Nick Ramsay: Ysgrifennydd y Cabinet, rwy’n meddwl mai eich penderfyniad i roi terfyn amser o bythefnos i Gwmni Datblygu Blaenau’r Cymoedd bythefnos yn ôl—bythefnos yn ôl i heddiw, neu bythefnos i ddoe—oedd y peth hollol gywir i’w wneud a dywedais hynny’n glir yn y datganiad busnes ddoe. Rwyf hefyd yn cytuno â chi ar fater diwydrwydd dyladwy. Mae’n amlwg erbyn hyn y bydd hynny’n chwarae...
Nick Ramsay: Arweinydd y tŷ, mae pythefnos wedi mynd heibio bellach ers i Lywodraeth Cymru roi i’r cwmni Cylchdaith Cymru—. Rwy'n credu mai terfyn amser o ddwy wythnos ydoedd, yn rhyfedd ddigon, i ddarparu sicrwydd am eu cefnogwyr ariannol fel y gall y prosiect symud yn ei flaen. Dywedais yn fy nadl yr wythnos diwethaf ynglŷn â dinas-ranbarth Caerdydd fy mod i’n credu bod hwn yn ddatblygiad...
Nick Ramsay: Brif Weinidog, soniodd Dai Lloyd yn ei gwestiwn agoriadol am y problemau i bobl ag anableddau yng ngorsaf y Fenni. Os caf ganolbwyntio ar y rheini, efallai y byddwch yn ymwybodol o waith un o’m hetholwyr, yr ymgyrchydd dros hawliau mynediad i bobl anabl, Dan Biddle, sydd wedi gweithio'n ddiflino yn fy ardal i a ledled Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i geisio gwella mynediad i bobl...
Nick Ramsay: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf wedi cytuno i ganiatáu i Jenny Rathbone, Hefin David a David Melding gyfrannu munud yr un i’r ddadl hon. Roedd 15 Mawrth, 2016 yn ddiwrnod hanesyddol i Gymru: y diwrnod y llofnodwyd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd o’r diwedd gan y Prif Weinidog, Llywodraeth y DU a chynrychiolwyr y 10 awdurdod lleol sy’n cymryd rhan. Ers y diwrnod hwnnw, mae...
Nick Ramsay: Rwyf ar fin gwneud hynny. Fel y gwelwch, Aelodau, rydym yn bwyllgor o aelodau brwd, a safbwyntiau brwd, a phan fyddwn yn cytuno a phan fyddwn yn gweithio fel tîm, rwy’n credu ein bod ar ein gorau mewn gwirionedd, oherwydd, credwch fi, mae’r Aelodau ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y Cynulliad hwn â barn eu hunain go iawn. Buaswn yn dweud o ran—. Rwy’n cytuno’n llwyr â chi...
Nick Ramsay: Rwy’n gwybod bod gennych ddiddordeb ers tro ym maes plant sy’n derbyn gofal. Roeddwn i’n meddwl y buasai hynny’n codi, felly deuthum â rhai o’r ffigurau ar gyfer hynny, ac wrth edrych drwyddynt, rydym yn bwriadu craffu ar y gost gyffredinol a gwerth am arian yr ystod o wasanaethau sydd wedi’u hanelu at wella canlyniadau i blant sy’n derbyn gofal. Ond mae hwn yn faes mor enfawr...
Nick Ramsay: Diolch i chi, Oscar, a diolch i chi am eich geiriau cynnes. Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chi ar y pwyllgor dros yr ychydig fisoedd diwethaf hefyd. Nid wyf yn credu mai cais oedd hwnnw i ni alw Tony Blair i Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cymru—o leiaf, nid wyf yn cymryd mai dyna oedd—ond rwy’n derbyn eich pwynt. Y pwynt yw, fel pwyllgor, rydym yn rhydd i ofyn i unrhyw aelodau o’r...
Nick Ramsay: Buaswn yn cytuno gydag agoriad sylwadau’r Aelod yno. Rydym yn gymysgedd eclectig ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Dewisais fy ngeiriau’n ofalus yno. Rydym yn cyfnewid safbwyntiau’n frwd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd lle y bo angen, ond mae gan unigolion eu barn eu hunain hefyd. Rydych yn llygad eich lle hefyd, Neil, fod hwn yn bwyllgor gyda llwyth gwaith hynod o ddifrifol, llwyth...
Nick Ramsay: Hoffwn ddiolch i Mike Hedges am ei eiriau cynnes yno. Rydych yn gywir; mae’n teimlo’n aml fel proses ddiddiwedd. Gwn fod gan bob un o bwyllgorau’r Cynulliad hwn waith caled i’w wneud, ond rwy’n meddwl ei bod yn anarferol i bwyllgorau newid gêr cymaint ag y gwnawn ni, o un maes i’r llall, ac weithiau o fewn y cyfarfod pwyllgor; pa un a ydym yn edrych ar fater iechyd neu blant...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i chi am y cyfle i siarad heddiw ac i roi gwybod i fy nghyd-Aelodau Cynulliad am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gyfrifol am ystyried ac ymchwilio adroddiadau gwerth am arian a gynhyrchir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Hyd yma yn y Cynulliad hwn, rydym eisoes wedi ymgymryd â nifer o...
Nick Ramsay: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Fel y gwyddoch, rwy’n siŵr, mae gennyf ddadl fer yn ddiweddarach heddiw ar fargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd. Nid chi fydd yn ymateb; Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid fydd yn gwneud hynny. Yn y ddadl honno, byddaf yn nodi’r ffaith ei bod yn fargen sydd â llawer o botensial ar gyfer y dyfodol, ac yn amlwg, bydd yn ymwneud â thyfu...
Nick Ramsay: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer cryfhau cymunedau yng Nghymru? OAQ(5)0098(CC)
Nick Ramsay: Diolch am eich datganiad, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd, fel y dywedodd Janet Finch-Saunders yn gynharach, am y naws yr ydych wedi’i gosod yn y datganiad hwn. Mae ychydig yn wahanol i naws eich rhagflaenydd. Rydych yn ymddangos—nid wyf yn sôn am Jane Hutt; rwy’n sôn am eich rhagflaenydd llywodraeth leol—fel eich bod yn gwrando ychydig mwy. Mae hynny i’w groesawu yn wir, ac...
Nick Ramsay: Rwy’n falch o siarad am yr hyn y credais ei fod yn gynnig cydsyniol—nid wyf mor siŵr erbyn hyn, ar ôl gwrando ar sylwadau Neil McEvoy, ond rwy’n gobeithio y gall pob plaid yn y Siambr gytuno ynghylch rhai o ddaliadau allweddol y cynnig hwn. Mae hon wedi bod yn wythnos hanesyddol, wedi’r cyfan: hanner canmlwyddiant creu tref newydd Milton Keynes—byd newydd dewr o ryddid, neu...
Nick Ramsay: Pa gamau y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cymryd i gefnogi busnesau bach yn Sir Fynwy?
Nick Ramsay: Brif Weinidog, es i i frecwast ffermwyr blynyddol Undeb Amaethwyr Cymru yn adeilad y Pierhead y bore yma, wedi’i lywyddu gan Paul Davies—digwyddiad gwych, fel bob amser. Roedd ffermwyr yn awyddus, a hynny’n ddealladwy, i gael eglurder ynghylch y system taliadau fferm a fydd yn cael ei chreu ar ôl i’r DU adael yr UE, pan fydd hynny'n digwydd yn y pen draw. A allwch chi roi'r...
Nick Ramsay: Diolch am ildio; rwy’n cytuno â phopeth a ddywedoch yno, Adam Price. Rhan o’r broblem yw, er bod yr ailbrisio’n dod yn weithredol ym mis Ebrill, mae nifer o fusnesau’n gorfod penderfynu a ddylent arwyddo eu lesoedd yn awr, ar hyn o bryd, a heb wybod pa fath o system rhyddhad ardrethi a fydd ar waith, pa becyn cymorth fydd ar waith ar eu cyfer ym mis Ebrill, mae rhai ohonynt yn dweud,...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Heddiw, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch y cyllid ychwanegol o £10 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes a gyhoeddwyd cyn y Nadolig. Bydd ailbrisiadau ardrethi busnes Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn arwain, fel y gwyddom, at fusnesau mewn rhai rhannau o Gymru yn wynebu codiadau anferth yn eu hardrethi. Gadewch i ni fod yn glir...
Nick Ramsay: A fyddai'r Aelod ildio ar y pwynt hwnnw?
Nick Ramsay: Diolch i chi am ildio, Rhun. Rwy’n deall yn iawn eich bod chi’n anghytuno ag elfennau o’r Bil hwn. Fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud, nid yw'n berffaith mewn unrhyw fodd. Fodd bynnag, mae gwrthod y fframwaith cyllidol a drafodwyd gennym yn gynharach yn natganiad Ysgrifennydd y Cabinet fel elfen gadarnhaol yn unig—dewch, rydym wedi bod yn galw am ddiwygio Barnett ers i mi fod yma,...