David Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatblygu cynlluniau ynni adnewyddadwy cymunedol?
David Lloyd: Rydym ni’n sôn am hwb i’r economi yn fan hyn, a’r arian ychwanegol. Os wyt ti eisiau ariannu’r metro, neu beth bynnag, fe allet ti ei ariannu fo, Lee, allan o’r arian ychwanegol a fydd yn dod i mewn i goffrau’r Cynulliad yma os ydym ni’n cael y cyfrifoldebau wedi eu datganoli fan hyn, a’r arian ychwanegol a fydd yn dod o ddiddymu’r tollau. [Torri ar draws.] O ddiddymu’r...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rydw i’n symud y gwelliant sydd yn galw ar ddatganoli’r cyfrifoldeb dros bontydd Hafren pan maent yn dychwelyd i berchnogaeth gyhoeddus ac yn cefnogi diddymu’r tollau sy’n daladwy ar y croesfannau. So, dyna ein safbwynt ni. Rydym ni wedi bod yn erbyn y tollau yma ers blynyddoedd maith, achos rydym ni yn sôn, efo pontydd Hafren, am y brif fynedfa i...
David Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Yn bellach i hynny, wrth gwrs, yn naturiol, mae yna oedi hir wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf ar y Kingsway, ac mae prif ffrwd canol dinas Abertawe wedi mynd i edrych braidd yn llwm. Mae yna nifer o brosiectau, ac rydych chi wedi cyfeirio at un, sydd ddim jest i wneud â’r cyngor lleol ond, wrth gwrs, i wneud â’r Llywodraeth yn fan hyn. Felly,...
David Lloyd: 11. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr ymgais i adfywio'r Kingsway yn Abertawe fel canolfan fusnes a chyflogaeth? OAQ(5)0062(CC)
David Lloyd: Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, yn naturiol, fod graddfeydd ysmygu wedi gostwng dros y blynyddoedd, yn rhannol wrth gwrs achos bod deddfwriaeth wedi dod ger bron achos roedd y niferoedd a oedd yn ysmygu yn dal yn ystyfnig o uchel nes i ni gael y gwaharddiad yna ar ysmygu mewn adeiladau cyhoeddus. Yn yr un amser, yn y degawd diwethaf, mae graddfeydd gordewdra wedi codi yn lle disgyn. A...
David Lloyd: Mae’n bleser cymryd rhan mewn dadl â’r fath syniadau’n cael eu gwyntyllu. Llongyfarchiadau i Suzy ac i Mike am eu cyfraniadau. Rydw i, fel Sian Gwenllian, wedi bod yn ffodus yn ddaearyddol ac mewn teulu i gael magwraeth gyfan gwbl Gymraeg, i’r fath raddau nad oeddwn i’n gallu siarad Saesneg tan yr oeddwn i’n saith mlwydd oed, ac nid oeddwn i’n gwybod beth oedd y syniad o iaith...
David Lloyd: Gwnaethoch chi’r cyhoeddiad yna fis diwethaf o £20,000 i ddenu meddygon ifanc newydd fel meddygon teulu yn y rhannau o Gymru sydd yn anodd iawn i ddenu meddygon oni bai. Yn naturiol, roeddem ni’n croesawu hynny, ond nid ydyw e’n gwneud dim byd gogyfer y pwysau gwaith anferthol sydd ar feddygon teulu sydd yn eu swyddi nawr, y prynhawn yma, ym mhob rhan o Gymru a dweud y gwir. Felly,...
David Lloyd: Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, mai uchelgais datganedig Llywodraeth Cymru yw darparu model rheilffordd dielw newydd, ond fel rydych wedi amlinellu, ni fydd y cynigwyr presennol i fod yn weithredwr masnachfraint Cymru a’r Gororau a’r partner datblygu yn gwmnïau dielw eu hunain. Felly, yn amlwg, mae yna botensial am rywfaint o gamddealltwriaeth. Nawr, rwyf am...
David Lloyd: [Yn parhau.] —uno llawn Amgueddfa Cymru, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, gyda Cadw? A wnewch chi ddiystyru gweithredu dewis 4 adroddiad PwC yn ystod y tymor Cynulliad hwn? Oherwydd, Ysgrifennydd y Cabinet, mewn cyd-destun arall, pan fuom yn trafod y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru, NICW, rydych wedi dangos hyblygrwydd rhagorol ac awydd i wrando ar bryderon, a dod i gytundeb....
David Lloyd: A allaf ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet am ei ddatganiad? Ond, wedi dweud hynny, buasai’n lawer well gennyf i petaem ni yn cael dadl yn amser y Llywodraeth, fel rydw i wedi gofyn am ddwywaith yn y Siambr hon o’r blaen, achos mae’r materion gerbron yn allweddol bwysig, fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei awgrymu eisoes, yn allweddol bwysig i ni fel cenedl—ac maen nhw; rwy’n...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Lywydd, a diolch i’r Gweinidog am y datganiad yma ar fand eang cyflym. Rydych yn sôn yn y datganiad bod gwaith modelu a rhagolygu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn awgrymu y bydd cronfa fuddsoddi Cyflymu Cymru yn cynhyrchu rhwng £30 miliwn a £50 miliwn erbyn 2023, wrth i rhwng 35 y cant a 50 y cant dros y cyfnod hwnnw ddewis defnyddio’r...
David Lloyd: Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. Mae wedi ei ddweud, fel rŷch chi wedi ei nodi, dros y blynyddoedd diwethaf bod yna nifer o esiamplau o enwau hanesyddol Cymraeg ar hen dai, ar hen blastai ac ar hen ffermydd. Mae’r enwau hanesyddol Cymraeg yma i gyd wedi dod o dan fygythiad ac yn aml, yn wir, rhai yn cael eu newid i’r Saesneg. A ydych chi fel Llywodraeth yn cytuno bod yna...
David Lloyd: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am enwau lleoedd hanesyddol Cymru? OAQ(5)0249(FM)
David Lloyd: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gymryd rhan yn y drafodaeth yma, ac yn falch hefyd o gydnabod bod y Ceidwadwyr wedi derbyn ein dau gwelliant ni fel plaid. Felly, band llydan uwch gyflym neu band eang cyflym iawn—rydym ni yn naturiol yn derbyn ac yn dathlu’r ffaith, yn wir, fod dros 89 y cant o gartrefi yng Nghymru erbyn hyn yn gallu cael mynediad i fand eang...
David Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
David Lloyd: A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
David Lloyd: Yn unol â’ch dyhead i fod yn fyr ac yn fachog, a allaf ofyn am ddwy ddadl yn amser y Llywodraeth, y cyntaf yn ymwneud â’r cyhoeddiad a wnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet dros iechyd yr wythnos cyn diwethaf, wedi’r cyfarfod ‘Plenary’ diwethaf, ynglŷn â’r arian newydd i ddenu meddygon ifanc i fod yn feddygon teulu yn yr ardaloedd mwyaf anodd i ddenu meddygon iddynt? Tra’n amlwg yn...
David Lloyd: Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei adroddiad cynhwysfawr—cynhwysfawr yn yr atebion a chynhwysfawr yn y cwestiynau sydd wedi cael eu gofyn eisoes, felly af i ddim i ailadrodd beth sydd wedi ei grybwyll eisoes, dim ond i bwysleisio, yn y bôn, fod gwasanaeth bws yn hollol allweddol, yn enwedig i’r gyfran o’n poblogaeth ni sydd yn gynyddol yn mynd yn hen...
David Lloyd: A gaf i ddiolch i’r Ysgrifennydd Cabinet dros yr economi ac isadeiledd am ei ddatganiad, a chroesawu’r datganiad yma, yn wir, a diolch iddo hefyd am ei eiriau caredig? Rwy’n diolch iddo hefyd am bob cydweithrediad dros y misoedd diwethaf rhwng ei swyddfa fo, swyddfa Adam Price a’m swyddfa i, ynghylch y syniad yma o gomisiwn seilwaith cenedlaethol Cymru—‘national infrastructure...