Mike Hedges: Fel rhywun a gafodd ei ddiswyddo gan British Steel yn yr 1980au, mae gennyf gydymdeimlad ac empathi enfawr â'r rhai yr effeithiwyd arnynt, ac mae llawer ohonynt yn etholwyr i mi a rhai ohonynt yn bobl rwy'n eu hadnabod ac y byddaf yn cyfarfod â hwy dros yr wythnos nesaf mewn gwirionedd. Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am y camau y mae wedi'u cymryd. Nid wyf yn credu y gallem ofyn am...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ymuno â mi i longyfarch llywodraeth leol Cymru ar y ffordd y maent wedi ymdopi â'r lleihad yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru flwyddyn ar ôl blwyddyn ac ar ansawdd y ddarpariaeth y maent yn ei darparu er gwaethaf y toriadau hynny? Ac a wnaiff ymrwymo i gydweithio â llywodraeth leol Cymru yn yr un modd â'i ragflaenydd?
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb? Yr wythnos diwethaf, mynychais ddigwyddiad a gynhaliwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig ynghylch harneisio ynni adnewyddadwy yn ninas-ranbarth bae Abertawe. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd y morlyn llanw i'r rhanbarth unwaith eto, a gofyn pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i wella capasiti storio batri, gan mai dyna'r ateb,...
Mike Hedges: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y cynnydd tuag at wneud dinas ranbarth Bae Abertawe yn ardal hunangynhaliol o ran ynni? OAQ52123
Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru o ran lleihau lefelau gordewdra?
Mike Hedges: Mae prisiau tai yn cynyddu oherwydd prinder tai. Mae'n fanteisiol i'r adeiladwyr tai mawr leihau'r cyflenwad yn is na'r galw, gan y bydd hynny'n cynyddu prisiau. Byddai'r gwrthwyneb hefyd yn wir, ac os ydych chi'n ymweld â Sbaen byddwch yn gweld llawer o dai ar hanner eu hadeiladu gan fod y cyflenwad wedi dechrau bod yn fwy na'r galw. Mae hefyd yn fanteisiol i dirfeddianwyr leihau'r...
Mike Hedges: Rwy'n cefnogi'n gryf yr egwyddor o gynllun datblygu cenedlaethol a chynllun datblygu strategol uwchben y cynlluniau datblygu lleol. Credaf ein bod yn rhy aml yn edrych ar ardaloedd ar wahân i'w gilydd, ac i'r rheini sy'n adnabod yr ardal gerllaw'r lle rwyf i'n byw, mae gennych chi Barc Trostre, ac mae gennych chi Barc Manwerthu Fforest-fach, sydd dair neu bedair milltir oddi wrth ei gilydd....
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet yn fawr iawn, ac rwy'n siŵr ei fod yn cytuno â mi bod y dewis yn aml rhwng cyni neu dwf a'r hyn y mae cyni yn ei wneud yw llyffetheirio twf yn economi Prydain ac economi Cymru. A gaf i ddweud hefyd nad hap a damwain yw hi fod gan Gymru Fenter Cyllid Preifat isel? Mae'n ganlyniad penderfyniadau da a wnaeth Llywodraeth Cymru ar y pryd. Byddai hi...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i chi am yr ymateb yna? Fel y gwyddoch, roedd gan Lywodraeth Lafur 1945 i 1951 dai ac iechyd yn yr un weinyddiaeth, o dan arweiniad Nye Bevan, rhywun sy'n uchel iawn ei barch gan y ddau ohonom. Mae tai gwael yn cael effaith ddifrifol ar iechyd. Mae pobl, yn enwedig yr hen a'r ifanc, yn dod yn fwy agored i salwch pan fyddant yn byw mewn amodau oer a llaith. Mae amodau gwael yn...
Mike Hedges: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r berthynas rhwng tai ac iechyd? OAQ52079
Mike Hedges: Mae'n ddrwg gennyf—
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Sut y mae hynny'n cymharu â gweddill gorllewin Ewrop?
Mike Hedges: Diolch i Nick Ramsay am—
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei sylwadau? Nid wyf yn meddwl mai'r cynigion hyn yw'r ffordd gywir ymlaen. Dyna'r cyfan a ddywedaf. [Torri ar draws.] Oherwydd, TGCh, mae pobl dan gontract, mae angen eu diweddaru neu eu dirwyn i ben wrth uno ac weithiau fe fyddwch yn talu—[Torri ar draws.] Weithiau fe fyddwch yn talu—
Mike Hedges: —cymaint fesul 1,000 neu 10,000 o eitemau yn eich cronfa ddata neu yn eich strwythur, ac mae hynny'n golygu nad yw uno o reidrwydd yn arbed unrhyw arian i chi, oherwydd, os ewch o 10,000 i 15,000, ni fyddwch yn dweud, 'O, rydym wedi uno dau', rydych mewn gwirionedd—. Ac mae'n rhaid i chi gynhyrchu'r un nifer o slipiau cyflog. Nid ydych yn mynd i dalu llai o bobl oherwydd eich bod wedi...
Mike Hedges: Creodd ad-drefnu llywodraeth leol yn 1974 wyth cyngor sir a 37 o gynghorau dosbarth, gan roi diwedd ar fwrdeistrefi sirol, a oedd yn awdurdodau unedol. Y rheswm? Roeddem angen awdurdodau mwy o faint ac unffurfiaeth, ac roedd llawer o'r cynghorau dosbarth trefol a'r cynghorau dosbarth gwledig yn rhy fach. Yna, yn 1992, sefydlwyd 22 prif gyngor, a'r awdurdodau unedol hyn sydd wedi...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Y cyfan yr oeddwn am ei ddweud yw bod yn union yr un peth wedi'i wneud yn ninas-ranbarth Abertawe.
Mike Hedges: Diolch, Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i longyfarch Undeb Bedyddwyr Cymru ar ei ben blwydd yn gant a hanner oed. Siaradaf fel aelod o Seion Newydd, capel Bedyddwyr Cymru yn Nhreforys. Ddoe, mynychais ddigwyddiad yn y Pierhead i ddathlu pen blwydd Bedyddwyr Cymru yn gant a hanner oed, ac rwy'n falch iawn fod cynifer o Aelodau, gan eich cynnwys chi, Lywydd, yn bresennol. Rwyf eisiau...