Canlyniadau 901–920 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Dwi'n ei ffeindio hi'n ddiddorol eich bod chi'n dweud nad yw eich cynlluniau chi o safbwynt ynni adnewyddadwy ddim wedi cael eu heffeithio gan y penderfyniad yma. Dyna'n union ddylai fod wedi digwydd yn fy marn i. Hynny yw, nawr mae angen dyblu ymdrechion yn y maes yma er mwyn gwireddu'r potensial sydd gennym ni. Yn ei faniffesto i fod yn arweinydd y Blaid Lafur yng Nghymru, fe wnaeth Mark...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Gan fod y cyhoeddiad, wrth gwrs, am oedi Wylfa Newydd yn tanlinellu pa mor broblemus yw datblygu cenhedlaeth newydd o orsafoedd niwclear, mae yna beryg nawr, wrth gwrs, ein bod ni'n ffeindio ein hunain yn oedi ac yn aros, o bosib, am flynyddoedd i rywbeth ddigwydd, a does neb eisiau gweld yr ynys nac yn wir, ogledd Cymru'n ehangach mewn cyflwr o limbo o bosib o ganlyniad i...

12. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Effaith Brexit heb Gytundeb ar yr Amgylchedd, Amaethyddiaeth a Physgodfeydd (22 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Rwy’n clywed y pryderon ynghylch 'Brexit a’n tir'. Wrth gwrs, y ffordd orau o leddfu’r pryderon hynny yw peidio â chael Brexit yn y lle cyntaf, ond dyna ni; mae hynny ar gyfer datganiad arall, mae'n debyg. Nid wyf i angen i neb ddweud wrthyf i pa mor wael fyddai Brexit 'dim cytundeb' i Gymru. Rwyf o'r un farn â’r Gweinidog; rwyf i wedi bod yn eithaf eglur ynghylch hynny o'r diwrnod...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit Heb Gytundeb (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Dyma ni'n mynd. Rydych chi'n ymgnawdoliad o'r rhithdyb o fawredd y mae'r ymerodraeth Brydeinig yn dal i fodoli ynddi. [Torri ar draws.] Na, mae'n wir. A dyna sy'n fy nghorddi ynglŷn â llawer o'r ddadl hon. Mae'n fy nghorddi oherwydd fod peth o'r rhethreg ynglŷn â Brexit a gadael yr UE—mae iddo adleisiau o'r rhethreg adeg y rhyfel, onid oes? Ysbryd Dunkirk, palu dros fuddugoliaeth. Rydym...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit Heb Gytundeb (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Ac mae rhai o'r pryderon ynglŷn â ffermio wedi'u trafod droeon, wrth gwrs, ond yn fwyaf diweddar yn y drafodaeth bwrdd crwn ar ffermio yn y DU, lle y gwyntyllwyd nifer sylweddol o effeithiau mwyaf a mwyaf uniongyrchol Brexit 'dim bargen' posibl. Gwyddom, er enghraifft, y gallai fod goblygiadau enfawr i gynhyrchion anifeiliaid megis cig, wyau a llaeth sy'n cael eu hallforio i'r UE ar hyn o...

8. Dadl Plaid Cymru: Brexit Heb Gytundeb (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Gaf fi ddiolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl gyffrous yma y prynhawn yma—lliwgar iawn ar adegau? Rydw i'n meddwl bod hynny, wrth gwrs, yn adlewyrchu'r teimladau cryfion a'r teimladau sydd yn gynyddol gael eu polareiddio yn y drafodaeth hynny. Mae hynny yn biti, ond wrth gwrs dyna yw'r her rŷn ni'n ei hwynebu, o safbwynt ffeindio ffordd allan o'r dryswch mawr yma. Ac mi...

6. Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru) (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i gael cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Nawr, ar yr achlysur hwn, nid oedd modd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Dyw hwn ddim yn safbwynt y mae'r pwyllgor am ei chymryd, gan, wrth gwrs, nad yw'n helpu Aelodau'r Cynulliad i...

3. Cwestiynau Amserol: Wylfa Newydd (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Mae'r pwynt wedi cael ei wneud yn flaenorol—mae yna beryg, wrth gwrs, ein bod ni'n camddehongli diwylliant Japaneaidd fan hyn, oherwydd mae colli wyneb yn anodd i ni yn y gorllewin, ond mae'n anoddach fyth, wrth gwrs, i Japaneaid. Ac mae yna beryg, efallai, tra ein bod ni'n meddwl bod y prosiect ar hold, taw, mewn gwirionedd, dyna eu ffordd nhw o ddweud nad yw e'n mynd i ddigwydd. Felly,...

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Economi Gogledd-ddwyrain Cymru (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr. Yn 2016, roedd allforion siroedd Fflint a Wrecsam yn gyfwerth â £5 biliwn ac roedd 87 y cant o'r rheini yn cael eu hallforio i'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, ydych chi'n cytuno mai'r ffordd orau o gynnal y lefel yna o allforion a'r holl swyddi a'r manteision economaidd sy'n dod gyda hynny yw aros yn yr Undeb Ewropeaidd? Ac os ŷch chi, beth mae eich Llywodraeth chi'n gwneud i...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Seilwaith Trafnidiaeth yng Ngogledd Cymru (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Fe allwn ni i gyd, dwi'n siŵr, groesawu'r ffaith bod yna fuddsoddiad yn mynd i fod mewn gorsafoedd yng nghyd-destun y rheilffordd yng Nghymru. Dydw i ddim yn gwybod os ydy'r Gweinidog yn ymwybodol, ond mae Network Rail wedi bod yn gweithio'n agos gyda sefydliadau sydd yn gweithio i drio atal hunanladdiadau. Mi oedd yna 237 hunanladdiad ar y rheilffyrdd ym Mhrydain yn 2016—4.5 y cant o holl...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Economi Trefi Gwledig (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Rydym wedi gweld cynnydd, wrth gwrs, yn nifer y manwerthwyr sydd wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr. Rwy'n credu ei fod 6 y cant yn uwch ers 2017, ac wrth gwrs, rydym yn clywed ei bod wedi bod yn Nadolig eithaf anodd i fusnesau ar y stryd fawr. Nawr, mae angen trawsnewidiad mawr mewn manwerthu ac yn y modd y mae'r stryd fawr yn gweithredu ac yn cyflwyno’i hun, rhywbeth sy’n llawer mwy...

1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth: Economi Trefi Gwledig (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: 1. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i hybu economi trefi gwledig? OAQ53189

2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit: Economi Gogledd-ddwyrain Cymru (16 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: 1. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith unrhyw fath o Brexit ar economi gogledd-ddwyrain Cymru? OAQ53198

6. Dadl: Cyllideb Derfynol 2019-20 (15 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma ar y gyllideb derfynol heddiw, sydd wedi newid, wrth gwrs, ers y gyllideb ddrafft wnaethon ni graffu arni fel pwyllgor yn yr hydref. Mae'r gyllideb derfynol yn dangos yr arian canlyniadol a ddaeth o gyllideb y Deyrnas Unedig, wrth gwrs, yn nhymor yr hydref y llynedd. Mae hefyd yn dangos gostyngiad o £40 miliwn...

5. Dadl: Pennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru 2019-20 (15 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Wel, mae heddiw, wrth gwrs, yn ddiwrnod hanesyddol, achos mi fyddwn ni yn pleidleisio i benderfynu ar y cyfraddau Cymreig ar gyfer treth incwm yng Nghymru, a hynny am y tro cyntaf, wrth gwrs, mewn canrifoedd lawer. Nawr, mae'r pwerau dan sylw yn ymestyn ar y pwerau trethiannol a gafodd eu datganoli yn Ebrill y flwyddyn diwethaf, ac mi ddylai'r pwerau hyn,...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio ( 9 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Rydw i eisiau diolch i Dai Lloyd hefyd am ei gyfraniad y prynhawn yma. Mae yna gyfle yn y fan hyn, fel roedd Dai yn ei awgrymu, inni fod yn uchelgeisiol ac yn arloesol. Mae eisiau dangos yr un uchelgais, yr un arloesedd a'r un dewrder a welwyd adeg creu y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Nid taflu arian at system sy'n methu yw'r ateb, fel dywedodd Dai. Mae angen newid y system hefyd fel bod...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio ( 9 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Soniodd Nick am y cyfeiriadau a nodwyd yn ystod ein gwaith ynghylch yr angen am ateb ar sail y DU gyfan, ac mae'n debyg fod hynny'n adlewyrchu barn y pwyllgor neu ei ddewis yn hynny o beth, ond wrth gwrs, os nad yw hynny'n digwydd rhaid inni fwrw iddi a'i wneud ein hunain. Rwy'n obeithiol fod y Llywodraeth o'r un farn, oherwydd, fel y dywedodd Nick, rydym mewn sefyllfa anghynaliadwy yn y...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio ( 9 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu? Ni wnaf gyfeirio at bob cyfraniad, maddeuwch i fi, ond fe wnaf jest ategu un neu ddau o'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud. Yn sicr, yng nghyfraniad Nick Ramsay, roedd y cyfeiriad at lefel y cyflogau o fewn y sector yn cymharu â rhai yn stacio silffoedd, rydw i'n meddwl, yn tanlinellu lle mae'r sector yn y cyd-destun...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio ( 9 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Fe glywom ni am argyfwng wrth geisio recriwtio a chadw staff gofal cymdeithasol, ac roedd cyflog isel a chanfyddiad o statws cymdeithasol isel yn ffactorau a oedd yn cyfrannu at y sefyllfa yma. Mae'r sector gofal cymdeithasol, yn arbennig, yn agored i bwysau ychwanegol ar y gweithlu, gan fod cyfran uchel o'r staff eu hunain yn heneiddio. Ac rŷm ni hefyd yn pryderu'n arbennig ynghylch...

5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Cost Gofalu am Boblogaeth sy'n Heneiddio ( 9 Ion 2019)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael siarad yn y ddadl yma heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid ar yr ymchwiliad i gost gofal am boblogaeth sy'n heneiddio. Ac er nad  oeddwn i'n aelod o'r pwyllgor adeg cynnal rhai o'r sesiynau tystiolaeth, mi hoffwn i, wrth gwrs, ddiolch i bawb a gyfrannodd, a hefyd i'r Gweinidog blaenorol dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.