Andrew RT Davies: Prif Weinidog, yn amlwg, nid yw'r cynnig yn ddigon cryf ar hyn o bryd. Pan edrychwch chi ar y ffigurau, mae gostyngiad o 7 y cant o wledydd nad ydynt yn yr UE a gostyngiad o 10 y cant o wledydd yr UE yn dod i brifysgolion yng Nghymru. Ac eto bu cynnydd yn nifer y myfyrwyr a ymrestrodd ym mhrifysgolion Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Yn hytrach na chanolbwyntio ar yr arian, sydd i'w...
Andrew RT Davies: A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Andrew RT Davies: A gaf fi ofyn chi egluro eich ffigur gwerth ychwanegol gros? Oherwydd ceir enghraifft y mae'r Prif Weinidog yn ei defnyddio'n aml iawn ynglŷn â'r modd y mae pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw yn y Cymoedd ac felly dyna pam y mae gwerth ychwanegol gros yn ymddangos yn isel yn y Cymoedd. Gwneuthum y pwynt fod y sector prosesu yn Lloegr i raddau helaeth bellach ar gyfer llaeth,...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn ffurfiol yn enw Paul Davies yn y ddadl a gyflwynodd UKIP y prynhawn yma mewn perthynas â stocio ein hardaloedd ucheldir a'r ddadl amaethyddol gyffredinol am y sector da byw yma yng Nghymru. Rwy'n gresynu nad ydym yn gallu cefnogi'r cynnig oherwydd credaf mai proses negyddol yw dileu cynigion yn eu cyfanrwydd, ond teimlaf fod y cynnig a...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n deall y cyfyngiadau a roddwyd arnoch gyda'r achos llys sydd ar fin digwydd, ond os gallaf wneud dau bwynt a gofyn am ateb i'r ddau bwynt: un peth sydd wedi codi dro ar ôl tro gydag etholwyr yw pam y dewiswyd y lleoliad penodol hwn i ddympio'r mwd, o ystyried, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod yna amryw o fannau eraill lle gellid bod...
Andrew RT Davies: Diolch am eich dymuniadau da—fe'u cymeraf fel canmoliaeth ddeufiniog, Ysgrifennydd y Cabinet. [Chwerthin.] Ysgrifennydd y Cabinet, gwyddom yn iawn mai un o'r problemau mawr sy'n ein hwynebu yn ystod misoedd anodd y gaeaf, yn arbennig, yw mynediad at welyau yn GIG Cymru. Rwy'n siŵr, drwy doriad yr haf, eich bod chi a'ch swyddogion wedi bod yn gweithio gyda byrddau iechyd ledled Cymru ar...
Andrew RT Davies: Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Ychydig cyn toriad yr haf, cyhoeddasoch ganllawiau newydd mewn perthynas ag ysgolion gwledig—rhywbeth a gafodd groeso. Yn amlwg, daw'r canllawiau hynny i rym yn ddiweddarach eleni. Hoffwn ddeall pa bwys y dylai awdurdodau lleol ei roi ar hyn o bryd ar y canllawiau penodol a gyhoeddwyd gennych. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, nid ydynt wedi'u...
Andrew RT Davies: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu'r cyngor am gau ysgolion gwledig y mae Llywodraeth Cymru'n ei ddarparu i awdurdodau lleol ar hyn o bryd? OAQ52595
Andrew RT Davies: 2. A wnaiff Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am argaeledd gwelyau yn y GIG yng Nghymru? OAQ52594
Andrew RT Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae'r Gymdeithas Brydeinig o Feddygon o Darddiad Indiaidd—BAPIO—yn sefydliad gwirfoddol cenedlaethol anwleidyddol. Fe'i sefydlwyd yn 1996 gan ei lywydd a'i sylfaenydd, Dr Ramesh Mehta OBE, i gefnogi meddygon sy'n cyrraedd o India i weithio yn ein GIG. BAPIO Cymru yw is-adran genedlaethol fwyaf BAPIO ac o dan gadeiryddiaeth Keshav Singhal MBE, dyma ei...
Andrew RT Davies: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, ddoe mewn cwestiynau i'r Prif Weinidog, clywsom ganddo fod uno'r tri sefydliad sy'n ffurfio Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn llwyddiant ysgubol a ysgogwyd gan Lywodraeth Cymru. Rydych wedi tynnu sylw at gyfres o fethiannau ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru yma heddiw, ac rydym wedi clywed gan Aelodau ar draws y Siambr. A ydych yn ei ystyried...
Andrew RT Davies: Mae tagfeydd yn digwydd ar draws Canol De Cymru gyfan. Ddim yn rhy bell o'r Siambr hon, ceir pentref Dinas Powys, y pentref mwyaf yng Nghymru. Ar un ochr mae gennych chi y Barri, y dref fwyaf yng Nghymru, ac mae'r brifddinas yr ochr arall iddo. Ers tua 40 mlynedd, bu ymgyrch i gael adeiladu ffordd osgoi o gwmpas pentref Dinas Powys ac mae ymgyrchoedd olynol, yn anffodus, wedi methu. A ydych...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn dynnu sylw'r Aelodau at y cerflun ar ochr ddwyreiniol y bae, o'r enw 'Pit to Port'. Roedd yn uchelgais gydol oes i Donald Ronald Harris, a oedd yn preswylio yn ne Cymru ar hyd ei oes, ac roedd yn frocer llongau siartredig ac yn allforiwr glo. Mewn gyrfa a rychwantodd 45 mlynedd, daeth yn rheolwr ardal de Cymru i Powell Duffryn International Fuels. Yn ystod ei...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad hwnnw, ac efallai y gallaf roi ychydig o gyngor yn ôl i Ysgrifennydd y Cabinet: mewn gwirionedd, fe'i cymerais o gyfweliad un i un yn y Wales Farmer ddoe, lle rhoesoch gyfres o atebion, felly roedd fy nghwestiynau'n seiliedig ar eich atebion chi. Yn amlwg, roeddent yn gadael y drws yn agored i ddehongliad o'r hyn yw rheolwr tir a phwy fyddai'n gymwys ar gyfer...
Andrew RT Davies: Diolch am y dehongliad hwnnw, er ei bod yn ymddangos, yn sicr, wrth ddarllen yr ymgynghoriad ac wrth ddarllen rhywfaint o ddyfalu yn y wasg, fod y diffiniad ychydig yn ehangach na hynny, ac y gellid dehongli y gall cwmnïau mawr, er enghraifft, a chanddynt ddaliadau tir—Tata Steel, er enghraifft, neu awdurdodau lleol a allai fod yn awyddus i ofalu am barciau neu leiniau neu beth...
Andrew RT Davies: Diolch, Lywydd; cefais fy ailymgnawdoli yn llefarydd materion gwledig. [Chwerthin.] Hoffwn ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, yng ngoleuni'r ymgynghoriad a lansiwyd gennych ddoe—yr ymgynghoriad pwysig iawn a lansiwyd gennych ddoe—beth yw eich diffiniad o 'reolwr tir'? Un o'r pum egwyddor rydych wedi'u tanlinellu yw, o dan unrhyw gynlluniau newydd a allai gael eu cyflwyno gan Lywodraeth...
Andrew RT Davies: Diolch, Prif Weinidog. Un o'r cynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hyrwyddo, trwy Gyngor Bro Morgannwg, yw'r ffordd newydd o gyffordd Meisgyn, fel y'i gelwir, ym Mro Morgannwg i Sycamore Cross. A all y Prif Weinidog gadarnhau os bydd y prosiect hwn yn mynd rhagddo y bydd angen i arian gan Lywodraeth Cymru fod ar gael i'w adeiladu a bod yr arian hwnnw o fewn y gyllideb fel y mae wedi ei...
Andrew RT Davies: Rwyf i'n teimlo'n freintiedig heddiw o fod yn eistedd wrth ymyl achubwr y clwb bridwyr draenogod yn y fan yma, Darren Millar. Byddai unrhyw un sydd wedi dilyn ei gyfrif Twitter yn gweld y genhadaeth achub a lansiwyd ganddo yr wythnos diwethaf. Ond rwyf yn gofyn i chi, Prif Weinidog—. Mae Llywodraeth Cymru yn comisiynu llawer o wasanaethau yn y sector cyhoeddus, yn amlwg—gwasanaethau bws...
Andrew RT Davies: 10. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau seilwaith trafnidiaeth ledled Cymru? OAQ52512
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. [Torri ar draws.] Mae bob amser yn braf cael cymeradwyaeth. [Chwerthin.] Prif Weinidog, a gaf i ddiolch i chi am y sylwadau caredig iawn—maddeuwch i mi, Llywydd—a fynegwyd gennych chi yr wythnos diwethaf, a hefyd i'r Aelodau ar draws y Siambr sydd wedi bod yn garedig iawn dros y diwrnod neu ddau diwethaf o ran y sylwadau y maen nhw wedi eu gwneud ar fy ymadawiad o'm...