Canlyniadau 881–900 o 8000 ar gyfer speaker:Mark Drakeford

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Plant sy'n Derbyn Gofal a'r Rhai sy'n Gadael Gofal (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch i Jack Sargeant am hynna. Mae gwrando ar lais plant yn rhan annatod o'n gwaith ac, yn wir, wedi'i ymgorffori mewn deddfwriaeth a basiwyd gan y Senedd hon. Yr haf hwn, byddwn yn dod â phobl ifanc â phrofiad o ofal ynghyd i drafod ein hagenda radical o leihau niferoedd gofal, dileu'r broses o wneud elw yn y system ofal, a darparu ein cynllun incwm sylfaenol arloesol.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'r Aelod yn iawn bod rhaglen o is-ddeddfwriaeth y bydd angen iddi ddeillio o'r pwerau sydd wedi dod i Gymru o ganlyniad i Ddeddf y DU. Rydym ni'n credu y bydd angen 17 darn o ddeddfwriaeth ar wahân i weithredu'r pwerau hynny. Bydd angen canllawiau cysylltiedig ar gyfer pob un o'r darnau hynny o ddeddfwriaeth. Bydd y darn mawr cyntaf yn cael ei gyflwyno yr haf hwn. Bydd yn ymdrin...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Wel, Llywydd, cymerwyd amddiffyniadau lesddaliadol yn Neddf Diogelwch Adeiladau'r DU. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod, gyda phwyll, ei fod, wrth gwrs, wedi pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a roddodd y pwerau hynny i Gymru allu amddiffyn lesddeiliaid. Nid yw'n bwynt annheg i'w wneud, i ofyn i bwerau gael eu defnyddio pan ydych chi wedi gwrthwynebu cymryd y pwerau yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Ddeddf Diogelwch Adeiladu 2022 (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae Gweinidogion yn parhau i ymgysylltu yn uniongyrchol â Llywodraeth y DU ac eraill i greu cyfundrefn gadarn o ddiogelwch adeiladau i Gymru. Mae hynny yn cynnwys defnyddio agweddau ar Ddeddf Diogelwch Adeiladu'r DU. Parhaodd y trafodaethau hynny ar lefel weinidogol yr wythnos diwethaf.

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: We promote employment opportunities within the public sector through a range of different activities such as: jobs fairs, careers interviews and particularly through the young person's guarantee. 

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Care homes in north Wales, as in the rest of Wales, receive income from a range of sources including local authorities. The Welsh Government budget for 2022-23 includes an additional £180.5 million local government allocation for social care, a £45 million reform fund and a £50 million capital fund for social care.

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Ar 4 Ebrill cynhaliwyd cyfarfod cyntaf bwrdd annibynnol rhaglen ysgol feddygol y gogledd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Iwan Davies. Mae wedi cyfarfod am yr ail waith heddiw. Fy nisgwyliad yw y bydd bwrdd y rhaglen yn gweithio i sicrhau’r garfan gyntaf o israddedigion ym mis Medi 2023. 

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (10 Mai 2022)

Mark Drakeford: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella lefelau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol. Dangosir yr uchelgais hon yn ein cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg, a’r ffaith ein bod yn ddiweddar wedi ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Tai Cymdeithasol ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, diolch yn fawr i Mabon ap Gwynfor am y pwyntiau pwysig yna. Mae beth ddywedodd e yn wir; mae targed uchelgeisiol gyda ni fel Llywodraeth i adeiladu mwy o dai am rent cymdeithasol yma yng Nghymru, ac mae'r sector, dwi'n cydnabod, yn wynebu nifer o sialensiau ar hyn o bryd. Mae swyddogion yn cyfarfod gyda'r sector bob tair wythnos i fonitro'r pwysau ar y gadwyn gyflenwi. Ymhlith y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Y Sector Tai Cymdeithasol ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Wel, diolch yn fawr am y cwestiwn. Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda landlordiaid cymdeithasol i gefnogi'r sector. Yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, fe wnaethon ni dalu £11 miliwn o grantiau ychwanegol a £25 miliwn o fenthyciadau di-log i landlordiaid cymdeithasol i'w helpu i ymdopi â chynnydd mewn costau deunyddiau. Rydyn ni’n parhau i fonitro'r pwysau ar y gadwyn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adeiladu Cymru Gynhwysol a Goddefgar ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, clywais gri 'Eid Mubarak' John Griffiths yn cael ei adleisio o amgylch y Siambr y prynhawn yma, a gwn y bydd Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr yn dymuno llongyfarch ein cydweithwyr Mwslimaidd ac ymuno yn eu dathliadau wrth i fis sanctaidd Ramadan ddirwyn i ben. A gaf i ddweud ei bod yn wych clywed yr hyn a ddywedodd John Griffiths am fynd i sesiynau pêl-droed ganol nos? Ac eleni,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adeiladu Cymru Gynhwysol a Goddefgar ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rydym ni eisiau i Gymru fod yn genedl oddefgar a chroesawgar, ond yn rhy aml, nid yw profiad bywyd rhai wedi adlewyrchu'r uchelgais hwnnw bob amser. Dangosodd yr ymgynghoriad diweddar ar ein cynllun gweithredu cydraddoldeb hiliol fod cynnydd clir wedi ei wneud, ond bod hefyd tir sydd eto i'w ennill.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prentisiaethau Gradd ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn ychwanegol yna, ac rwy'n falch iawn o allu trafod y mater hwn ar ddiwrnod pan fo prentisiaethau cyfreithiol yn cael eu lansio yng Nghymru—argymhelliad gan gomisiwn Thomas, a gyflwynwyd yn wreiddiol gan fy nghyd-Aelod Jeremy Miles, ac a gwblhawyd gan y Cwnsler Cyffredinol presennol. Rwy'n credu, os bydd yr Aelod yn astudio'r cyhoeddiad...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Prentisiaethau Gradd ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae dros 1,200 o brentisiaethau gradd wedi eu llenwi yn ystod tair blynedd cyntaf y rhaglen yng Nghymru. Bydd ein pwyslais ar ehangu yn blaenoriaethu meysydd sy'n mynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau, yn hybu cynhyrchiant ac yn cyfrannu at ein huchelgeisiau sero net.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, mae'n drist gen i ddweud bod yr enghraifft benodol y mae'r Aelod yn cyfeirio ati yn enghraifft dda o'r ffordd nad yw'r gronfa'n diwallu anghenion Cymru. Roedd gan Trafnidiaeth Cymru gynllun i gynyddu gwasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston i ddau drên yr awr o fis Mai eleni, o'r mis hwn ymlaen. Yn awr, ni fydd yn gallu gwneud hynny. Nid yw wedi gallu gwneud hynny...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Llywydd, bydd unrhyw effaith o gyllid ffyniant bro yn cael ei bychanu gan y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod darparu ein cyfran o'r boblogaeth o fuddsoddiad HS2 i Gymru. Dylai Llywodraeth y DU roi ei chyfran deg o gyllid i Gymru, er mwyn caniatáu i'r penderfyniadau hynny gael eu gwneud yma yng Nghymru mewn meysydd datganoledig, gan y rhai a etholwyd i gynrychioli Cymru.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoleiddiwr Pêl-droed Newydd Lloegr ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Wel, rwy'n credu bod yr Aelod yn ddoeth i wneud ei sylwadau terfynol o ddiogelwch ei swyddfa ei hun—[Chwerthin.]—felly rwy'n ei longyfarch ar gael y rhan honno'n iawn. Mewn gwirionedd, cytunais â llawer iawn o'r hyn a oedd ganddo i'w ddweud. Rwy'n credu y bydd yr adolygiad yn cael effaith yma yng Nghymru os caiff ei argymhellion eu gweithredu. Mae'n debygol o fod yn effaith fuddiol...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoleiddiwr Pêl-droed Newydd Lloegr ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna? Mae hi'n llygad ei lle wrth ddweud bod troseddau wrth wraidd y digwyddiadau trasig yn ymwneud â marwolaeth Emiliano Sala. Mae'r adolygiad dan arweiniad cefnogwyr, adolygiad Tracey Crouch, yn sicr yn werth ei ddarllen i unrhyw Aelodau o'r Senedd sydd â diddordeb yn y pwnc. Rwy'n credu ei fod yn gwneud cyfres o argymhellion pwysig iawn, a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Rheoleiddiwr Pêl-droed Newydd Lloegr ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Ni chafodd Llywodraeth Cymru ei gwahodd i gyfrannu at yr adolygiad o lywodraethu pêl-droed yn Lloegr dan arweiniad cefnogwyr. Bydd y rheoleiddiwr annibynnol newydd arfaethedig ar gyfer pêl-droed yn Lloegr yn cael rhywfaint o effaith ar glybiau Cymru sy'n chwarae yng nghynghreiriau Lloegr, ond mater i Lywodraeth y DU fydd goruchwylio'r rheoleiddiwr.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Darpariaeth 5G ( 3 Mai 2022)

Mark Drakeford: Mae hwnna yn bwynt pwysig iawn y mae'r Aelod yn ei wneud ar ran y rhanbarth y mae'n ei gynrychioli yma yn y Senedd. Fel y mae'n digwydd, cefais gyfle i drafod y cynnig sydd wedi ei gyflwyno gan y ganolfan Prosesu Signalau Digidol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf. Mae'n gynnig sy'n arloesol, o ran y gronfa y gwnaed y cais ar ei chyfer. Mae'n gronfa sydd...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.