno'r...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd (23 Maw 2022)

Lesley Griffiths: —y Ceidwadwyr—[Chwerthin.] Dyna ateb ar ei ben. Rwy'n gobeithio wrth ymateb i'r ddadl hon, ac rwy'n cymryd mai arweinydd yr wrthblaid fydd yn gwneud hynny, y bydd y Ceidwadwyr yn manteisio ar y cyfle i ymbellhau oddi wrth bolisïau Llywodraeth Dorïaidd y DU—polisïau camreoli economaidd, toriadau lles a chyni sy'n bygwth diogelwch cyflenwad bwyd pobl Cymru heddiw. Mae eu polisi yn...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd (23 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Credaf ei bod yn deg dweud bod y pandemig, wrth gwrs, wedi achosi aflonyddwch byd-eang yn y ffordd yr ydych yn nodi. Fodd bynnag, cafodd eich Canghellor gyfle i wneud rhywbeth yn ei gylch heddiw ac ni wnaeth hynny. Nid yw £5 biliwn o bunnoedd i dynnu 5c oddi ar litr o danwydd yn werth dim i bobl nad oes ganddynt arian ar gyfer bwyd nac arian ar gyfer ynni neu sydd heb gar.  Mae tlodi bwyd...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd (23 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Fel pob Aelod sy'n cyfrannu at y ddadl hon heddiw, hoffwn ddechrau drwy dalu teyrnged i'n ffermwyr a'n cymunedau gwledig am y cyfraniad hanfodol a wnânt i iechyd a ffyniant ein gwlad. Wrth inni nodi effaith negyddol y rhyfel erchyll yn Wcráin ar ddiogelwch y cyflenwad bwyd, dylem hefyd nodi effaith gadarnhaol gweithredoedd cynhyrchwyr bwyd a chymunedau...

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Diogelwch Bwyd (23 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Yn ffurfiol.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi a'i swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn ar y mater hwn, a bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig heddiw.  

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog Addysg a'r Gymraeg yn ymwybodol o'r achos yr ydych chi'n cyfeirio ato, ac mae'n amlwg bod defnyddio deiet mwy maethlon yn ystod y diwrnod ysgol yn gwbl angenrheidiol am sawl rheswm, yr ydych chi wedi cyfeirio atyn nhw. Mae gan Lywodraeth Cymru Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion (Safonau a Gofynion Maeth) (Cymru) 2013. Maen nhw'n nodi'r mathau o fwyd a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Wel, fel y credaf eich bod chi newydd gyfeirio ato yn eich cwestiwn, mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi rhoi tri mis i'r bwrdd iechyd ymdrin â'r materion hyn, i ddechrau ar unwaith. Rydym ni nawr fis i mewn i hynny, a gwn i ei bod hi wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf fisol gyntaf gan y bwrdd iechyd, a gwnaeth hi hefyd gyfarfod â chadeirydd y bwrdd iechyd i drafod y...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Yn sicr, fe wnaf i siarad â'r Gweinidog Newid Hinsawdd. Yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, gyda nifer enfawr o ymrwymiadau'r rhaglen lywodraethu, ac ati, o fewn ei phortffolio, roedd hyn yn rhywbeth nad oedd hi'n teimlo y gallai hi roi adnoddau iddo, yn sicr ar gyfer y tymor byr, ac yna efallai'r tymor hwy yn nhymor y Llywodraeth. Felly, fe ofynnaf iddi a fyddai hi cystal â darparu...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (22 Maw 2022)

Lesley Griffiths: Diolch. Fel y gwyddoch chi, yn wir, mae Llywodraeth Cymru wedi cael statws uwch noddwr, ac rwy'n gwybod bod fy nghyd-Aelod Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, wedi bod yn gweithio'n agos iawn ac yn galed iawn gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod ni'n gallu derbyn pobl o amgylchiadau erchyll sydd mewn gwir angen. Gwn i fod swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda darparwyr...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.