Lee Waters: Roedd tôn y sylwadau—. Mae Aelodau eraill wedi cyfeirio at y chwip yn cael ei tharo. Gallaf sicrhau Aelodau'r Siambr hon nad oes angen defnyddio unrhyw chwip yn y ddadl y prynhawn yma. Rydym oll yn gytûn y dylai'r broses annibynnol hon gael ei sefydlu a'i gweithredu a chael dadl lawn ac agored ar ei diwedd. Bryd hynny, byddaf yn cael gwared ar ôl y brathiad ar fy nhafod ac yn siarad...
Lee Waters: Rwy'n credu eich bod wedi dweud digon, Mr Davies—
Lee Waters: Gall wneud hynny yn ei amser ei hun, Lywydd, gyda pharch. Nid wyf yn derbyn ymyriad. Nid wyf yn derbyn—[Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn ymyriad. [Torri ar draws.] Dyna'r hyn a glywais—
Lee Waters: Rwy'n teimlo bod y ddadl y prynhawn yma yn anhygoel o anodd ac yn anghyfforddus. Mae llawer yr hoffwn ei ddweud, ond credaf y buasai'n ddoeth peidio â'i ddweud ar hyn o bryd. Ymhen deuddydd, byddwn yn claddu ein cyd-Aelod a'n ffrind, ac rwy'n credu bod rhywbeth yn anweddus ynglŷn â chael dadl o'r fath a hynny heb ddigwydd eto. Rwy'n gresynu at y ffordd y mae pobl wedi defnyddio'r...
Lee Waters: Sut y beiddiwch chi? Sut y beiddiwch chi? Cywilydd arnoch. Cywilydd arnoch.
Lee Waters: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac a gaf fi eich croesawu i'ch rôl newydd? Mae adroddiad diweddaraf Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru ar gyfer Llywodraeth Cymru yn rhagweld y bydd traean o swyddi yng Nghymru yn cael eu heffeithio gan awtomatiaeth, ond a fuasai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno nad yw awtomatiaeth yn rhywbeth y dylem geisio ei atal; mae'n rhywbeth y...
Lee Waters: 5. Pa asesiad sydd wedi cael ei wneud o effaith awtomateiddio ar gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus? OAQ51365
Lee Waters: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu strategaeth ar amaethyddiaeth fanwl ar gyfer Cymru?
Lee Waters: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd newidiadau yn rheolau Cyllid a Thollau EM yn ei chael ar ofal y tu allan i oriau gan feddygon teulu yn Llanelli?
Lee Waters: Mae hefyd yn galonogol iawn sylwi, yn ei hadroddiad, bod y ddadl gyhoeddus yn parhau i fod yn gadarnhaol. Mae wyth deg pump y cant yn credu bod y Gymraeg yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi, ac mae 76 y cant o siaradwyr Cymraeg yn cytuno bod sefydliadau cyhoeddus yn gwella eu gwasanaethau Cymraeg. Rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Mae'r ffaith yr hoffai 68 y cant o bobl weld...
Lee Waters: A gaf i hefyd longyfarch y Gweinidog wrth iddi ddechrau yn ei swydd newydd? Gallaf sicrhau Neil Hamilton nad oes yn rhaid iddo boeni'n ormodol am y bwlch sydd i'w lenwi. Mae Eluned Morgan yn wraig flaenllaw yn ei hawl ei hun, felly credaf y gallwn ni fod yn ffyddiog yn ei gallu i gyflawni'r agenda hon gyda hunanfeddiant. Croesawaf fod hwn yn adroddiad cadarnhaol gan Gomisiynydd y Gymraeg. Bu...
Lee Waters: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Lee Waters: Cefais ymweliad diddorol â fferyllfa gymunedol ym Mhorth Tywyn yr wythnos o’r blaen, ac roeddwn yn siomedig nad oedd system gyfrifiadurol y fferyllydd yn siarad â’r system gyfrifiadurol y mae gweddill y GIG yn ei defnyddio, ac mae’r mathau hyn o rwystrau digidol yn rhwystro’r potensial sydd gan y model hwn.
Lee Waters: I mi, nid yw hyn yn ymwneud â thapiau fflamllyd na daeargrynfeydd. Mae’r rhain yn amlwg yn faterion y buasai angen eu datrys pe bai ffracio byth yn cael ei ganiatáu, ond rwy’n credu bod yna bwynt llawer ehangach y mae’r ddadl hon yn ei wneud sy’n torri drwy, rwy’n credu, rhai o’r dadleuon ystumiedig y mae David Melding newydd eu gwneud. Mae ein ffordd o fyw, ers yr ail chwyldro...
Lee Waters: A wnaiff yr Aelod ildio?
Lee Waters: A fyddai’r Aelod yn derbyn bod y dystiolaeth yn dangos, er mwyn cyflawni newid moddol, pan fyddwch yn gwneud newidiadau capasiti fel cael gwared ar fannau lle y ceir problemau, y ffordd fwyaf effeithiol o wneud hynny yw ailddyrannu gofod ffyrdd? Felly, yn hytrach na bod y gofod hwnnw’n llenwi gyda cheir eto, rydych yn ymgorffori lonydd bysiau neu newidiadau goleuadau traffig neu...
Lee Waters: Am ddarlun. [Chwerthin.]
Lee Waters: Diolch, Llywydd. Rwyf wedi cytuno i roi munud o fy amser i fy nghyd-Aelodau Mike Hedges, Jenny Randerson a David Melding—Jenny Rathbone, rwy’n ymddiheuro. Gadewch i mi ddechrau drwy ddweud y gall yr M4 fod yn erchyll. Yn ystod oriau brig, rwy’n gyson yn eistedd mewn traffig sy’n ciwio’n ddiddiwedd, ac nid yn nhwnelau Bryn-glas yn unig y mae hyn yn broblem, ond mewn sawl man ar hyd y...
Lee Waters: Ond mae angen inni lunio ateb a fydd yn para—M4 sy’n addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ac nid wyf yn credu o gwbl y bydd y ffordd liniaru arfaethedig yn ddim mwy nag ateb drud dros dro. Yn wir, fel polisi, mae’n llwyddo i wneud rhywbeth rhyfeddol: mae’n llwyddo i fod yn hen ffasiwn ac yn gynamserol ar yr un pryd. Yn hen ffasiwn am mai tystiolaeth yr 50 mlynedd ddiwethaf o...
Lee Waters: Rwy’n credu bod Bethan Jenkins wedi crynhoi’r argymhellion yn yr adroddiad yn deg iawn, felly nid wyf am ailadrodd yr hyn a ddywedwyd eisoes. Felly fe wnaf gyfraniad byr, yn gyntaf oll i dynnu sylw at y consensws a gafwyd yn y pwyllgor a’r ffordd y gwnaethom i gyd weithio gyda’n gilydd ar sail drawsbleidiol i fyfyrio ar gynigion y Llywodraeth ac i dynnu sylw at ein barn ynglŷn â...