Canlyniadau 881–900 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

4. Cwestiynau Amserol: COVID-19: Rheolau Diogelwch mewn Ysgolion, Colegau a Phrifysgolion (30 Meh 2021)

Jeremy Miles: Roedd fy nghyhoeddiad ddydd Llun yn rhan o sgwrs a fydd yn parhau gyda'n partneriaid dros weddill y tymor hwn. Byddwn wedyn yn cyhoeddi'r fframwaith cyn dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, a byddwn yn rhoi'r rhybudd angenrheidiol i ysgolion er mwyn iddynt allu symud at y ffordd newydd hon o weithio yn y tymor ysgol nesaf. Rydym yn cydnabod bod angen cynllunio gofalus er mwyn sicrhau ein bod...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau yn 2021 (22 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. O ran sut olwg fydd ar y flwyddyn academaidd nesaf, bydd hi'n ymwybodol o'r cyhoeddiadau a wnes i ddoe ynglŷn â chategoreiddio ac ynglŷn â mesurau perfformiad ysgolion a'u hatal dros dro ar gyfer blwyddyn academaidd 2021-22. Hefyd ynglŷn â'r dull y bydd Estyn yn ei ddefnyddio ar gyfer arolygiadau yn ystod y flwyddyn nesaf, a fydd, rwy'n gobeithio—ac...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau yn 2021 (22 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau hynny. O ran y cwestiwn ffioedd, wel, mae'r ddarpariaeth rŷn ni wedi'i sicrhau heddiw ynghyd â'r hyn y mae Cyd-Bwyllgor Addysg Cymru wedi'i ddarparu, yn sicrhau bod costau'r arholiadau'n cael eu haneru. Rwyf i yn credu ei bod hi'n bwysig, fel y gwnes i eisoes, cydnabod y gwaith y mae athrawon yn ei wneud er mwyn sicrhau bod disgyblion a dysgwyr yn...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau yn 2021 (22 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch am y croeso a roddodd yr Aelod i'r datganiad yna. Mae hi wedi gofyn cyfres o gwestiynau; byddaf i'n gwneud fy ngorau i geisio rhedeg drwyddyn nhw mewn modd mor gynhwysfawr ond byr ag y gallaf. Nid wyf i'n credu ei bod yn ddefnyddiol siarad am chwyddiant graddau. Byddwn yn gweld bod yn well gan rai dysgwyr arholiadau a'u bod yn perfformio'n well ynddyn nhw, a bydd rhai yn gwneud yn well...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau yn 2021 (22 Meh 2021)

Jeremy Miles: Er mwyn hyrwyddo tegwch a chysondeb, mae'r hyblygrwydd hwn wedi ei gefnogi gan ganllawiau, gan ddeunyddiau enghreifftiol a gan ddysgu proffesiynol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dros £9 miliwn i gefnogi ysgolion a cholegau yn ogystal â dyrannu diwrnod hyfforddiant mewn swydd cenedlaethol. Mae yna ddulliau sicrhau ansawdd mewnol ac allanol, gan gynnwys deialog broffesiynol gyda CBAC...

5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cymwysterau yn 2021 (22 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch, Llywydd. Yn fy natganiad ar 'Adnewyddu a diwygio’, cadarnheais y byddem ni'n rhoi dysgwyr yn gyntaf, gan gefnogi eu lles a'u hyder a rhoi cyfleoedd iddyn nhw i ddatblygu'r wybodaeth a'r sgiliau allweddol i'w galluogi i wneud cynnydd. Mae'r rhain yn egwyddorion sydd wedi llywio ein trefniadau ar gyfer cymwysterau yr haf hwn. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r athrawon a'r darlithwyr...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hygyrchedd Addysg Cyfrwng Cymraeg (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am yr ail gwestiwn pwysig hwnnw. Mae diwygio'r ddeddfwriaeth, dwi'n credu, sydd yn sail i'r cynlluniau strategol, yn mynd i gael yr effaith o symud y tir yn gadarnhaol yn y maes hwn, a chynllun strategol y Gymraeg mewn addysg y cyngor rŷch chi'n ei ddisgrifio, mae amryw o bethau uchelgeisiol iawn yn hwnnw, felly rwy'n bles o weld hynny. Ond rwy'n derbyn, ynghyd ag edrych ar...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Hygyrchedd Addysg Cyfrwng Cymraeg (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Dylai pob plentyn sydd am fynychu ysgol cyfrwng Cymraeg allu gwneud, ble bynnag y maent yn byw. Mae ein fframwaith statudol newydd trwy gynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn gosod uchelgais glir i awdurdodau lleol gynllunio eu darpariaeth addysg Gymraeg er mwyn diwallu’r disgwyliad hynny.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Awyr Agored (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Mae gan addysg awyr agored rôl bwysig i'w chwarae yn cyfoethogi addysgu a dysgu, ac adlewyrchir hyn yn y cwricwlwm i Gymru. Ar hyn o bryd rydym yn darparu £2 filiwn i'r sector addysg awyr agored preswyl i'w cefnogi rhwng mis Mehefin a mis Medi 2021 i ymateb i gyfyngiadau COVID.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg Awyr Agored (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Cytunaf yn llwyr â'r Aelod ynglŷn â phwysigrwydd dysgu yn yr awyr agored a'r cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny i'n plant a'n pobl ifanc. Ac fel y mae'n digwydd, roeddwn yn dweud wrth rywun y bore yma mai dyma'r math o ddiwrnod pan oeddwn yn blentyn ysgol y byddwn wedi treulio'r rhan fwyaf ohono y tu allan, gan ddysgu yn yr awyr agored, ac mewn gwirionedd daeth hynny ag atgofion pleserus yn...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg yn Ne Clwyd (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Manteisiodd rhanbarth De Clwyd ar gyfanswm buddsoddiad o dros £20 miliwn yn ystod y don gyntaf o gyllid ar gyfer rhaglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain. Dechreuodd ail don o gyllid yn 2019, yn cynnwys buddsoddiad sylweddol pellach i'r ystâd ysgolion a cholegau yn ardal De Clwyd.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg yn Ne Clwyd (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei eiriau caredig ac am y pwynt atodol a wnaeth. Fe fydd yn gwybod bod prosiectau arfaethedig, gan gynnwys Ysgol yr Hafod, Brymbo ac Ysgol I.D. Hooson, sy'n ddatblygiadau cyffrous yn fy marn i, yn ei ardal ef. Rwy'n credu ei fod oddeutu £12 miliwn o fuddsoddiad i gyd, gyda chyfradd ymyrraeth o tua 65 y cant gan Lywodraeth Cymru, a siarad yn gyffredinol. Felly, credaf fod...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwiriadau DBS Ar-lein drwy Gyfrwng y Gymraeg (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno â'r ffaith ei fod e'n gwbl annerbyniol fod pobl yn dioddef oherwydd eu bod nhw'n dewis gwneud rhywbeth dylen nhw allu gwneud yn hawdd—hynny yw, ymateb yn Gymraeg. Ac rydych chi'n iawn i sôn am yr impact penodol ar lein. Wrth gwrs, mae cyfle i wneud hyn ar bapur, ond, fel yr oeddech chi'n cyfeirio, cyfnod yr arth a'r blaidd—dyw hynny ddim yn ddigonol bellach. Mae...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Gwiriadau DBS Ar-lein drwy Gyfrwng y Gymraeg (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Rydym wedi trafod gyda Chomisiynydd y Gymraeg. Rwy’n deall nad yw prosesau gwirio'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gael i’w cwblhau ar-lein yn Gymraeg i lywodraethwyr a deiliaid swyddi eraill o hyd. Mae hyn wrth gwrs yn gallu achosi oedi wrth lenwi swyddi. Rwyf eisoes wedi ysgrifennu at y gwasanaeth i ofyn iddyn nhw wella’r gwasanaeth Cymraeg.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Iechyd Meddwl Myfyrwyr (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw, a chredaf ei bod yn pwysleisio pa mor sylweddol yw'r broblem. Credaf, yn y ffordd yr ymatebais i Hefin David, fod dwy agwedd ar hyn. Un ohonynt yw'r buddsoddiad o £10 miliwn, a oedd yn ymwneud yn benodol â darparu mwy o gefnogaeth ar gyfer anawsterau emosiynol ac iechyd meddwl, ond roedd yna becyn cymorth pellach cyn hynny hefyd a oedd yn ymwneud â...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Iechyd Meddwl Myfyrwyr (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Yn sicr. Yng nghyd-destun addysg bellach, yn amlwg, mae sefydliadau unigol yn darparu eu cymorth iechyd meddwl a llesiant eu hunain i fyfyrwyr mewn amrywiaeth eang o wahanol ffyrdd, o gwnsela, cymorth ar-lein, hyfforddiant gwytnwch—ceir amrywiaeth eang o opsiynau y mae sefydliadau unigol yn eu darparu i'w myfyrwyr. Maent i gyd wedi datblygu rheini ac yn gweithredu strategaethau llesiant i'w...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Iechyd Meddwl Myfyrwyr (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Heddiw, cyhoeddais y cynllun 'Adnewyddu a diwygio', fframwaith ar gyfer ymateb y Llywodraeth hon i effeithiau'r pandemig ar ddysgu. Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar gefnogi sylfeini dysgu, gan gynnwys llesiant dysgwyr, a chefnogi dysgwyr i wneud cynnydd drwy ganolbwyntio ar eu gallu i fod yn wydn.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Wel, o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Gyfunol, ni oedd y Llywodraeth a gymrodd y cam gyntaf mewn mwy o gyd-destunau yn ymwneud â rhoi prydiau bwyd am ddim yn ein hysgolion ni. Felly, rwy'n derbyn yr hyn y mae'r Aelod yn ei ddweud o ran pa mor bwysig yw e inni allu diwallu'r angen hwn. Rŷn ni wedi dweud eisoes, a rŷn ni'n ail-ddweud, os caf i ddweud hynny, yn y rhaglen lywodraethu, ein...

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Meh 2021)

Jeremy Miles: Wel, yr ateb i'r cwestiwn olaf yw mai'r bwriad yw eu bod nhw'n parhau i wneud eu gwaith nes bod eu gwaith nhw wedi'i wneud. Dyna'r ymrwymiad sydd gyda ni. O ran beth yw eu swyddogaethau nhw, maen nhw'n darparu addysg. Hynny yw, mae'r gair 'staff' yn golygu pobl sydd yn dysgu neu'n cefnogi—TAs ac ati—i allugoi i'r disgyblion gael mwy o gefnogaeth o ran dysgu. Felly, dyna'r ymrwymiad. Ac...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.