Huw Irranca-Davies: Amser maith yn ôl, pan oeddwn i mewn lle arall, mewn Siambr arall, yn ôl yn 2015, roeddwn yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol San Steffan, ac fe wnaethom ni edrych ar fater maes awyr Heathrow. Ac ar y pwyllgor hwnnw roedd ystod o safbwyntiau—roedd yn bwyllgor cryf o 17—o amheuwyr newid hinsawdd digyfaddawd i ecolegwyr ac amgylcheddwyr digyfaddawd. Ond daethom i gasgliad diddorol...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad amserol— ar yr adeg briodol—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith ar Ford a'r tasglu'n benodol? Byddai'n caniatáu inni, felly, godi'r mater o hyd at 25 o weithwyr yn Ford, y mae rhai ohonynt yn etholwyr imi, a dderbyniodd becyn diswyddo sylfaenol ddechrau mis Mai, ac a geisiodd sicrwydd gan Ford ar y pryd nad oedd unrhyw gynlluniau i...
Huw Irranca-Davies: A gaf innau hefyd ganmol David am ddigwyddiad ardderchog, yn cynnal cymdeithas Tyddynwyr Morgannwg? Edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well eto. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw ei weledigaeth, ar gyfer tyddynwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa ôl-Brexit? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y dathlwyd hanner canmlwyddiant y polisi amaethyddol...
Huw Irranca-Davies: Tybed pa rôl y mae'r Gweinidog yn gweld tai modiwlar yn ei chwarae yn diwallu anghenion o fewn ardaloedd awdurdodau lleol? Roeddwn yn falch iawn o allu ymuno â hi yn ddiweddar ym Maes Glas yn Ynysawdre i edrych ar fenter Cymoedd i'r Arfordir gyda thai modiwlar ar y thema honno o dai am oes y gellir eu haddasu a'u newid wrth i'r blynyddoedd fynd heibio. Nawr, mae'r gwaith hwnnw'n cael ei...
Huw Irranca-Davies: Mae'n wych cael y datganiad hwn yn Wythnos Addysg Oedolion, oherwydd ei fod yn ein hatgoffa ni nad yw byth yn rhy hwyr. Beth bynnag yw eich oedran chi, rydych chi'n parhau i ddysgu. Roedd yn sicr yn wir yn fy achos i pan es i yn ôl i wneud fy Meistr yng nghanol fy 30au, yr oedd yn wir am fy niweddar fam pan wnaeth hi ei chwrs Prifysgol Agored yn ei 60au, ac yr oedd yn sicr yn wir pan oeddwn...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Rwyf yn croesawu'r datganiad heddiw, a dim ond un cwestiwn sydd gennyf. Deallaf yn ôl ym 1854, fod meddyg ifanc o'r enw John Snow, a oedd yn gweithio yn Soho yn Llundain pan oedd yr epidemig colera ar ei anterth, wedi nodi ar fap â dotiau hynt yr achosion o golera, a chan ddefnyddio'r dystiolaeth honno, ymdriniwyd mewn gwirionedd ag achosion o golera a oedd yn gysylltiedig ag un...
Huw Irranca-Davies: Bydd y Gweinidog yn nodi'r bleidlais yr wythnos diwethaf gan 83 y cant o weithlu Ford i gefnogi gweithredu diwydiannol hyd at, ac yn cynnwys streic mewn ymateb i gynnig cau Ford. Felly, tybed a ellir dod o hyd i amser ar gyfer datganiad ar Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn y dyfodol agos, a chyn toriad yr haf o leiaf, a fyddai'n caniatáu i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am gynnydd o...
Huw Irranca-Davies: Beth am rannu ceir?
Huw Irranca-Davies: Yn fyr iawn, gyda'r cyfleoedd hynny i edrych ar ffyrdd arloesol y gallem ryddhau capasiti ar goridor pwysig yr M4, un ffordd yw symud y cynnydd enfawr sydd gennym bellach mewn trafnidiaeth pecynnau i fyny ac i lawr y wlad, yn dod o Fryste, Avon, ond gorllewin Cymru yn ogystal. Felly, mae datblygiadau arloesol megis y grŵp gweithrediadau rheilffyrdd, gyda'u cynigion i adnewyddu cerbydau, wedi...
Huw Irranca-Davies: Gwnaf, yn wir.
Huw Irranca-Davies: Yn sicr, rwy'n cytuno'n llwyr â chi, John. A chredaf fod y gwaith a wnaethoch ar roi'r ddeddfwriaeth arloesol ar waith i wneud hyn wedi mynd â ni gam o'r ffordd, ond mewn gwirionedd, erbyn hyn byddai gwireddu dyheadau Llywodraeth Cymru i gael terfynau cyflymder de facto o 20 mya mewn ardaloedd trefol yn help mawr yn hyn, ac yn wir, mae wedi rhagweld yr hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud nesaf:...
Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad gwirioneddol werthfawr hwn, gyda rhai argymhellion gwerthfawr iawn? Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar un maes yn unig—rwy'n dweud wrth Gadeirydd y pwyllgor—sef y mater y cyfeirir ato yn yr adroddiad yn ymwneud â theithio llesol a beth arall y gellir ei wneud. Ac mae'n ddiddorol fod yr adroddiad yn nodi mewn gwirionedd, os...
Huw Irranca-Davies: Ac os bydda i'n dioddef, byddaf i'n derbyn hynny, Llywydd. Y cyfan y mae'n ei wneud yw dweud nad ydych chi'n derbyn y syniad bod Llywodraeth y DU yn rhif 3 yn ceisio osgoi hynny. Ond y syniad o gronfa wedi'i chanoli neu o dan gyfarwyddyd y DU, gwrthod hynny—a ydych chi'n derbyn bod hynny'n cael ei wrthod?
Huw Irranca-Davies: Yn wir, ac rwyf yn croesawu eich bod chi'n ildio am fod hynny'n helpu'r ddadl.
Huw Irranca-Davies: Diolch am ildio, Nick. Os ydw i'n gwrando'n iawn ar yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, rydych chi'n cefnogi o leiaf yr egwyddor y tu ôl i bwyntiau rhif 2 a rhif 3, ond dydych chi ddim yn hoffi'r tôn. Mae egwyddor rhif 2 ynghylch y diffyg manylder yr ydych chi newydd sôn amdano yn fwy huawdl nag y gallaf i; rydych chi hefyd yn gresynu at y diffyg manylion. Ac rydych chi'n gwrthod y syniad o...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ddweud wrth y Gweinidog fod y pryderon a amlinellodd heddiw yn y diweddariad a'r datganiad hwn, sydd i'w croesawu, yn cael eu hategu gan lawer o'r hyn y bydd wedi ei glywed gan y grŵp ymgynghorol Ewropeaidd, y rhanddeiliaid hynny sy'n cynrychioli diwydiant, sy'n cynrychioli'r trydydd sector, sy'n cynrychioli trawstoriad eang o gymdeithas yng Nghymru ac sy'n gyfrwng gwerthuso gwych i...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Andrew R.T. Davies am godi mater y digwyddiad a gawsom ni yn y fan yma gydag anemia dinistriol, digwyddiad na allwn ei fynychu fy hunan am ei fod yn cyd-daro â chyhoeddiad dinistriol Ford? Ond, diolch i chi, Andrew, am ei godi. Rwyf i wrth fy modd bod y Gweinidog yn mynd i ysgrifennu atom ni ein dau, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n ddechrau ar sgwrs eithaf hir...
Huw Irranca-Davies: A gaf i ddechrau trwy ddiolch i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog am ymgysylltu ar unwaith ac yn uniongyrchol iawn â'r gweithwyr, ac mewn ffordd mor frwd, trwy gwrdd â'r undebau yn y safle yr wythnos diwethaf, ynghyd â Carwyn fy nghyd-Aelod, ASau lleol ac eraill, ac am fod yn y sedd flaen yn y mater hwn? Ac a gaf i adleisio popeth y dywedodd fy nghyd-Aelod Carwyn Jones ar ran nid y cannoedd...
Huw Irranca-Davies: Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran codi uchafswm y cyfalaf ar gyfer cyfraniadau at gostau cartrefi gofal?
Huw Irranca-Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch, John, am gychwyn y ddadl hon, a hefyd i bawb a gyfrannodd, ac mae'n bleser dilyn Jenny hefyd, a ganolbwyntiodd ar fwyd. Ac rwyf innau am ganolbwyntio fy sylwadau byr ar faes penodol. Hoffwn ganolbwyntio ar faterion yn ymwneud â newyn a thlodi bwyd, a'r ymgyrch a fu ar y gweill yn genedlaethol ers rhai misoedd bellach, sef ymgyrch y Blaid Gydweithredol yn...