Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl bwysig hon, gan ein galluogi i nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl. Gydag un o bob wyth o bobl yng Nghymru ar hyn o bryd yn chwilio am gymorth meddygol ar gyfer salwch meddwl ac amcangyfrif fod un o bob pedwar ohonom yn dioddef problemau iechyd meddwl ar ryw adeg yn ystod ein bywydau, mae’n amlwg fod angen i ni roi blaenoriaeth uchel i...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae fy rhanbarth wedi cael ei ddifetha gan ddiwydiannu ynni gwynt o ganlyniad i TAN 8 ac mae’n cael ei dargedu ar gyfer echdynnu nwy anghonfensiynol. Hefyd bydd gennym forlyn llanw cyntaf y byd. Mae arnom angen cymysgedd ynni gwirioneddol amrywiol, ond ni ddylid trin technoleg adnewyddadwy fel gweithfeydd pŵer yr ugeinfed ganrif. Ysgrifennydd y...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, o ystyried nifer y digwyddiadau a welwyd mewn safleoedd tebyg ledled Cymru a phryderon ynglŷn â goblygiadau iechyd y cyfeintiau mawr o ddeunydd gronynnol a gynhyrchir yn y math hwn o gyfleuster, a fydd Llywodraeth Cymru yn awr yn ystyried cyflwyno moratoriwm ar y math hwn o safle? A wnewch chi hefyd ystyried cyflwyno prosesau monitro llymach ar gyfer deiliaid...
Caroline Jones: 13. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y bydd polisïau ynni Llywodraeth Cymru yn arwain at arallgyfeirio o ran y cymysgedd ynni? OAQ(5)0045(ERA)
Caroline Jones: Diolch i chi am roi’r wybodaeth ddiweddaraf hon i ni heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet, ac am ddarparu'r cynllun cyflawni terfynol ddoe. Pan y gwnaethom drafod y cynllun drafft ym mis Gorffennaf, codais fater mynediad at therapïau seicolegol. Profwyd bod mynediad cynnar at therapïau siarad, megis therapi gwybyddol ymddygiadol, yn gwella adferiad a lleihau'r angen am wasanaethau mwy acíwt....
Caroline Jones: Brif Weinidog, mae toriadau i gyllidebau awdurdodau lleol wedi rhoi pwysau ar gyllidebau ysgolion ar draws fy rhanbarth i. Yn ogystal â chyllidebau ysgolion, mae cyngor Abertawe hefyd wedi cynyddu'r swm y mae’n ei godi am gytundebau lefel gwasanaeth, sy'n effeithio ar allu ysgolion i ddarparu pethau fel gwersi cerddoriaeth, gwersi nofio a'r cyflenwad o lyfrau llyfrgell. Mae gan Abertawe...
Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Huw am gyflwyno’r ddadl fer hon ac am gytuno i roi munud o’i amser i mi. Diolch byth, i fy etholwyr yn Ne Corneli a’r ardaloedd cyfagos, mae cwmni South Wales Wood Recycling wedi tynnu cynlluniau ar gyfer creu safle yn y pentref yn ôl. Mae’r cwmni wedi wynebu pob math o broblemau gyda thanau yn eu cyfleusterau ym Mhen-y-bont a Chasnewydd a...
Caroline Jones: Diolch yn fawr iawn—
Caroline Jones: Mae’n ddrwg gennyf?
Caroline Jones: Beth bynnag, roeddwn yn mynd i ddweud, fel cyn-berchennog busnes, gallaf eich sicrhau bod parcio ceir—fod cwsmeriaid wedi dweud wrthyf ei fod yn hanfodol iddynt, oherwydd gallent fynd i rywle arall gyda meysydd parcio tu allan i’r dref, a’i fod yn effeithio’n sylweddol, yn enwedig pan fydd gennych wardeiniaid traffig ar eich gwarthaf am fod ddwy funud dros eich amser. Felly, mae’n...
Caroline Jones: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Heb y traean o filiwn a mwy o ofalwyr di-dâl, byddai ein sector gofal cymdeithasol wedi ei orlwytho’n aruthrol. Amcangyfrifir bod gofalwyr di-dâl yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol. Canfu ymchwil gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr nad yw 30 y cant o ofalwyr yn cymryd unrhyw seibiant, a bod 65 y cant o ofalwyr yn...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn cyflwyno newidiadau enfawr i’r sector gofal cymdeithasol. Bydd gan y gweithlu gofal cymdeithasol cyfan safonau hyfforddiant gorfodol yn awr. Ar hyn o bryd mae yna lawer sy’n gweithio yn y sector gofal cartref yn debygol o fod angen hyfforddiant sylweddol er mwyn cyrraedd...
Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ragweld bod nifer y bobl 65 oed a hŷn yn mynd i gynyddu 44 y cant yn y degawdau i ddod, rhaid i ni sicrhau y gall ein sector gofal cymdeithasol ymdopi â’r cynnydd anochel yn y galw am ofal cymdeithasol. Yn anffodus, gwelsom doriadau enfawr yn y cyllidebau gofal cymdeithasol ac yn syml, nid ydym yn hyfforddi digon o weithwyr gofal cymdeithasol,...
Caroline Jones: Ysgrifennydd y Cabinet, y gefnogaeth fwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy’n gweithredu ar ein stryd fawr, fyddai sicrhau chwarae teg. Mae gan ddatblygiadau mawr ac archfarchnadoedd ar gyrion y dref ddigonedd o leoedd parcio am ddim, ond nid yw’r fantais honno gan fusnesau bach sy’n gweithredu ar ein stryd fawr. Pa gymorth y gall...
Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n edrych ymlaen at adolygu’r cynlluniau cyflawni ar eu newydd wedd pan gânt eu cyhoeddi. Nodaf eich sylwadau bod cyfraddau goroesi ar gyfer llawer o gyflyrau iechyd yn gwella ac, er bod hyn yn wir, mae gennym lawer mwy o waith i'w wneud. Rwy’n croesawu'r gwaith y bydd y grŵp gweithredu ar strôc yn ei wneud mewn cysylltiad...
Caroline Jones: Brif Weinidog, ers cyflwyno’r drosedd o ymddygiad rheoli neu gymhellol, dim ond llond dwrn o gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud. A yw'n croesawu felly y newyddion y bydd heddluoedd ar draws y wlad yn hyfforddi swyddogion i adnabod arwyddion ymddygiad reoli neu gymhellol? Mae'n debyg i un Bethan, mae’n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae angen i ni hysbysu’r cyhoedd nad yw trais yn y cartref...
Caroline Jones: Brif Weinidog, os yw dinas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd i fod yn llwyddiant, bydd yn gofyn am weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng y pedwar awdurdod lleol ond cydweithio gyda dinas-ranbarth Caerdydd a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi’r cynlluniau uchelgeisiol a gyflwynwyd gan fwrdd y ddinas-ranbarth. Pa welliannau seilwaith y mae Llywodraeth Cymru...
Caroline Jones: Mae’n cael effaith ganlyniadol, ac mae’n effeithio ar Gymru. Nyrsys yw enaid ein GIG, a dylem wneud popeth a allwn i annog mwy o bobl i ddewis nyrsio fel gyrfa, nid ei gwneud yn anoddach i unrhyw un ymuno â’r proffesiwn nyrsio. Diolch yn fawr.
Caroline Jones: Gwnaf, Angela.
Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno’r ddadl hon heddiw, ac afraid dweud y bydd UKIP yn cefnogi’r cynnig. Mae buddsoddi mewn hyfforddiant yn hollbwysig, ac fel y pleidiau eraill yn y Siambr hon, rydym yn anghytuno’n llwyr â phenderfyniad Llywodraeth y DU i ddileu bwrsariaethau i fyfyrwyr nyrsio yn Lloegr. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i gynnal bwrsariaethau ar gyfer myfyrwyr...