Canlyniadau 901–920 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

4. 4. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): TB Buchol (28 Med 2016)

Caroline Jones: Hoffwn ddiolch i Simon Thomas, Paul Davies, Neil Hamilton a Llyr Gruffydd am gyflwyno’r cynnig hwn heddiw. Rwy’n cytuno bod angen i ni fynd i’r afael â TB buchol drwy ymrwymo i ddefnyddio’r mesurau mwyaf effeithiol i reoli a dileu’r clefyd. Nid wyf yn cytuno mai difa moch daear yw’r dull mwyaf effeithiol o fynd i’r afael â TB buchol. Mewn gwirionedd, mae’r holl dystiolaeth...

4. 4. Datganiad: Sefydlu’r Gronfa Triniaethau Newydd a’r Adolygiad Annibynnol o’r Broses Ceisiadau Cyllido Cleifion Unigol (27 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch i chi am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, ar y gronfa driniaethau newydd. Edrychwn ymlaen at gael manylion mwy pendant yn y dyfodol. Mae eich datganiad yn crybwyll y bydd y gronfa yn darparu arian ychwanegol ar gyfer meddyginiaethau newydd, ond a allwch chi gadarnhau y bydd hefyd yn ariannu triniaethau newydd, er enghraifft therapi pelydr proton? Atebwyd fy nghwestiwn ar...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Helpu’r GIG i Baratoi am y Gaeaf sydd o’n Blaenau
(27 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Y gaeaf diwethaf, gwelsom lefelau digynsail o alw am ofal heb ei drefnu. Rhoddodd y bobl oedd yn ei chael hi’n anodd cael gafael ar feddyg teulu dros fisoedd y gaeaf straen enfawr ar ein hadrannau damweiniau ac achosion brys wrth i gleifion fynd yno i gael triniaeth feddygol. Yn ôl y Coleg Nyrsio Brenhinol, mae ein hysbytai mor llawn drwy gydol y flwyddyn...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
(27 Med 2016)

Caroline Jones: Brif Weinidog, y rheswm y mae PABM yn mynd i dderbyn ymyrraeth wedi'i thargedu yw oherwydd perfformiad gwael mewn gofal canser heb ei drefnu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis trwy'r llwybr amheuaeth o ganser brys sy’n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Rydym i gyd yn gwybod bod triniaeth ac ymyrraeth brydlon yn lleihau'r risg...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach
(27 Med 2016)

Caroline Jones: Brif Weinidog, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sydd wedi mynegi pryder ynghylch lefel eu hardrethi busnes, sy'n rhoi straen ar sefyllfa ariannol eu busnes. Gan eu bod y tu allan i'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach, mae’n rhaid iddynt dalu’r ardrethi busnes llawn, beth bynnag yw'r fforddiadwyedd. Oni bai bod y perchnogion busnesau bach hyn yn dod o hyd i safle...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Helpu’r GIG i Baratoi am y Gaeaf sydd o’n Blaenau
(27 Med 2016)

Caroline Jones: 6. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu'r GIG i baratoi at y gaeaf sydd o'n blaenau? OAQ(5)0162(FM)

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Gwnaf, yn sicr.

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Mewn ysgolion cyfun?

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Gyda 3,000 o ddisgyblion—

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Rwy’n anghytuno’n llwyr â chi ar y pwynt hwnnw. Credaf fod dosbarthiadau llai ac ysgolion llai—rydych yn helpu’r mwyaf bregus yn yr ysgolion hynny, ond rydych yn eu colli yn y system gyfun. Diolch.

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Na, mae’n ddrwg gennyf, Llyr, ni wnaf. Mae’r galw am ysgolion gramadeg yn yr ychydig bocedi lle maent yn dal i fodoli wedi saethu i’r entrychion. Felly, unwaith eto, nid ydym yn edrych ar yr hyn y mae pobl ei eisiau, rydym yn edrych ar orfodi rhywbeth nad ydynt ei eisiau o bosibl. Yn anffodus, nid yw’r ysgolion gramadeg hyn ond yn bodoli yn y rhannau cyfoethocach o dde Lloegr ac yn...

10. 10. Dadl UKIP Cymru: Ysgolion Gramadeg (21 Med 2016)

Caroline Jones: Pan euthum i goleg hyfforddi athrawon gyntaf, roedd y dirwedd addysg yn wahanol iawn i’r hyn a welwn heddiw. Roedd y rhai â thueddiad academaidd yn mynd i ysgolion gramadeg, ond roedd y rhai a oedd yn tueddu mwy at alwedigaeth yn mynd i ysgol uwchradd fodern. Roedd ysgolion gramadeg gwladol yn addysgu cannoedd o filoedd o ddisgyblion, ac yn cynnig addysg am ddim y gellid ei chymharu ag...

5. 5. Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Cynlluniau i Recriwtio a Hyfforddi Meddygon Teulu Ychwanegol ynghyd â Gweithwyr Proffesiynol Eraill ym Maes Gofal Sylfaenol (20 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru yn derbyn bod argyfwng ym maes gofal sylfaenol. Dymunwn bob llwyddiant ichi â’r ymgyrch hon, oherwydd mae angen dybryd ar Gymru am fwy o feddygon teulu, neu bydd gennym broblem enfawr. Yn anffodus, nid yw eich cynigion yn gwneud llawer i’n helpu ni yn y sefyllfa sydd ohoni. Wrth i’r GIG baratoi am...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Gwasanaethau Llyfrgell
(20 Med 2016)

Caroline Jones: Brif Weinidog, er ein bod yn croesawu eich ailgadarnhâd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wasanaethau llyfrgelloedd, nid yw eich cefnogaeth yn fawr o gysur i'r cymunedau hynny y caewyd eu llyfrgelloedd o ganlyniad i doriadau llywodraeth leol. Rydym ni wedi gweld llawer o lyfrgelloedd yn cau eu drysau am byth, tra bod eraill yn ddyledus i dîm bychan o wirfoddolwyr ymroddedig am eu...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (20 Med 2016)

Caroline Jones: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i liniaru effeithiau llygredd aer yng Nghymru?

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Ddim eto. Mae’n rhaid i ni groesawu masnach rydd â’r byd i gyd, yn hytrach na chanolbwyntio’n unig ar floc masnachu mwyfwy ynysig. Mae’n bryd i Lywodraeth y DU gyflawni ei haddewid fod gadael yn golygu gadael, ac mae angen i ni adael cyn gynted â phosibl.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Ie, mae gennym Aston Martin yn dod i Sain Tathan, gan greu 750 o swyddi. Felly nid ar chwarae bach mae hynny’n digwydd. Felly, rwy’n dweud bod gadael yr UE yn cynnig cyfle gwych i’r DU a Chymru hybu masnach, tyfu ein diwydiant, a chynyddu cyflogaeth. Pan fyddwn wedi cael ein rhyddhau hefyd, rwy’n credu y bydd yn cynyddu hyd yn oed ymhellach, pan fyddwn yn dechrau proses erthygl 50....

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Diolch yn fawr iawn. Yr wythnos diwethaf, cefais wahoddiad i agoriad dau fusnes newydd yn fy rhanbarth. Felly, os yw pobl ar y raddfa lai yn barod i fuddsoddi’r arian y maent wedi gweithio’n galed i’w ennill, yna gallaf weld busnesau eraill yn manteisio hefyd, busnesau mawr.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Gwnaf.

7. 7. Dadl UKIP Cymru: Yr Economi a Gadael yr UE (14 Med 2016)

Caroline Jones: Wel, y cyfan y gallaf ei ddweud, Rhun, yw bod y busnesau yn fy rhanbarth, o brofiad personol—llawer o fusnesau—yn agor busnesau newydd, mae eiddo gwag yn cael ei lenwi, ac nid wyf wedi clywed neb yn dweud wrthyf fod—. Fel cyn-wraig fusnes fy hun, nid oes neb wedi dod ataf i ddweud nad ydynt yn mynd i fanteisio ar unrhyw gyfle oherwydd y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid oes...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.