David Melding: Mae'n 4 Gorffennaf heddiw, ac yn rhyddiaith ddisglair Jefferson, cawn ein hatgoffa ein bod yn cael ein geni â hawliau diymwad, a'r mwyaf pwysig yw bywyd, rhyddid a'r ymchwil am ddedwyddwch. Nawr, byddem yn diffinio'r 'ymchwil am ddedwyddwch' fel rhyw fath o lesiant emosiynol heddiw, ac nid oes unrhyw amheuaeth o gwbl fod amddifadu plant o gymorth effeithiol a diagnosis o gyflyrau iechyd...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n cymeradwyo'r datganiad ysgrifenedig a wnaethoch yn gynharach heddiw am ganolbwyntio ar atal tanau a gwaith y gwasanaeth tân a gwasanaethau brys eraill i godi ymwybyddiaeth mewn ysgolion, ac o amgylch y gymuned hefyd, o beryglon dechrau tanau. Credaf fod honno'n rhan hollbwysig o'u gwaith ac mae'n ymddangos ein bod yn gweld llai o achosion o'r tanau hyn yn awr....
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn gwybod bod y Comisiwn Cyflogau Isel yn ymweld ag Ynys Môn heddiw ac yfory i wrando ar farn pobl yr effeithiwyd arnynt gan yr isafswm cyflog. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol cynnwys pawb, o fusnesau, gweithwyr ac undebau llafur—yn wir, unrhyw un â buddiant yn y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn—i sicrhau eu bod yn darparu tystiolaeth...
David Melding: Mynachlog Nedd.
David Melding: Rwy'n gwerthfawrogi eich dull gwyddonol o ymdrin â'r mater hwn, ac rwyf yn gobeithio y byddwch chi'n ei ymestyn i feysydd eraill eich polisi.
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf i longyfarch Neil Hamilton am sensitifrwydd ei araith yn pwysleisio bod pryderon amgylcheddol yn drech na'r farchnad rydd? Rwy'n siŵr bod llawer ohonom ni wedi credu bod honno'n egwyddor bwysig iawn, iawn, iawn. Hwrê, mae UKIP bellach yn croesawu hynny hefyd. Mae hon yn ddadl bwysig iawn, ac nid ydym ni'n siarad digon am hyn yn y...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n derbyn y pwynt bod hwn yn gyfeiriad pwysig, er nad yw'n un gweithredol i Lywodraeth Cymru, gan eu bod yn awr wedi dod i gytundeb, a chytundeb cadarn iawn, yn fy marn i, â Llywodraeth y DU. Ein safbwynt ni bob amser, yr ochr hon i'r Cynulliad, oedd bod y broses cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn parhau i fod yn amddiffyniad allweddol, ond ceir amwysedd ynddi, yn...
David Melding: Gofynnwch y cwestiwn. [Chwerthin.]
David Melding: Prif Weinidog, wrth gwrs, rwy'n cydnabod y gwaith sydd wedi ei wneud yn y sector cymdeithasol, ac mae i'w groesawu'n fawr, ond y mis diwethaf, dywedodd prif gynghorydd tân Cymru efallai y bydd yn rhaid i breswylwyr mewn blociau uchel preifat fyw gyda chladin anniogel am flynyddoedd oherwydd dadlau dros pwy ddylai dalu amdano, ac mae Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl wedi galw ar Lywodraeth...
David Melding: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch tân mewn blociau uchel yng Nghymru? OAQ52469
David Melding: Trefn. Mae'n ddrwg gennyf, Simon, rydym wedi colli'r cyfieithiad. Mae'r profion yn gweithio. A yw pawb yn cael y darllediad bellach? Diolch. Rwy'n ymddiheuro, Simon. Gallwch barhau.
David Melding: Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
David Melding: Eitem 8 yw dadl Plaid Cymru ar ynni hydrogen a galwaf ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
David Melding: David Rowlands i ymateb i'r ddadl.
David Melding: Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths.
David Melding: Mark Reckless.
David Melding: Rydych yn hollol gywir yn dweud bod unrhyw Lywodraeth yn atebol i'r etholaeth am yr hyn y mae'n ei ddatgan mewn maniffesto. Nid wyf yn credu bod yr un Lywodraeth yn cyflawni popeth y mae'n bwriadu ei wneud, ac yn amlwg os ydych yn cyrraedd islaw pwynt penodol gallwch ddisgwyl ymateb deifiol gan yr etholaeth. Ond rydym yn falch o'r hyn rydym yn ei gyflawni, a byddwn yn ei amddiffyn, ac rwy'n...
David Melding: Carwn wneud y pwynt hwn yn unig. A gaf fi ychwanegu hyn, mewn ysbryd o gonsensws? Mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cydweithredu ar faterion economaidd yn deilwng yn fy marn i. Ac ers 2010, rydym wedi gweld cynnydd o dros 18,000 yn nifer y busnesau bach a chanolig yng Nghymru, ac nid wyf yn credu y gallwch ddweud mai Llywodraeth y DU yn unig yw hynny, na Llywodraeth...
David Melding: Wel, gadewch i mi orffen fy mhwynt, diolch i chi, Leanne. Mae gwleidyddiaeth angen cymariaethau. Wrth wraidd Llywodraeth ddatganoledig, mae'r ddamcaniaeth eich bod yn edrych ar awdurdodaethau gwahanol ac yn dysgu ganddynt. Mae hynny'n bendant yn ddilys. Ond yr hyn nad ydych yn ei wneud ym model San Steffan—yn wir, mewn unrhyw system ddemocrataidd o lywodraethu—yw cael un ddeddfwrfa i...
David Melding: Wel, wyddoch chi, dyna yw'r taro a'r gwrthdaro a geir mewn gwleidyddiaeth—